Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Kitchener DaviesMeini Gwagedd

  • Adolygiad Gwyn Griffiths o gynhyrchiad Cwmni Troed y Rhiw o Meini Gwagedd gan Kitchener Davies. Neuadd Goffa Tregaron.


  • Meddyliais lawer gwaith pam na chawsom yn y Gymraeg nofel amaethyddol yn dinoethi gwir galedi bywyd y wlad, y gobeithion yn troi'n anobaith, y tlodi, yr anghysur.

    Cafwyd amryw yn Ffrangeg - fel Rousille neu Y Tir yn Darfod, cyfieithad T. Ifor Rees o nofel René Bazin, neu La Vie d'un Simple (Bywyd dyn cyffredin) gan Emile Guillaumin.

    Drama arloesol
    Dwy neu dair blynedd yn ôl fe gawsom y fath nofel, Martha, Jac a Sianco - gwaith ardderchog Caryl Lewis.

    Yr hyn na sylweddolais oedd fod y fath ymdriniaeth gennym ers blynyddoedd ym Meini Gwagedd, James Kitchener Davies.

    Prin hanner dwsin o gynyrchiadau a gafwyd o'r ddrama hon a wobrwywyd yn Eisteddfod Genedlaethol Llandybïe, 1944, ac er ei chydnabod yn un o ddramâu mwyaf arloesol ei chyfnod - clywais un yn barnu mai dyma ddrama Gymraeg fwyaf yr ugeinfed ganrif - aeth yn angof.

    Torri'n rhydd
    Profiad amheuthun oedd gweld ei hatgyfodi gan Gwmni Cydweithredol Troed y Rhiw a'i pherfformio gerbron cynulleidfa lawn a gwerthfawrogol yn Neuadd Goffa Tregaron nos Sadwrn, Ionawr 27.

    Cwmni amatur - ond o'r safon broffesiynol uchaf - oedd yn mynd a ni'n ôl i wraidd traddodiad amatur y ddrama Gymraeg y gwyddai Kitchener Davies yn dda amdano.

    A thraddodiad y mentrodd dorri'n rhydd ohono.

    Mae rhyw bŵer rhyfedd, anniffiniol, i gors. Y fawnog gorslyd, y tir a reibiwyd ac a felltithiwyd, yr "uffern lonydd, leddf, ar ryw bell ros".

    Daw nofel Alphonse de Chateaubriant, La Brière, am fywyd ar y gors fawr yn ne-ddwyrain Llydaw i gof.

    Y darlun o wlybaniaeth, o dai afiach, o frwydr â thlodi a'r tyndra rhwng pobol yn ceisio crafu byw.
    Dyna gawn ni yn Meini Gwagedd, hefyd.

    A dyna ble mae'r ddrama'n torri o hualau traddodiad amatur hanner cyntaf ugeinfed ganrif y ddrama Gymraeg. Y tyndra o'i mewn a thu allan - a 'does yna 'run gweinidog ar gyfyl y lle!

    Dwy genhedlaeth
    Rhithiau yw'r cymeriadau, yn dychwelyd o'u beddau ar noswyl Mihangel i adfail Glangors-fach.

    Cawn ddau deulu, Teulu A (neu Y Tri) a Theulu B (neu Y Pedwar).

    Rhwng y tad - neu Y Gŵr - a'r ddwy ferch, Mari a Shani, mae Teulu A yn cynrychioli dwy genhedlaeth.

    Mae Teulu B - Ifan, Rhys, Elen a Sal - dau frawd a briododd ddwy chwaer - yn perthyn i gyfnod, neu genhedlaeth, ddiweddarach eto.

    Mae Teulu A yn gwylio'r hyn sy'n digwydd ond nid yw Teulu B yn ymwybodol o bresenoldeb y rhai sy'n eu gwylio.

    Mae Y Gŵr, sef tad y ddwy ferch yn Teulu A, wedi melltithio'r tir a'r tyddyn am i'w ddwy ferch gefnu ar eu treftadaeth a mynd i fyw fel "lâdis" i'r dref.

    Mae'r felltith yn golygu bod yn rhaid iddynt ddioddef hyd dragwyddoldeb ddirmyg eu tad am yr hyn a wnaethant.

    Ond mae'r felltith hefyd yn syrthio ar deulu B a gymerodd y tir a'r tyddyn ar brydles oddi ar y ddwy ferch o Deulu A ac y mae holl obeithion Y Pedwar yn chwalu dan eu dwylo.

    "Y gwair yn pydru ar yr adladd,
    y llafur yn egino'n y stacan, a'r helmydd heb eu toi tan Nadolig,
    y tatw'n rhewi'n y cladd, a'r mawn ar y gors heb eu codi,
    buwch gyflo yn rhwygo ei chader ar rwd weiren bigog."

    Ail fyw trychinebau
    Penyd aelodau Teulu B yn y ddrama yw gorfod dioddef ail-fyw trychinebau bywyd yng Nglangors-fach.

    Yn y gwreiddiol mae'r ddrama'n digwydd o fewn muriau murddun Glangors-fach ond daeth y cynhyrchydd, Euros Lewis, a'r cyfarwyddwr, Roger Owen, â gwêdd gyfoes iawn i'r ddrama.

    Ymddengys i ddechrau ei bod yn cael ei chyflwyno fel drama i leisiau gyda'r ddau deulu'n eistedd yn wynebu ei gilydd a'r ddeialog yn torri o'r naill i'r llall.

    Ond o dipyn i beth mae'r cymeriadau'n codi, yn cerdded o gwmpas gan edliw a dadlau ymysg ei gilydd.

    Mae'r tyndra'n drydanol.

    Y gors yn ymlid
    Cawn y gors ei hun, wedyn, yn troi ac yn ymlid Teulu B mewn darn campus o gyfarwyddo.

    Yn ogystal â'r cymeriadau'n gwingo yng ngafael y gors cawn gysgodion yr actorion ar y nenfwd yn ychwanegu at y tyndra.

    Mae yn y ddrama negeseuon clir am bwysigrwydd cadw a pharchu etifeddiaeth - neges sy'n parhau'n berthnasol ar gyrion Cors Caron a llu o ardaloedd eraill yng Nghymru.

    Dotio at yr iaith
    Fy hunan dotiwn at yr iaith.
    Er nad drama mewn tafodiaith fel y cyfryw yw Meini Gwagedd hyfryd oedd clywed hen eiriau a ddiflannodd o'm cof yn cael eu lle a'u parch haeddiannol yn y ddrama.

    Ac actorion lleol ardderchog oedd yn siarad yr iaith a gwybod ystyr y geiriau.

  • Yn ystod yr un noson darllenwyd detholiad o bryddest radio Kitchener Davies, Sŵn y Gwynt sy'n Chwythu, gan ei fab-yng-nghyfraith, T. James Jones.

    Perfformiad synhwyrus a chaboledig arall mewn noson gofiadwy a chyfoethog gyda Chwmni Troed y Rhiw.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • J Kitchener Davies


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý