Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Chwedlau Lleol
'Llech Ronw' a'r plant ar y daith yn y cefndir Taith y Mabinogi
Rosie Young yn adrodd hanes taith rhai o ddisgyblion Ysgol y Moelwyn i Gwm Cynfal ac ardal y Mabinogi yng nghwmni Geraint V. Jones:
Aethon ni i ddechrau ar y ffordd i'r Bala ac fe welon ni Sarn Helen, y ffordd oedd yn mynd o Fryn Castell, lle'r aeth Blodeuwedd pan oedd hi yn dianc oddi wrth Gwydion a Lleu reit i lawr i Drawsfynydd ac yn bellach.

Aethon ni wedyn i Tomen y Mur lle roedd llys Lleu a Blodeuwedd. Mae gan yr enw Blodeuwedd gysylltiad efo'r gair tylluan.

Yn y cae o gwmpas y bryn roedd parêd Rhufeinig yn cael ei gynnal flynyddoedd yn ôl. Roedd Gronw Pebr, Arglwydd ar Ben Llyn, yn hela carw o gwmpas Craig Wen pan wnaeth Blodeuwedd ac ef gyfarfod y noson honno.

Ar y pryd roedd Lleu wedi mynd i weld Math.

Rosie, ar y dde, a dwy o'i ffrindiau ar y daithCyn i Gastell Lleu gael ei adeiladu yn anrheg gan Math, roedd baddonau Rhufeinig ger y lle, ac mae'r bryn y gwnaethon ni ei weld wedi cael ei wneud allan greigiau mawr.

Fe aethon ni at lan Afon Cynfal i weld y maen gyda'r twll a ddefnyddiodd Gronw Pebr i arbed ei hun rhag gwaywffon Lleu ond aeth y wawyffon drwy'r maen a tharo Gronw yn ei gefn.

Fe welon ni Fryn Cyfergyd lle'r aeth Gronw Bebr i guddio rhag Lleu ac efallai, meddai Geraint V Jones, fod Lleu wedi taro Gronw Bebr o Fryn Saeth, rhyw ddwy filltir o lle'r oedd o'n cuddio.

Ar ymyl Afon Cynfal casglodd Blodeuwedd ei milwyr pan wnaeth hi ddianc rhag Gwydion, ac mewn un fersiwn o'r stori pan ddaeth Gwydion ar ôl y milwyr roedden nhw wedi troi i edrych arno tra roedden nhw yn rhedeg ac oherwydd hyn fe wnaethon nhw ddisgyn i mewn i'r Llyn a boddi a dyna sut cafodd Blodeuwedd ei dal.

I orffen y daith cawsom gyfweliad gyda Hywel Gwynfryn ar gyfer Radio Cymru. Mi wnaethon ni fwynhau y daith hon yn ofnadwy. Diolch yn fawr i Miss Edwards, ein hathrawes Gymraeg, am drefnu - i Geraint Vaughan Jones am ein harwain a dysgu llawer i ni, i Robyn Williams, athro T.G.CH yr ysgol am holi, ffilmio a thynnu pob math o luniau! a diolch arbennig i Glyn Evans o Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd am y syniad o roi'r daith ar y wefan.

  • Lleoliadau'r chwedl.
  • Chwedl Blodeuwedd.

  • Cyfrannwch

    iwan jones o llan
    Dim hwna ydy y garreg iawn, hen blwch bost ydi o. man y garreg iawn ger afon yn y topiau

    Llinos Orton o Blaenau
    haha, yli ifanc odd rosie, fflur a llio yn y llun na. haha. dallt sut i iwsho digital camera eto girls?


    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Eisteddfodau


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý