Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Dau o rai drwg - Arianrhod a Gronw PerfLleu
Plant ar eu traed a'u dwylo yn yr awyr!

Allwch chi ddim dadlau gyda llond theatr o blant.
A doedd yna ddim dadlau am ymateb cynulleidfa niferus Theatr y Pafiliwn Y Rhyl i'r perfformiad cyntaf yno o banto diweddaraf cwmni Mega, Lleu.

Blodeuwedd Yn nhraddodiad y cwmni hwn, panto wedi ei sylfaenu ar un o chwedlau'r Mabinogion yw hwn ac yn parhau ar daith o amgylch Cymru tan fis Ionawr nesaf gan ddod i ben yn y Riverfront, Casnewydd.

Ac yn ôl Dafydd Hywel, yr arian byw y tu ôl Mega, arwydd calonogol o lwyddiant y panto Cymraeg blynyddol hwn yw y bydd tri pherfformiad dros ddau ddiwrnod yng Nghasnewydd, Ionawr 22 a 23 2009.

Bu'r cwmni yn cynnal pantomeim er 1994 gan arloesi trwy ganolbwyntio yn bennaf ar straeon o'r Mabinogion yn hytrach na'r themâu pantomeim arferol.

Ond y presennol, wedi ei sylfaenu ar chwedl Lleu Llawgyffes, fydd yr un Mabinogaidd olaf gan wneud hon, yn ei ffordd, yn daith hanesyddol.

Blodeuwedd a'r dawnswyr Yn hanesyddol am reswm arall hefyd;
Gan nad oes Theatr Gwynedd i ymweld â hi ym Mangor eleni yr ofn oedd y byddai'r ardal honno a'i chynulleidfa niferus yn cael ei hamddifadu o banto Cymraeg - nes i Mici Plwm ddod i'r adwy a threfnu perfformiadau Rhagfyr 11 a 12 mewn adeilad ar faes amaethyddol Mona, o bobman, cartref preimin neu sioe amaethyddol Môn.

Mae Theatr y Pafiliwn yn Y Rhyl yn un â chymylau bygythiol drosto hefyd a diau i'r lliaws o blant a deithiodd yno o bell ac agos Rhagfyr 1 fod yn atgyfnerthiad i ddadl y rhai sydd am ddiogelu'r lle.

Cyfuniad o lol, dawns, cân a dwli wedi ei seilio ar chwedl Lleu Llawgyffes yw Lleu a'r stori yn cychwyn gyda baban bychan yn syrthio i'r ddaear yn dilyn brwydr ffyrnig "rhwng eryr yr haul a helwyr y nos".

Bryn Sbwriel Dyma Lleu (Trystan Llyr) a dilyn hynt a helynt ei garwriaeth ef â Blodeuwedd (Glesni Fflur) brydweddol y mae'r panto a chymorth Bryn - Gwydion - Sbwriel (Erfyl Ogwen Parry) efo 'wheelie bin') i droi'r drol ar y gynllwyngar Arianrhod (Carys Eleri) a Gronw Perf (Trystan Wyn).

I oedolyn sy'n gyfarwydd â'r chwedl gallai'r cyfan ymddangos yn ddryslyd - a swnllyd - iawn ond yr oedd y plant wrth eu boddau gan ymateb gyda'r cymhelliad leiaf i'r hyn oedd yn digwydd ar y llwyfan gan ei gwneud hi'n hawdd iawn i'r actorion eu trin.

Yr oedd y theatr yn fyddardod o sŵn a'r gynulleidfa ar ei thraed gyda'i dwylo yn yr awyr yn ystod rhai o'r caneuon.

Ac er bod gwedd wahanol i'r 'dihiryn' eleni gydag Arianrhod yn ddeniadol bryd olau yn hytrach na'r hagr tywyll arferol denodd Carys Eleri ymateb gwych.

Blodeuwedd Yr un modd yr ymateb i Fryn Sbwriel Erfyl Ogwen Parry a gymerodd ei le arferol yn chwarae'r cymeriad doniol sy'n hanfodol i unrhyw bantomeim.

Bu gwrandawiad da i'r caneuon hefyd er bod y system sain yn golygu nad oedd y geirio'n gwbl eglur bob amser gan gynnwys yn ystod cân agoriadol Blodeuwedd.

Ar gyfer mamau a thadau yn y gynulleidfa roedd fersiwn a allai fod wedi parhau'n hirach o Ie, Ie, Na Fe y Tebot Piws ac, yn annisgwyl i rai, Tylluanod R Williams Parry trwy law Hogia'r Wyddfa.

A doedd R Williams Parry ddim yn rhywun yr oeddech yn disgwyl dod ar ei draws mewn pantomeim - ond y mae i dylluan, os nad tylluanod, le o bwys yn chwedl Lleu.

Gwir na chadwyd yn gwbl driw i'r chwedl wreiddiol ond yr oedd yn esgus ac yn rheswm i blant ymgyfarwyddo â'r chwedl honno ar eu dychweliad i'w hysgolion.

Diau y byddai rhai wedi eu trwytho cyn dod!

Arianrhod, Blodeuwedd a Lleu Mae pantomeimiau Cymraeg Mega yn osgoi o fwriad rhai o gonfensiynau y pantomeimiau Saesneg traddodiadol fel y 'Dame' a chael merch yn 'arwr' - ond dydi'r sioe ddim i'w gweld yn dioddef oherwydd hynny ac mae'n hyfryd cael sail Gymraeg a Chymreig i'r cyfan.

Ond mae rhywun yn gofidio fod yr arferiad o gael jôcs ciami yn gyforiog o eiriau mwys wedi ei hepgor hefyd. Mae angen y rheini, ar gyfer yr oedolion yn y gynulleidfa yn bennaf.

Ond pan yw plant yn ymateb fel y gwnaeth cynulleidfa'r Rhyl i "Howdi dwdi dwdi" Bryn Sbwriel pam dylai Mega boeni?

Wedi'r cyfan, waeth ichi heb na cheisio dadlau â llond theatr o blant.

Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad o Martin, Mam a'r Wyau Aur gyda Martin Geraint

  • Dilyn chwedl Lleu


  • Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý