Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
Un o ddramâu enwocaf un o gewri'r theatr yw cynhyrchiad nesaf Theatr Genedlaethol Cymru.

Bydd Diweddgan gan y Gwyddel, Samuel Beckett yn cychwyn ar daith oamgylch Cymru Hydref 5, 2006.

Yn ddrama un act a lwyfannwyd gyntaf yn 1956 mae Diweddgan yn cael ei hystyried yn garreg filltir o bwys yn nhraddodiad y theatr absẃrd.

Dioddefaint ac ystyr bywyd
Yn y Ffrangeg, dan y teitl, Fin de Partie, y'i hysgrifennwyd gan Beckett ac mae'n ymwneud â dioddefaint ac ystyr bywyd dyn.

Pedwar cymeriad sydd ynddi ac wedi eu lleoli mewn ystafell foel mae'r pedwar gydol yr amser mewn ofn a phryder bod rhyw newid ar ddod i'w bywyd di-werth.

Drwy gyfrwng iaith a dychymyg maent yn ceisio'n ofer am atebion.

Er mai'r diarhebol Waiting For Godot yw drama enwocaf Beckett y mae Diweddgan hefyd gyda'r pwysicaf o ddramâu y dramodydd unigryw hwn.

Tro cyntaf
"Yng ngwaith Samuel Beckett ar gyfer y llwyfan ceir dylanwad y bwrlésg, y fodfil, y theatr gerdd, y theatr gomedi Ffrengig, a steil ffilmiau mud cymeriadau fel Buster Keaton a Charlie Chaplin," meddai Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Cefin Roberts.

"Dyma'r tro cyntaf i Theatr Genedlaethol Cymru lwyfannu drama sy'n glasur Ewropeaidd a lle sy'n fwy teilwng i ddechrau nag wrth ddathlu genedigaeth Samuel Barclay Beckett union gan mlynedd yn ôl," ychwanegodd.

Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol newydd Cymru gyfieithodd Diweddgan i'r Gymraeg.

Isdeitlau
"Ac am y tro cyntaf defnyddir isdeitlau Saesneg ar sgrîn wrth ochr y llwyfan mewn rhai perfformiadau yn ystod y daith bedair wythnos," meddai Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elwyn Williams.

Lisabeth Miles ac Owen Arwyn "Mae hyn yn estyniad arbrofol i'r sesiynau arferol a gynhaliwyd cyn berfformiadau ar gyfer dysgwyr y Gymraeg ac fe fydd datblygu'r dechneg yma'n ddibynnol ar ymateb y dysgwyr i'r ddarpariaeth newydd," ychwanegodd.

Aelodau'r cast yw Arwel Gruffydd, Owen Arwyn, Lisabeth Miles a Trefor Selway.

Cyfarwyddwr Diweddgan yw Dirprwy Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Judith Roberts, a fu'n gyfrifol am ddau o gynyrchiadau eraill y cwmni.

Y daith
Bydd y perfformiad cyntaf yn Theatr Gwynedd, Bangor, Hydref 5.
Dyma fanylion y daith gyda phob perfformiad yn dechrau am 7.30:
* - isdeitlo.
  • Theatr Gwynedd, Bangor. Hydref 5-7*.
  • Theatr Sherman, Caerdydd. Hydref 11-12*.
  • Theatr Hafren, Y Drenewydd. Hydref 19*.
  • Canolfan Gelfyddydau, Aberystwyth. Hydref 24.
  • Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug. Hydref 27-28*.
  • Theatr Lyric, Caerfyrddin. Hydref 31.
  • Theatr Mwldan, Aberteifi. Tachwedd 3 Tachwedd.

    Bydd y daith yn cynnwys gweithdai arbennig ar gyfer myfyrwyr drama a dysgwyr y Gymraeg, yn ogystal â'r is-deitlo yn Theatr Gwynedd, Bangor; Theatr Sherman, Caerdydd; Theatr Hafren, Y Drenewydd a Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug.

    Samuel Beckett
    Er mai yn Nulyn y ganwyd Samuel Beckett yn ym Mharis y treuliodd lawer o'i fywyd gyda gyrfa hir, anniddig a ffrwythlon a arweiniodd at Wobr Llenyddiaeth Nobel ym 1969.

    Bu farw ym Mharis ym 1989.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Beckett yn Eisteddfod Abertawe 2006


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý