Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pishyn Chwech
Hanner dwsin o rai newydd
Adolygiad o Pishyn 6 - Cwmni Inc - gan Angharad Elen

Criw o gyw-sgwenwyr brwd a ddaeth at ei gilydd er mwyn ffurfio cwmni theatr yw Cwmni Inc, a dyma eu hoffrwm cyntaf - Pishyn 6.

.Chwe drama fer gan chwe awdur newydd. Mae'n braf clywed am gwmnïau bychain fel hyn sy'n ffurfio oherwydd angerdd unigolion.

Fel Cwmni Bara Caws ar ddiwedd y 70au, a Chwmni 3D yn fwy diweddar, mae yna rywbeth ysbrydoledig am griw o sgwenwyr, actorion a chyfarwyddwyr yn cynhyrchu dramâu drwy rym eu hewyllys yn unig.

Cwrs sgriptio
Sefydlwyd y cwmni yn sgil cwrs sgriptio o dan arweiniad Dewi Wyn Williams ym Mhrifysgol Caerdydd y llynedd.

Llwyddwyd i ddenu nifer o enwau cyfarwydd i gymryd rhan; Jâms Thomas, Valmai Jones, Janet Aethwy, Olwen Medi, Siân Rivers, Elin Wmffras, Meilir Siôn a Dafydd Emyr i enwi ond rhai, a hyfryd oedd gweld Neuadd Llanofer o dan ei sang.

Gwin a chwrw
Yn hytrach na gosod rhesi o gadeiriau, penderfynodd y cwmni greu awyrgylch fwy hwyliog gan osod y seddi o amgylch byrddau a gwerthu gwin a chwrw i'w fwynhau yn ystod y perfformiadau. Roedd hi'n braf cael ymgom fer a chyfle i ail-lenwi gwydrau rhwng y dramâu.

 Dêtio ar frys
Drama gyntaf y noson oedd Ella Tro 'Ma gan Siwan Haf.
Sgets fach ysgafn mewn gwirionedd sy'n gipolwg ar un cyfarfyddiad rhwng dau mewn sesiwn brys-ddetio.

Down i ddeall fod Branwen (Janet Aethwy) wedi hen arfer â'r math yma o beth a'i bod hi'n byw mewn gobaith mai'r person nesaf fydd Yr Un.

Dyma'r tro cyntaf i Siôn (Dyfan Dwyfor) fod mewn sesiwn brys-ddetio; o ganlyniad mae'n llawn nerfau ac yn rhoi ei droed ynddi yn dragywydd.

O bryd i'w gilydd, mae amser yn rhewi a daw cylch o olau ar y naill gymeriad er mwyn iddynt ddatgelu eu gwir deimladau. Does yna ddim datblygiad yn y cymeriadau yn ystod y ddrama a dyma, yn anad dim, sy'n ei gwneud yn sgets yn hytrach na drama â sylwedd iddi.

Er hynny, mae hi'n ddigon difyr ac yn ddewis da i ddechrau'r noson.

 Salwch meddwl
Colli 'Nabod gan Lowri Roberts ydy'r ddrama nesaf. Olwen Medi sy'n portreadu Anwen, dynes sy'n dioddef yn enbyd o salwch meddwl.

Mawredd y ddrama hon yw ei bod yn gwyrdroi ein disgwyliadau ac yn gwneud inni amau pwy sy'n wallgo mewn gwirionedd.

Mewn monolog farddonol ar ddechrau'r ddrama, galara Anwen ar ôl Hywel ei gŵr sydd wedi ei gadael am ddynes arall, Jody.

Ond down i ddeall yn raddol ei bod mewn ysbyty meddwl ac mai Jody yw'r nyrs greulon sydd yn edrych ar ei hôl (Siwan Bowen Davies).

Yn y ddrama hon mae ysgrifennu mwyaf disglair y noson, yn sicr, ond teimlaf fod yma le i ffrwyno a golygu y dweud.

Cyfrwng gweledol yw theatr, ac mae pob un o'r dramâu yn y casgliad hwn yn dueddol o fod yn rhy llafar o lawer. Byddai'n syniad i bob dramodydd gofio y gall y pethau nas dywedir yn aml iawn fod yn ddifyrrach na'r hyn a ddywedir.

 Mam gaeth
Rhodd Mam gan Huw Derfel oedd y trydydd offrwm.
Gweithiai'r ddeinamig rhwng y cymeriadau yn dda, gyda Valmai Jones yn portreadu Mam ac Elin Wmffras yn portreadu Ruth, ei merch.

Mae Mam ynghlwm i'w chadair olwyn ac mae Ruth wedi ei hymrwymo i edrych ar ei hôl gan aberthu ei haddysg a'i bywyd cymdeithasol bron yn gyfangwbl.

Drwy lythyr gan yr ysbyty, datgelir, ychydig yn rhy hawdd efallai, nad oes dim yn bod ar Mam, sy'n cynddeiriogi Ruth i'r fath raddau ei bod yn bygwth ei gadael unwaith ac am byth.

Gwelwn ochr fregus Mam, sy'n ymbil arni i aros; does ganddi neb arall.

Dyma pryd mae'r ddrama wirioneddol yn dod yn fyw i mi. Mae Ruth yn cytuno ac mae pethau yn dychwelyd fel yr oeddan nhw, sy'n ychwanegu naws Beckettaidd i'r cwbl.

Mae'r actio yn fendigedig a heb fod dros ben llestri ond teimlaf y byddai wedi bod ar ei ennill pe bai'r awdur wedi hepgor y diweddglo cartwnaidd, lle mae Ruth yn taro'i mam dros ei phen gyda'r wok a roddodd yn anrheg iddi.

 Rhwng clên a chiaidd
Yn Pen-blwydd Hapus gan Glenys Llywelyn, cawn gipolwg o berthynas dreisiol rhwng gŵr a gwraig (Dafydd Emyr a Siân Rivers).

Mae hi'n ben-blwydd ar Eleri ond er bod Alun yn dod â choffi a sudd oren iddi yn y gwely, mae ei ymddygiad yn pendilio rhwng y clên a'r ciaidd.

Does dim byd newydd yma o ran syniadaeth, ond mae'r deialogi yn effeithiol a'r cyfarwyddo gan Morgan Hopkins yn gelfydd tu hwnt. Sylwebaeth sydd yma mewn gwirionedd a dim datblygiad pendant - byddai'n syniad i bob dramodydd ofyn iddyn nhw eu hunain, 'Pam fod y ddrama yma'n digwydd rŵan?'

Er hynny, mae'r ysgrifennu yma yn dangos addewid pendant.

 Dau gariad
Mae Yn ei Gôl gan William Rhys George yn bortread o ddirywiad perthynas rhwng dau gariad.

Tra bo Carl (Meilir Siôn) ynghlwm wrth ei liniadur byth a beunydd, bu Elin (Catrin Wyn Jones) yn cysgu gyda dynion am arian i fwydo ei obsesiwn â'i hymddangosiad.

Bu'n dweud celwydd wrth ei gŵr ei bod hi'n canu'r ffidil mewn cyngherddau, ond pan egyr Carl gas yr offeryn, mae'n dod o hyd i lond lle o niceri budron.

Yn anffodus, nid yw'r sefyllfa yn taro'n wir rywsut ac o'r herwydd dwi'n ei chael hi'n anodd credu gant y cant yn y cymeriadau. Serch hynny, mae yna ddeialogi celfydd yma ac actio da - gan Catrin Wyn Jones,yn arbennig.

 Jôcs budron!
Y ddrama olaf ar y fwydlen heno oedd Ar y Ddesg gan Huw Charles. Drama am ddyn unig mewn swyddfa sy'n ffantaseiddio ei fod yn bêl-droediwr, yn seren bop ac yn dduw rhyw, yn hytrach na gwneud unrhyw waith.

Ei ysgrifenyddes ddeniadol, Miss Parry (Rhiannydd Wynne) sy'n gorfod dygymod â'i lol siofinistaidd.

Mae'r ddrama yn troi i diriogaeth sgets yn sydyn iawn, sy'n llawn cyfeiriadaeth rywiol a jôcs budr.

Ceir perfformiad campus gan Jâms Thomas fel Mr Jones a sicrhaodd fod y gynulleidfa yn morio chwerthin drwyddi draw.

Teimlaf fod yma gyfle wedi ei golli i ddatblygu mwy ar unigedd Mr Jones ond gan mai llunio sgets oedd bwriad yr awdur yma, mae'r cymeriadau cartwnaidd a'r senario yn sicr yn llwyddiant.

Mae cyfrwng y ddrama fer yn un cyffrous iawn ac mae'n braf gweld fod mwy a mwy o ddramâu byrion yn cael eu hysgrifennu a'u perfformio yn y Gymraeg.

Edrychaf ymlaen yn arw at gynhyrchiad nesaf Cwmni Inc.



cyfannwch

Huw Caerdydd
Fel un a oedd yn gysylltiedig â'r dramau, hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i bawb a gefnogodd ein menter. Fe lwyddo' ni i werthu pob tocyn ar gyfer y ddwy noson, ac mae'r ymateb wedi ein ysgogi i barhau gyda'n prosiect nesaf. Diolch yn fawr. Huw Derfel (ar ran Cwmni Inc)



Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Eisteddfod
Bei-Ling Burlesque
Mwnci ar Dân
A Toy Epic
A4
Actus Reus
Actus Reus - adolygiad
Ar y Lein
Araith hir yn y gwres
Back to the Eighties
Bitsh
Branwen
Branwen - adolygiad
Bregus
Breuddwyd Branwen
Breuddwyd Noswyl Ifan
Bryn Gobaith
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caban Ni Caban Nhw
Caerdroia
Caffi Basra
Café Cariad
Café Cariad
Camp a Rhemp -
Canwr y Byd Caerdydd
Cariad Mr Bustl
Crash
Cymru Fach
Cysgod y Cryman
Cysgod y Cryman - barn arall
Dan y Wenallt
Dawns y Cynhaeaf
Deep Cut
Deinameit
Dewi Prysor DW2416
Digon o'r Sioe
Dim Mwg
Diweddgan
Diweddgan - barn Aled Jones Williams
Dominios - adolygiad
Drws Arall i'r Coed
Erthyglau Cynllun Papurau Bro
Esther - adolygiad
Ffernols Lwcus
Fron-goch
Gwaun Cwm Garw - adolygiad
Gwe o Gelwydd
Gwell - heb wybod y geiriau!
Halen yn y Gwaed
Hamlet - adolygiad 1
Hamlet - adolygiadau
Hedfan Drwy'r Machlud
Hen Bobl Mewn Ceir
Hen Rebel
Holl Liwie'r Enfys
Iesu! - barn y beirniaid
Jac yn y Bocs
Johnny Delaney
Life of Ryan - and Ronnie
Linda - Gwraig Waldo
Lleu
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llywelyn anghywir
Lysh gan Aled Jones Williams
Macsen
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
Maes Terfyn
Maes Terfyn - adolygiad
Marat - Sade
Mari'r Golau
Martin, Mam a'r Wyau Aur
Meini Gwagedd
Melangell
Mosgito
Mythau Mawreddog y Mabinogi
Môr Tawel
Nid perfformiad theatrig
Noson i'w Chofio
O'r Neilltu
O'r boddhaol i'r diflas
Owain Mindŵr
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar:
adolygiadau ac erthyglau

Pwyll Pia'i
Rapsgaliwns
Redflight Barcud
Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
Sibrydion
Siwan - adolygiadau
Siwan - adolygiadau
Siwan - barn Iwan Edgar
Sundance
Tafliad Carreg
Tair drama tair talaith
Taith Ysgol Ni
Taith yr Urdd 2007
Theatr freuddwydion
Trafaelu ar y Trên Glas
Tri Rhan o Dair - Adolygiad
Tri Rhan o dair
Twm Siôn Cati
TÅ· ar y Tywod
Wrth Aros Godot
Wrth Borth y Byddar
Y Bonc Fawr
Y Crochan
Y Dewraf o'n Hawduron
Y Gobaith a'r Angor
Y Pair
Y Pair - Adolygiad
Y Pair - adolygiad Catrin Beard
Y Twrch Trwyth
Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
Yn y Ffrâm
Yr Argae
Yr Ystafell Aros
Zufall
Eisteddfod
Yr Eisteddfod
Genedlaethol
2008 - 2004

Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


Eisteddfod 2004
Eisteddfod 2003
Eisteddfod 2002
erthyglau
Bitsh! ar daith drwy Gymru
Adeilad y Theatr Genedlaethol
Alan Bennett yn Gymraeg
Beckett yn y Steddfod
Blink
Bobi a Sami a Dynion Eraill
Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
Buddug James Jones
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caerdroia
Clymau
Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
Cysgod y Cryman - her yr addasu
Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
Dominos
Drws Arall i'r Coed
Ennyn profiadau Gwyddelig
Esther
Ffernols Lwcus
Fron-goch yng Ngwlad Siec
Frongoch
Grym y theatr
Gwaun Cwm Garw
Gŵyl Delynau Ryngwladol
Hamlet - ennill gwobr
Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
Hen Rebel
Holi am 'Iesu'
Iesu! - drama newydd
Llofruddiaeth i'r teulu
Lluniau Marat-Sade
Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
LluniauMacsen - Pantomeim 2007
Llyfr Mawr y Plant ar daith
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Marat - Sade
Marat - Sade: dyddiadur actores
Mari'r Golau
Mari'r Golau - lluniau
Meic Povey yn Gymrawd
Melangell
Migrations
Mrch Dd@,
Mwnci ar Dân
Myfyrwyr o Goleg y Drindod
Olifer - Ysgol y Gader
Owain Glyndŵr yn destun sbort
Panto Penweddig 2006
Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Ploryn
Porth y Byddar
Romeo a Juliet
Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
Sion Blewyn Coch -
y seicopath?

Siwan ar daith
Streic ar lwyfan
Sundance ar daith
Teulu Pen y Parc
Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
TÅ· ar y Tywod
TÅ· ar y Tywod
- y daith

Wrth Aros Godot - holi actor
Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
Y Pair
Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
Y ferch Iesu
Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
Yr Argae ar daith


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý