Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Mari'r Golau
Adolygiad Glyn Evans o sioe gerdd Aled Lewis Evans ac Arwel Tanat. Cwmni Theatr y Stiwt, Rhosllannerchrugog.

Er bod y cwmni theatr cenedlaethol yn cyflwyno TÅ· ar y Tywod yn Yr Wyddgrug heb fod ymhell i ffwrdd cafodd sioe gerdd am un o ferched hynod Diwygiad 04-05 gynulleidfaoedd teilwng yn neuadd Y Stiwt, Rhosllannerchrugog, Ebrill 22 - 23, 2005.

Yr oedd y sioe gan Aled Lewis Evans - cerddoriaeth, Arwel Tanat - yn olrhain hanes hynod Mari Jones, Llanaber ger Y Bermo, y daethpwyd i'w hadnabod fel Mari'r Golau oherwydd y goleuni anesboniadwy fyddai'n ymddangos o'i chwmpas.

Gwrthodai Mari, fel y pwysleisiwyd yn y sioe, â derbyn unrhyw glod personol am y golau rhyfedd gan ddweud mai cyfrwng a ddefnyddiwyd gan Dduw oedd hi.

Maes o law daethpwyd i adnabod y goleuni fel Goleuni Egryn oherwydd mai Capel Egryn yn ardal y Bermo oedd yr un a fynychwyd gan Mari a lle gwelwyd y golau.

Sut olau?
Amrywiai'r disgrifiadau ohono o belen lachar o olau gwyn i lafnau o oleuni weithiau'n glaerwyn, dro arall, a gwawr las iddo.

Datgelir y wybodaeth hon yn driw yn y sioe a oedd a rhywfaint o naws ddiwygiadol iddi yn gwahodd y gynulleidfa i ymuno i ganu emynau gyda'r perfformwyr.

I'r awdur, Aled Lewis Evans, mae arwyddocâd arbennig i hanes Mari gan fod ei deulu o'r ardal ac yn uniongyrchol gybyddus â'r digwyddiadau rhyfedd a gipiodd ddychymyg pobl ar hyd a lled Prydain.

Yn wir, ar y llwyfan, llywiwyd yr hanes gan actorion yn chwarae rhan taid a Nain yr awdur, John ac Annie Mary Evans (Arwel Tanat ac Elisabeth Gilpin) yn eistedd ar fainc yn hel atgofion am eu profiad hwy o Olau Egryn a'r hyn a ddigwyddodd yn ei sgil.

Papurau newydd
Ac fe ddigwyddodd llawer oherwydd tyrrodd y Wasg Saesneg yno gyda'r Times, Guardian, Daily News, Daily Mirror a'r Daily Mail yn dilyn y stori am naw diwrnod a mwy cyn i rywbeth arall fynd a'u bryd.

Dyfynnwyd yn helaeth o adroddiadau'r wasg Saesneg yn y sioe yn ogystal ag adroddiadau'r wasg Gymraeg a rhan y Parchedig Beriah Evans (Alun Roberts) yn yr hanes fel y newyddiadurwr a dorrodd y stori gyntaf.

Ni allodd ymchwilydd o'r Society for Psychical Research, y Parchedig Fryer (Joseph Davies) a hudwyd i'r ardal a dod o hyd i unrhyw arwyddion o dwyll mwy nag a allai egluro'r rhyfeddod.

Gweld y golau
Cyfaddefodd hyd yn oed y newyddiadurwyr iddynt hwy, yn ogystal â gweinidogion a pharchusion lleol, weld y goleuni gan fethu a dod o hyd i unrhyw eglurhad naturiol.

Yng nghanol hyn oll ymwrthodai Mari Jones (Michelle Murphy) â'r hyn a fyddem ni heddiw yn ei alw yn 'gyhoeddusrwydd'. Gwrthodai hyd yn oed gael tynnu ei llun.

Bob yn ail â llefaru darnau a ymddangosodd mewn newyddiaduron mae sioe Aled Lewis Evans ac Arwel Tanat, yn cynnwys hefyd ganeuon a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y sioe.

Rhigwm
Agorodd y sioe gyda llais plentyn yn adrodd rhigwm o'r cyfnod;
Mary had a little light/ It always used to glow/ and everywhere that Mary went/ The light was sure to go.

Yna cafwyd cyflwyniad gwefreiddiol gan John Evans yn fachgen yn 1904-05 (Geraint Williams) yn canu Iesu Tirion - unawd y mae'n ei chanu eto cyn diwedd y perfformiad gyda'r un ias.

Ond nid sioe o'r llwyfan yn unig mo hon gan i nifer o emynau adnabyddus fel Wele'n Sefyll Rhwng y Myrtwydd, Mae D'eisiau Di bob awr, O na Bawn i fel Efe ac Mi Glywaf Dyner Lais gael eu cynnwys yn y rhaglen a'r neuadd yn cael ei goleuo i'r gynulleidfa ymarfer ei doniau canu cynulleidfaol.

Cynhwyswyd yn y rhaglen hynod o gynhwysfawr eiriau caneuon y cast hefyd yn ogystal â hen luniau o ardal Egryn ac o bobl oedd yn rhan o'r hanes.

Trueni nad oedd gofod i gynnwys yr holl adroddiadau papur newydd ond diau y byddai hynny wedi bod yn rhy gostus.

Fodd bynnag fe atgynhyrchwyd erthygl o'r Barmouth Advertiser, Ebrill 1905, yn cynnwys "tystiolaeth Mr John Williams, Cae'rddaniel, ger Abermaw, cefnder i'r Parch H Barrow Williams, Llandudno."

Wrth drafod y fath ryfeddod yr oedd yn bwysig, debyg, sefydlu y peidgri iawn fel sicrwydd o eirwiredd!

Yn embaras
A beth ddaeth o Mari Jones. Wel yn sgil yr holl sylw daeth "yn embaras i gymdeithas barchus Y Bermo". Maes o law ciliodd y golau ac mae'n arwyddocaol nad oes unrhyw gyfeiriad ato ar ei charreg fedd yng Nghapel Horeb, Dyffryn Ardudwy, er iddi gael ei harwain i deithio cyn belled a Wrecsam, Tylorstown ac Ynysybwl pan oedd yn ei anterth.

Hyd yn oed heddiw does dim eglurhad naturiol boddhaol am y goleuni na lwyddodd yr holl ddynion papur newydd, hyd yn oed, dynnu ei lun ("Mae y golau y tu draw i lun," meddai Mari) na'i wrthbrofi.

Neges amlwg sioe Aled Lewis Evans ac Arwel Tanat oedd mai profiad crefyddol ac ysbrydol oedd hwn ac mae'n wir i Mari Jones fod yn fwy dylanwadol yn ei hardal na hyd yn oed Evan Roberts.

Geiriau un o ganeuon olaf y sioe oedd:
"Ti yw y fflam, Goleuni'r Byd,/ Ti yw y fflam sy'n ysu'n bryd,/ Goleui di y ffordd i eraill

Cysylltiadau Perthnasol



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Eisteddfod
Bei-Ling Burlesque
Mwnci ar Dân
A Toy Epic
A4
Actus Reus
Actus Reus - adolygiad
Ar y Lein
Araith hir yn y gwres
Back to the Eighties
Bitsh
Branwen
Branwen - adolygiad
Bregus
Breuddwyd Branwen
Breuddwyd Noswyl Ifan
Bryn Gobaith
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caban Ni Caban Nhw
Caerdroia
Caffi Basra
Café Cariad
Café Cariad
Camp a Rhemp -
Canwr y Byd Caerdydd
Cariad Mr Bustl
Crash
Cymru Fach
Cysgod y Cryman
Cysgod y Cryman - barn arall
Dan y Wenallt
Dawns y Cynhaeaf
Deep Cut
Deinameit
Dewi Prysor DW2416
Digon o'r Sioe
Dim Mwg
Diweddgan
Diweddgan - barn Aled Jones Williams
Dominios - adolygiad
Drws Arall i'r Coed
Erthyglau Cynllun Papurau Bro
Esther - adolygiad
Ffernols Lwcus
Fron-goch
Gwaun Cwm Garw - adolygiad
Gwe o Gelwydd
Gwell - heb wybod y geiriau!
Halen yn y Gwaed
Hamlet - adolygiad 1
Hamlet - adolygiadau
Hedfan Drwy'r Machlud
Hen Bobl Mewn Ceir
Hen Rebel
Holl Liwie'r Enfys
Iesu! - barn y beirniaid
Jac yn y Bocs
Johnny Delaney
Life of Ryan - and Ronnie
Linda - Gwraig Waldo
Lleu
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llywelyn anghywir
Lysh gan Aled Jones Williams
Macsen
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
Maes Terfyn
Maes Terfyn - adolygiad
Marat - Sade
Mari'r Golau
Martin, Mam a'r Wyau Aur
Meini Gwagedd
Melangell
Mosgito
Mythau Mawreddog y Mabinogi
Môr Tawel
Nid perfformiad theatrig
Noson i'w Chofio
O'r Neilltu
O'r boddhaol i'r diflas
Owain Mindŵr
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar:
adolygiadau ac erthyglau

Pwyll Pia'i
Rapsgaliwns
Redflight Barcud
Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
Sibrydion
Siwan - adolygiadau
Siwan - adolygiadau
Siwan - barn Iwan Edgar
Sundance
Tafliad Carreg
Tair drama tair talaith
Taith Ysgol Ni
Taith yr Urdd 2007
Theatr freuddwydion
Trafaelu ar y Trên Glas
Tri Rhan o Dair - Adolygiad
Tri Rhan o dair
Twm Siôn Cati
TÅ· ar y Tywod
Wrth Aros Godot
Wrth Borth y Byddar
Y Bonc Fawr
Y Crochan
Y Dewraf o'n Hawduron
Y Gobaith a'r Angor
Y Pair
Y Pair - Adolygiad
Y Pair - adolygiad Catrin Beard
Y Twrch Trwyth
Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
Yn y Ffrâm
Yr Argae
Yr Ystafell Aros
Zufall
Eisteddfod
Yr Eisteddfod
Genedlaethol
2008 - 2004

Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


Eisteddfod 2004
Eisteddfod 2003
Eisteddfod 2002
erthyglau
Bitsh! ar daith drwy Gymru
Adeilad y Theatr Genedlaethol
Alan Bennett yn Gymraeg
Beckett yn y Steddfod
Blink
Bobi a Sami a Dynion Eraill
Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
Buddug James Jones
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caerdroia
Clymau
Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
Cysgod y Cryman - her yr addasu
Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
Dominos
Drws Arall i'r Coed
Ennyn profiadau Gwyddelig
Esther
Ffernols Lwcus
Fron-goch yng Ngwlad Siec
Frongoch
Grym y theatr
Gwaun Cwm Garw
Gŵyl Delynau Ryngwladol
Hamlet - ennill gwobr
Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
Hen Rebel
Holi am 'Iesu'
Iesu! - drama newydd
Llofruddiaeth i'r teulu
Lluniau Marat-Sade
Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
LluniauMacsen - Pantomeim 2007
Llyfr Mawr y Plant ar daith
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Marat - Sade
Marat - Sade: dyddiadur actores
Mari'r Golau
Mari'r Golau - lluniau
Meic Povey yn Gymrawd
Melangell
Migrations
Mrch Dd@,
Mwnci ar Dân
Myfyrwyr o Goleg y Drindod
Olifer - Ysgol y Gader
Owain Glyndŵr yn destun sbort
Panto Penweddig 2006
Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Ploryn
Porth y Byddar
Romeo a Juliet
Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
Sion Blewyn Coch -
y seicopath?

Siwan ar daith
Streic ar lwyfan
Sundance ar daith
Teulu Pen y Parc
Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
TÅ· ar y Tywod
TÅ· ar y Tywod
- y daith

Wrth Aros Godot - holi actor
Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
Y Pair
Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
Y ferch Iesu
Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
Yr Argae ar daith


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý