Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cayl Lewis - awdur Y Stafell ArosYr Ystafell Aros
Gormod o 'ddweud' dim digon o awgrymu
  • Adolygiad Sioned A Williams o gynhyrchiad Cwmni Arad Goch, Yr Ystafell Aros gan Caryl Lewis.


  • Yn ôl eu deunydd cyhoeddusrwydd, nod cynhyrchiad diweddaraf cwmni Theatr Arad Goch. Yr Ystafell Aros yw "bod yn boblogaidd ymysg y gynulleidfa ifanc" er bod y ddrama yn cael ei hysbysebu fel un sy'n addas i blant dros eu 13 oed ac oedolion.

    Ond, wrth reswm, roedd dros draean o'r gynulleidfa yn noson agoriadol y ddrama yn Ysgol Bryn Tawe, Abertawe, dros eu deugain am fod Cymry o bob oedran yn cefnogi cynhyrchiadau Cymraeg, beth bynnag eu natur.

    Hudo'r ifanc
    Dros y blynyddoedd does dim dwywaith bod y cwmni mentrus hwn wedi llwyddo i ddenu a hudo'r ifanc, yn enwedig yn sgil ei berfformiadau i ysgolion.

    Roedd fy nisgwyliadau innau'n uchel felly, yn arbennig am fod y sgript gan yr awdures ifanc ac hynod ddawnus, Caryl Lewis, sy'n un o fy hoff nofelwyr.

    Stori brawd a chwaer yw Yr Ystafell Aros.
    Mae Sion (Ioan Gwyn) a Sara (Mari Beard) yn gorfod ymdopi â'r ffaith bod eu tad wedi gadael y teulu a bod eu mam wedi colli ei phwyll a'i hiechyd ac felly'n methu a'u helpu nhw ar eu taith drwy eu llencyndod.

    Dyw hi ddim yn dod i weld Sion, sy am fod yn actor, yn ei sioe ysgol, nac yn sylwi ar nac yn meithrin dawn Sara mewn celf.

    Y fenyw drws nesa, Jackie, sy'n dipyn o gymeriad, yn dosbarthu pryd ar glud yn ei sodlau uchel coch, sy'n dod i'r adwy ac yn ceisio helpu'r ddau wrth iddynt brifio.

    Trin pobl ifanc
    Fel y rhaglenni "ieuenctid" sy'n ceisio'n rhy galed i fod yn "ifanc" eu hysbryd, mae yna dueddiad weithiau i drin pobl ifainc fel cynulleidfa llai sensitif a llai deallus. Wrth gwrs mae anghenion plant bach yn unigryw, a'u gallu i uniaethu neu i ganolbwyntio yn wahanol.

    Ond erbyn cyrraedd yr arddegau, yn enwedig yn yr oes sy ohoni, mae pobl ifanc yn ddigon abl i wylio ffilm ar ei hyd, neu ddarllen nofel weddol swmpus, a dylai gwaith celfyddydol fel cynhyrchiad theatr barchu'r gallu hwnnw - ac yn wir ceisio ei ymestyn.

    Roedd yn drueni mawr felly bod y sgript yn tueddu i adael dim i'r dychymyg, gan bentyrru deialog di-angen heb roi cyfle i'r stori digon afaelgar hon anadlu.

    Symud, symud, symud
    Gymaint yr awch i symud, symud, symud - rhag ofn y byddai'r plantos yn bored ? - fe gafwyd rollercoaster gwyllt o olygfeydd byrion - a'r hwter oedd yn seinio i nodi terfyn pob un, erbyn y diwedd yn ymdebygu i gorn enwog y sioe radio Just a Minute, mor ffrenetig oedd cyflwyniad y stori.

    Roedd tuedd hefyd gan yr actorion, yn sgil hyn, i ruthro a llyncu geiriau.

    Doedd y golygfeydd gyda chymeriad y fam ddim yn taro deuddeg am eu bod braidd yn felodramatig eu cyflwyniad ac ni chyfrannodd y tro ystrydebol yn niwedd y ddrama ddim ati chwaith.

    Roedd perfformiad Mari Beard, serch hynny, yn gryf iawn fel y chwaer fach sy'n ceisio ffeindio ei ffordd mewn bywyd heb fawr o arweiniad na chefnogaeth, yn enwedig ar ol i'w brawd Sion fynd i fyd y ddrama yn Llundain.

    Llwyddodd i gyfleu datblygiad tawel ei chymeriad a'i hunan-hyder yn effeithiol wrth i Sara lwyddo, er gwaetha holl drafferthion ei bywyd, i gyrraedd hapusrwydd personol llawer mwy cyffredin na'i brawd, sy hefyd yn y diwedd yn gwneud ei farc ym myd y ddrama wedi diodde caledi a phrofiadau ystrydebol y cyw actor.

    Cartwnaidd
    Bydd bywiogrwydd perfformiad Ioan Gwyn yn siwr o apelio at aelodau iau'r gynulleidfa, ond roedd naws gartwnaidd ei bortread o Sion braidd yn undonog ar y cyfan, ac yn wahanol i Mari Beard, fe fethodd â chyfleu tristwch mewnol ei gymeriad.

    Ac yn hyn o beth roedd tuedd y sgript i ddweud pob dim heb awgrymu nac ensynnu braidd yn nawddoglyd i'r gynulleidfa, yn ifanc ac yn hen.

    Enghraifft o ddiffyg cynildeb y sgript oedd y rheidrwydd i ddweud wrthon ni bod awydd Sion i ganu a dawnsio yn deillio o'i fagwraeth anodd ac yn ymateb i dristwch ei fam.

    Roedd portread Ioan Gwyn o Jackie, mewn arddull cymeriad stoc ar lwyfan Noson Lawen, yn ddoniol am ennyd ond yn colli cyfle i gyrraedd lefel emosiynol perthynas Jackie a'r plant.

    Llwyfannu crefftus
    Fel sy'n arferol gyda'r cwmni, cafwyd llwyfannu crefftus a mentrus a'r defnydd o brops a cherddoriaeth yn bwrpasol a di- ffwdan a'r defnydd o sgyrsiau a thonau ar y ffonau symudol yn effeithiol.

    Mae pynciau'r ddrama - goresgyn rhwystrau mawr a bach, union natur llwyddiant, y gwahaniaeth yn y ffordd mae unigolion yn ymateb i'r un sefyllfa - yn cynnig deunydd diddorol a pherthnasol i bob oed.

    Y sgript oedd elfen wanaf y cynhyrchiad a hynny am ei bod yn dweud gormod - heb ymddiried yn y gynulleidfa i fedru dirnad a chlywed ei neges drostyn nhw eu hunain.

    Mae digon i'w fwynhau yma ond gallai'r ddrama fod cymaint yn well petai wedi awgrymu mwy a dweud llai.

    Y daith
  • 6 Tachwedd 2008 - Riverfront, Casnewydd, 7.45pm (Perfformiad Cymraeg)
  • 10 Tachwedd - Ysgol Gyfun Llangefni, Môn, 7.30pm (Perfformiad Saesneg )
  • 11 Tachwedd - Galeri, Caernarfon, 2pm (Perfformiad Cymraeg)
  • 12 Tachwedd - Neuadd Dwyfor, Pwllheli, 7.30pm (Perfformiad Cymraeg)
  • 18 Tachwedd - Canolfan Arad Goch, Aberystwyth, 7.30pm (Perfformiad Saesneg)
  • 19 Tachwedd - Canolfan Arad Goch, Aberystwyth, 7.30pm (Perfformiad Cymraeg)
  • 21 Tachwedd - Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron, 7.30pm (Perfformiad Cymraeg)
  • 26 Tachwedd - Canolfan Gymraeg Merthyr Tudful, 7.30pm (Perfformiad Cymraeg)
  • 27 Tachwedd - Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd 1.30pm (Perfformiad Cymraeg) 2 Tachwedd - Ysgol Gyfun y Cymer, Rhondda, 7.00pm (Perfformiad Cymraeg)

  • Cysylltiadau Perthnasol

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý