Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Iwan LlwydMae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
Cymerodd y rhyfel fywyd y bardd - ond mae ei waith yn dal gyda ni . . .
  • Adolygiad Glyn Jones o Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr gan Iwan Llwyd. Llwyfan Gogledd Cymru.


  • Roedd taflen Theatr Gwynedd yn addo pethau mawr gan y ddrama hon.
    Chwyldro i bob pwrpas.

    Awgrymai fod dylanwad comiwnyddiaeth ar Hedd Wyn ac mai cynllwyn gwleidyddol oedd ei wobrwyo â'r gadair.

    Ffwlbri noeth.
    Pe gwyliasid y ddrama drwy chwyddwydr ni welid yr un edefyn o'r rhain ar ei chyfyl.

    Yr hyn a geir yw dehongliad Iwan Llwyd o oriau olaf y bardd ifanc - a dehongliad digon cyffredin a dweud y lleiaf.

    Tafarn lom yng Ngwlad Belg yw'r lleoliad, y storm y tu allan yn ein hatgoffa o'r frwydr fawr sydd i ddigwydd y diwrnod canlynol.

    Cyfarfyddwn â'r ferch weini drasig a'i hesgidiau coch (Rhian Blythe,) y swyddog o Rwsia (Huw Garmon) gyda jôcs am y Kaiser, y Tsar a Brenin Lloegr, a Hedd Wyn (Huw Llyr) sy'n gwrando'n gwrtais ond a'i feddwl yn bell.

    Brwydr egwyddorion
    Fel yr â'r ddrama rhagddi, try'r cellwair diniwed rhwng y cymeriadau yn frwydr egwyddorion grasboeth.

    Hedd Wyn am weinio'r cledd a throi geiriau'n arfau, y swyddog am dewi'r gân a dadweinio'r cledd. Y ferch weini yn eu hatgoffa, "Daeth y rhyfel yma ata i" ac nad oedd ganddi ddewis.

    Os oes rhinwedd i'r ddrama dangos effaith seicolegol rhyfel ar unigolion a chymdeithas yw hynny - pethau na all tablau gwariant ac ystadegau marwolaeth eu dangos.

    Tri chymeriad - tri theip
    Mae'r tri chymeriad yn cynrychioli tri theip gwahanol mewn cymdeithas.
  • Y ferch weini ifanc, bywyd ar blât arian o'i blaen nes daeth y rhyfel i'w gipio oddi arni. Fel miloedd o ferched tebyg iddi, collodd ei chariad, ei gobaith a'i dyfodol.
    Adlewyrchir hyn yn wych yn y ddrama - mae'r ferch yn byw i ddawnsio, ond does neb i ddawnsio gyda hi.

  • Mae'r swyddog Rwsiad sy'n cynrychioli'r dyn dosbarth canol a fu'n byw yn ddigon cyffyrddus hyd oni ddeffrowyd y diafol ynddo gan y rhyfel.
    Dyma'r propaganda ar goesau sy'n ysu am i'r dynion ifanc ruthro i'r frwydr dros drefn newydd.
    A dyma'r dyn sy'n eistedd yn ei swyddfa yn llowcio chwisgi tra bo'r milwyr ieuanc yn farw ar faes y gad.

  • A dyna Hedd Wyn; un o'r miloedd a orfodwyd i ymladd tros bethau na wyddai ddim amdanynt.

    Mwy o fardd nac o ddyn?
    Ond dydyn nhw ddim yn gymeriadau sy'n argyhoeddi'n llwyr.
    Oedd, roedd Hedd Wyn yn fardd ond roedd yn ddyn hefyd ond ychydig iawn a glywn am ei fywyd personol, ei deulu, ei ofnau a'i obeithion.

    Cynganeddion yn hytrach na gwaed sy'n ffrydio drwy'i wythiennau.

    Ond llwyddodd y troslais ohono'n darllen o'i ddyddiadur i'w wneud yn fwy meidrol rywsut, yn fwy o filwr ac yn llai o fardd.

    Mwy trasig yn Woolworth!
    Am y ferch weini, mae merched mwy trasig na hon yn gweithio yn Woolworths.

    Cyfeiria yn dragywydd at "Fy ngyrrwr trên," a phrynodd esgidiau coch iddi hi ei hun yn enwedig ar ei gyfer.

    Ond wedi un ddawns â Hedd Wyn mae'n anghofio amdano'n llwyr. Ymbilia ar Hedd Wyn i "aros yma gyda fi, i ddawnsio" ond ymaith yr aiff y bardd.
    Eto, ni chyll y ferch ddeigryn.

    Ni allwn gydymdeimlo â hi.

    A beth ar y ddaear y mae swyddog o fyddin Rwsia yn ei wneud yn Fflandyrs?

    Yr actorion
    Nid beirniadaeth ar yr actorion yw hyn. Gwnaethant yn dda iawn â'r ddeialog a roddwyd iddynt ac ar adegau roedd yr actio yn codi i dir hynod uchel, megis wrth actio'r seremoni gadeirio.

    Y gwendid oedd diffyg gweledigaeth. Prif ffocws y dramodydd oedd cadair wâg Penbedw. Stori y gallem ei hadrodd yn ein cwsg.

    Collwyd cyfle i gynnig rhywbeth newydd, annisgwyliadwy, i'r gynulleidfa. Beth petai Hedd Wyn yn meddwi, yn ceisio ffoi o'r fyddin, yn ymweld â phuteindy neu yn lladd rhywun mewn pwl o wylltineb?

    Diflas braidd oedd y dechrau hefyd, yn llusgo am ugain munud nes deallodd y dramodydd fod yn rhaid cael gwrthdaro mewn drama.

    Byddai drych mwy ar wal y dafarn wedi bod yn fanteisiol er mwyn gweld adlewyrchiad o gymeriad pan fo'n troi ei gefn i edrych yn y gwydr.

    Eironi dramatig
    Er hyn oll, roedd nifer fawr o gryfderau. Yn un peth, y defnydd o eironi dramatig.

    Y mae rhywbeth yn boenus ryfeddol pan eir ati i actio'r seremoni gadeirio, y gadair mae Hedd Wyn mor sicr ei fod wedi ei hennill, ond y gadair y gwyddom ni nad eistedd ynddi fyth.

    Yn yr un modd, y swyddog Rwsiaidd sy'n breuddwydio am drefn newydd, well, yn ei wlad.

    Ni allwn beidio â gwingo wrth gofio bod Rwsia 1917 ar drothwy chwyldro Comiwnyddol gwaedlyd.

    Roedd y defnydd o gyferbyniaeth yn wirioneddol wych a chyfyd y ddrama i'w huchafbwynt pan ddaw'r swyddog i amharu ar y seremoni cadeirio. Mewn eiliad, mae'r hapusrwydd yn gasineb ac yn lle gweinio llafn y cledd fe'i tynnir o'r wain uwch yr orsedd heddwch fel mae'r golau'n pylu.

    Am ennyd yr hyn sydd o'n blaen yw uffern ar y ddaear.
    Colomen a diafol wyneb yn wyneb.
    Mae eiliad o ddefnydd theatrig dychmygol filwaith gwell nag ugain munud o barablu gwag.

    A diwedd y ddrama. Llais yr archdderwydd yn cyhoeddi heddwch uwch sŵn y gynnau. Trawiadol iawn, a hynod eironig.

    Roedd yr iaith yn brydferth, ac yn llawn disgrifiadau barddonol megis 'afonydd gwaed' ac 'awyr borsalin' - iaith y byddai Saunders Lewis ei hun yn falch ohoni.

    Roedd yn hen bryd i rywun ddod ag iaith fel hon yn ôl i'n llwyfannau a'u puro o'r Saesneg a'r rhegfeydd sy'n meddiannu cymaint o'n dramâu cyfoes.

    Symud y statig
    Rhaid canmol y cyfarwyddwr, Ian Rowlands, hefyd am ddod â bywyd a symudiad i ddrama statig a'i hachub rhag boddi mewn diflastod.

    Roedd yr olygfa honno o Hedd Wyn a'r ferch weini yn dawnsio yn dangos bod ychydig eiliadau o hapusrwydd byrhoedlog i'w gael yn nherfysg eithaf rhyfel hyd yn oed. Felly hefyd yr olygfa o Hedd Wyn yn hudo Alois i'w freichiau gyda detholiad o Yr Arwr. Bendigedig.

    Y cwestiwn mawr a gododd y ddrama yw beth yw perthynas celfyddyd a rhyfel. Mae rhyfel yn effeithio ar farddoniaeth, weithiau er gwell. Anos, fodd bynnag, yw gweld p'run ai'r awdl, neu'r arfau sydd gryfaf.

    Cymerodd y rhyfel fywyd y bardd, ond erys gwaith y bardd gyda ni hyd heddiw, flynyddoedd wedi i'r rhyfel orffen.


  • Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Rhagor am y ddrma - barn a sgyrsiau


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý