Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Linda a Waldo yn y ddramaLinda - Gwraig Waldo
O lawenydd i dristwch
  • Adolygiad Gwyn Griffiths o Linda - Gwraig Waldo. Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw. Theatr Crwys, Caerdydd. Mai 19, 2006.


  • Cefais y teimlad - a mynegodd un neu ddau arall deimladau cyffelyb - i mi fod yn dyst i rywbeth ysgytwol bwysig.

    Drama yw Linda am berthynas a phriodas trychinebus o fer Waldo Williams - un o feirdd enwocaf a phwysicaf Cymru yr ugeinfed ganrif - a Linda Llewelyn.

    Waldo Williams Y cwmni oedd Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw, Ceredigion, a'r lle oedd Theatr Capel y Crwys, Caerdydd - unig ymweliad y cwmni â'r Gymru y tu hwnt i'r fro Gymraeg.

    Hwn hefyd oedd perfformiad olaf y daith.

    Amryw yn adnabod
    Yn rhan o batrwm taith a nodweddwyd gan berfformiadau mewn festrïoedd capel a neuaddau pentref dewisodd y cwmni ymweld â theatr fechan y Crwys yn hytrach nag un o theatrau arferol Caerdydd.

    Yr oedd honno'n llawn i'r ymylon o bobl, amryw ohonynt yn adnabod Waldo - ac os nad hynny'n adnabod ei fro.

    Ffigwr annelwig fu Linda. Gwraig anenwog i ŵr mor enwog. Eto, yr oedd eu perthynas, fel y cyfaddefodd Waldo mewn sgwrs gyda T. Llew Jones ym 1965, yn cynrychioli un o gyfnodau dyfnaf a dwysaf ei fywyd.

    Dim ond dwy flynedd
    Cyfnod yn cychwyn gyda llawenydd mawr eu carwriaeth a'u priodas ond yn gorffen gyda'r cyfnod o dristwch affwysol a ddilynodd ei marwolaeth o ddarfodedigaeth wedi dim ond dwy flynedd o ddedwyddwch priodasol.

    Dyna gwmpas drama ardderchog Euros Lewis, drama sy'n bwrw goleuni newydd ar farddoniaeth Waldo Williams a, greda i, ar ei gyfriniaeth.

    Merch o'r Maerdy, Rhondda Fach, oedd Linda Llewelyn ac ar wyliau ym mro mebyd ei rhieni y cyfarfu â Waldo.

    Mae yma asbri a llawenydd dau ifanc mewn cariad.
    Y cyfarfod wrth yr iet - "iet again", meddai Waldo!
    Y beicio egnïol drwy'r wlad.

    Bwgan y rhyfel
    Ond mae rhyfel yn fwgan - fel cawr mawr du hunllefau ei blentyndod ym Mynachlog-ddu - a chysgod dros y cyfan.

    Yr oedd Waldo'n wrthwynebydd cydwybodol ac yr oedd y boen a enynnai erchyllterau dyn at ddyn yn ei sigo i'w sodlau.

    Cafodd ei erlid o'i swydd yn brifathro dros dro Cas-mael gan Awdurdod Addysg Sir Benfro, nid un o'r awdurdodau tebycaf o gydymdeimlo â heddychwr.

    Hynny er ei fod yn 35 oed ac yn rhy hen i orfod mynd i'r rhyfel. Beth bynnag, cafodd swydd athro Saesneg yn Ysgol Botwnnog a pharhaodd gwynfyd ei fywyd a'i berthynas â Linda.

    Yna daeth diwedd ar yr asbri a'r llawenydd. Canfuwyd bod Linda'n dioddef o'r ddarfodedigaeth.
    Trodd y ddawns o lawenydd yn dristwch truenus.
    Ni chafwyd y gyfrol farddoniaeth a fwriadodd i groesawu Linda o'r ysbyty.
    Aeth tair blynedd ar ddeg heibio cyn cyhoeddi Dail Pren sy'n arwydd o faint yr ergyd a gafodd pan fu farw'i wraig ifanc.

    Clyfrwch tawel
    Mae i'r ddrama lawer iawn o glyfrwch disylw. Gwelwn gyfriniaeth Waldo ochr yn ochr â sylwadau gwerin gyffredin ei fro, weithiau'n cydymdeimlo'n annwyl garedig; ambell dro'n greulon.

    Cawn gymhariaeth gyfrwys o stori Waldo a Linda gyda'r chwedl Roegaidd Orpheus ac Eurydice. Mae yma ddefnydd celfydd o ddawns a symud.

    Rwy'n tybio mai Euros Lewis oedd cyfarwyddwr yn ogystal ac awdur y ddrama ac os hynny, haedda ddwywaith y clod.

    Rhaid rhyfeddu sut y llwyddodd i dynnu'r holl ystyron cudd allan o gerddi Dail Pren. Tybiais iddo ddod o hyd i'r cerddi a sgrifennodd Waldo i Linda ond a gollwyd - neu a ddinistriwyd ganddo - wedi ei marw.

    "Mae'r cyfan yn Dail Pren, dim ond darllen rhwng y llinellau," meddai Euros Lewis wrthyf.

    Prif ysbrydoliaeth y ddrama, ychwanegodd, yw'r gerdd Cwmwl Haf, ac un gerdd arall, nas cyhoeddwyd, a sgrifennodd i Linda wedi ei marw.

    Y Cwmni
  • Gair yma am Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw, gan mai hwn oedd y tro cyntaf imi weld cynhyrchiad o'i waith.

    Fe'i sefydlwyd y llynedd gyda'r bwriad o ail egnïo'r ddrama yn nghadarnleoedd y Gymraeg yn y gorllewin a'r canolbarth.

    Y nod yw cyflwyno dramâu cyfoes a chlasurol mewn festrïoedd a neuaddau pentref.

    Os yw'r ddrama a welais yn Theatr y Crwys ar Fai 19 yn llinyn mesur, edrychaf ymlaen at deithio'n ôl i'r gorllewin yn unswydd i weld cynyrchiadau'r cwmni - a hynny'n fuan.

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Bywyd a gwaith Waldo Williams

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý