Y Rownd Derfynol - Dros Yr Aber v Tir Iarll
1 Pennill bachog (rhwng 4 a 8 llinell): Adroddiad Ysgol Unrhyw Wleidydd
Dros yr Aber
Adroddiad Ysgol Donald Trump
Nid yw yn hoffi gwrando,
nid yw’n deall y gair ‘ust’.
Aiff popeth ’ddysgwn iddo
fewn ac allan drwy un glust.
Iwan Rhys 9
Tir Iarll
Marged Roberts. Sut ga’i ddweud?/Mae’n eneth go arbennig
yn gwneud ei gorau glas bob tro –/yn hyn o beth mae’n styfnig;
mae’n gamster ar luosi hir,/ y rhannu’n llai boddhaol,
ac unig wall ei ’sgrifen dwt/ yw troi pob “i” ’n “u-bedol”.
Mererid Hopwood 9
2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw bentref yn nalgylch y Steddfod
Dros yr Aber
At wraig, y Graig i Rigos
aeth yn ôl am fwythau nos.
Carwyn Eckley 8.5
Tir Iarll
GΕµr prysur yw Emyr os
yw ei wraig dal yn Rhigos.
Aneirin Karadog 8.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘‘Mae sôn fod yr Orsedd eleni’
Dros yr Aber
Mae sôn fod yr Orsedd eleni
o’r diwedd â rhywrai i’w noddi.
Bydd rhai yn gwneud ffα»³s
ond Wellingtons-Plus
a Bedsheets'R'Us, pwy well gei-di?
Rhys Iorwerth 8
Tir Iarll
Â’r lido ‘mond ganllath o’r meini,
mae sôn fod yr orsedd eleni
am gerdded drwy’r maes,
nid mewn gynau llaes,
ond Speedos a three-piece bikini.
Gwynfor Dafydd 8.5
4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Prentisiaeth
Dros yr Aber (CE)
(Ddegawd ers marwolaeth Gerallt Lloyd Owen)
Nid o’wn yn ei ’nabod o,
ei wên dyner na’i dân-o.
Eto, fo yw ’mhrawf o hyd;
rhywfodd, fy athro hefyd.
Yn finiog y cefnogai
eiriau llac y ’sgwennwyr llai
ac â’i lais ar donfedd gwlad,
rhoddodd waed i’n traddodiad.
Heddiw, ei ddisgynyddion
yw’r rhai sydd, drwy’r gyfres hon,
yn tynhau’n gwaith, tynnu’n gwallt
i gyrraedd safon Gerallt.
Carwyn Eckley 10
Tir Iarll
(I Siwan a Guto, sy’n disgwyl eu babi cyntaf ymhen y mis)
Mewn llofft sbâr, synhwyra’r nos
dynerwch crud yn aros
ers yn hir, ac aros wna
holl liwiau’r dillad lleia;
mae’r hyfrytaf o’r hafau
eto i ddod i’r tΕ· i ddau.
A dyddiau, lle bu deuddyn,
angof ânt, a’r ie’ngaf un
yn dod i’ch gwneud ar y daith
yn rhieni ar unwaith;
prysured traed bach Medi
draw â’r wyrth i’r tΕ· i dri.
Tudur Dylan Jones 10
5 Triban beddargraff perchennog siop deganau
Dros yr Aber
Yn hardd a chain, o Lego
fe godwyd cofeb iddo.
Ond yn ei dempar daeth i’r sgwâr
ryw dodlar a’i dinistrio.
Marged Tudur 8.5
Tir Iarll
Perchennog Siop Jig-so
Ar ôl y ddamwain honno
Mae’i lun ar glawr ei focs-o
Yn fodd i weld ar ddydd y Farn
Os yw pob darn yn ffitio.
Tudur Dylan Jones 9
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Torri Record
Dros yr Aber (RhI)
(Yr yrfa rygbi fyrraf erioed)
Dydw i methu chwara rygbi, gen i goesau lot rhy fain,
a rhyw agwedd at sgarmesu debyg iawn i un fy nain.
Gen i fol fel prop (bol cwrw). Ond mewn sgrym, yng nghanol hwrdd,
gen i deimlad reit uffernol ’sa ’mhen i’n fflio ffwrdd.
Yn yr ysgol, o’n i’n hoffi ’studio Waldo (a mynd yn styc).
Dim chwara efo peli a chlustiau mewn ryw ryc.
Nid Jona Lomu oeddwn, ond yn hytrach, matchstick man.
O’n i fwy fel Saunders Lewis, jest yn llawer iawn mwy gwan.
Eto i gyd, roedd hi’n argyfwng un pnawn ar dîm y dre.
Dewi Tractor ’di anafu, felly dewiswyd fi yn lle.
Ac i ffwrdd â fi a fy sbectols yn simsan ar y cae,
yn teimlo fatha Danial o’r Beibl yn y ffau.
Ond gath Danial ei blwming achub rhag y llewod gan ei Dduw.
Esh i i faes y Morfa i gael fy llowcio’n fyw.
Ar ôl chwinciad, ces ddymp tacl gan Oliath ugain stôn.
Oedd y ’nghoesa yn G’narfon ond fy sbectols yn Sir Fôn.
Peth ola dwi’n ei gofio ydi mynd i mewn i maul.
Fel crempog, ar y stretsiar, esh i’r stafell newid ’nôl.
Tri deg eiliad ’barodd; roedd fy ngyrfa rygbi ar ben.
Drannoeth, ailddarllenais Buchedd Garmon a Dail Pren.
Rhys Iorwerth 9.5
Tir Iarll
Rwyf finnau’n record-dorrwr, a byddaf hyd fy medd
Rhwng cloriau llyfr Guinness heb symud dim o’m sedd.
Fe dorrais un wrth wrando ar Andrew RTD,
Am ocheneidio’n hirach na’r un ochenaid fu.
Fy record i am gwyno am dywydd gwael o hyd
A ildiais yn anochel i ffermwyr doeth y byd.
Fy record dweud celwyddau a saif ‘da’r hiraf sydd
Ers ennill ras Olympaidd a chadair Pontypridd.
Fe dorrais innau’r record am fynd i’r môr ar ras,
Ac wedi’r trobwynt tyner, yr un am redeg mas.
Y fi biau’r record wedyn am gerddi gorau’r iaith
O leiaf, yn fy stryd i…. neu’r tΕ· - mae hynny’n ffaith.
Fe wnes i fwy o wallau cynghanedd ar fy hynt
Na’r record a osodwyd gan Tudur Dylan gynt.
Fe gaf un record arall nas torrir o hyn mla’n
Am ‘glap a barodd hiraf ar dalwrn am y gân.’
Emyr Davies 9
7 Ateb llinell ar y pryd – Es i weld Tom Jones ei hun
Dros yr Aber
Es i weld Tom Jones ei hun
‘Madael yn sex bomb wedyn
Carwyn Eckley 0.5
Tir Iarll
Es i weld Tom Jones ei hun
Mi ydw i’n sex bomb wedyn
Aneirin Karadog 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Annibendod
Dros yr Aber (MT)
Dwi’n ei weld
drwy ddrws cilagored y cwt
yn chwilio am rywbeth yn y bocs tΕµls.
Y dwylo fu’n gludo gwadn rhydd i’w le,
clymu braich am ysgwydd dol,
ailosod cadwyn beic,
codi silff lyfrau wedi sigo,
chwythu anadl i bêl wedi byrstio
a chyn i Mam ddod adra,
troi’r siwrwds yn jwg eto.
Mae’n tyrchu o dan y fainc,
rhwng y potiau paent sydd bron yn wag,
yn y tun hoelion wedi rhydu,
er ei fod yn gwybod lle mae pob dim.
Efallai ei bod hi’n haws iddo gredu
y gall mymryn o dâp a glud
fy nhrwsio innau.
Marged Tudur 10
Tir Iarll
Annibendod
Ar un adeg yn 2020, Tonyrefail oedd yr ardal â’r gyfradd uchaf
o farwolaethau yn sgil Covid-19 trwy Gymru a Lloegr
Dwi’n colli, weithiau, batrwm dyddiau’r Clo,
yr oriau hir yn tocio blodau’r ardd
a dyfrio hadau newydd, yn eu tro,
nes iddynt dyfu’n wledd o lysiau hardd.
Yr haf heb gyfrifoldeb yn y byd
ond mynd am dro dan heulwen trwm-ei-glyw,
a’r piano esgeulusais ers cyhyd
yn cael anadlu’n iach drwy’r stafell fyw.
Ond wedyn, wrth gymoni’r borfa las,
rhwng golchi’r llestri, smwddio, gosod bwrdd,
yr oedd, tu draw i’r glwyd, hen beswch cas...
sΕµn ambiwlans yn dod, a gyrru i ffwrdd.
A chyn i’r nos nesáu, awn i roi trefn
ar flodau coeth a chymen yr ardd gefn
Gwynfor Dafydd 10
9. Englyn ar y pryd – ‘tai teras neu tΕ· teras’
Dros yr Aber
Fesul tΕ· a’r nos yn duo , wylwn
Ond â’r waliau’n gwrando,
Rhannwn ein cysur heno
Rhannu’n taith dan yr un to
10
Tir Iarll
Gwêl rai brinder mewn teras – ond
Dyma yw fy nheyrnas,
Mi hawliad i fy mhalas-
Y tΕ· lleiaf mwyaf mas
10