Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Mwnci ar Dân
Hwylio'n agos i greigiau peryglus ystrydeb - or whatever
  • Adolygiad Iwan Edgar o Mwnci ar Dân. Arad Goch. Perfformiad 15 Ionawr 2007 ym Mhwllheli.


  • Mae pethau mawr i'w dweud - a pheryglon mawr wrth eu dweud - ar ambell bwnc mawr:
    Trawma y milwr o erchylltra'r drin.
    Hen drawiad o destun yn codi yn llenyddiaeth y byd o'r gorffennol Groegaidd ac yn ein byd bach ni o Fyrddin Wyllt hyd Hedd Wyn.

    Gan mor ddirdynnol y testun y mae tuedd ar brydiau, efallai, i dybio bod ei drafod yn codi rhyw barchedig ofn y byddai unrhyw gynulleidfa theatrig yn gyndyn o fod yn feirniadol oherwydd teilyngdod y pwnc ei hun.

    Ysywaeth er hynny, byddai'n annheilwng ohonof innau i orgydymffurfio â'r awyddfryd hwnnw or whatever (fel y gallai Mwnci - y prif (?) gymeriad yn y cynhyrchiad hwn fod wedi ei ddweud.)

    Yn argyhoeddi
    Mi gychwynnaf â pheth cadarnhaol: nid wyf yn y credu fod yr actorion yn ddi-dalent ac yr oedd y cymeriadau a grëwyd ganddynt yn fy argyhoeddi - er bod ymadroddi Seisnigllyd cyson yn merwino clust hen deip Cymreig fel fi - hyn yw'r byd sydd ohoni.

    Tri chymeriad oedd yna mewn gwirionedd - a boi canu gitâr (y soniaf amdano ar y diwedd):
  • Mwnci, y llencyn ifanc asbo-edig bywiog,
  • Sheli / Megan ei gariad, coman gyffredin
  • A'r milwr creithedig a ddaeth o rywle ac a oedd, am wn i'n dad i Sheli, os y bu i mi ddeall y peth yn iawn.

    Y stori
    Ar y dechrau, dyma'r milwr yn cyrraedd i chwilio am ei wraig a'i ferch. Mae'n cyfarfod â Mwnci ac yn ymgiprys â hwnnw.

    Maes o law, gydag eironi pwrpasol, mae Mwnci'n gweld ei ddyfodol o'i ferddwr cymdeithasol drwy ymuno â'r fyddin. Ond mi oedd o wedi rhoi clec i Sheli erbyn y diwedd (a honno am gael gwared â'r babi ac wedyn yn newid ei meddwl ) nes bod y cylch yn grwn drwy y dadleniad mai'r milwr oedd ei thad coll.

    Am wn i bod y milwr wedi saethu ei hun ar y diwedd a Mwnci a Sheli wedi byw'n hapus byth ar ôl hynny.

    Creigiau peryglus
    Y mae creigiau ystrydeb yn rhai y mae llawer llong ddramatig fel hon yn hwylio'n beryglus agos atynt. Os câ'i ei rhoi hi felna.

    Rwy'n derbyn yr ergyd sydd yma hefyd o'r defnydd o haenau isaf cymdeithas i wneud y gwaith budr - arfer oesol a chleddyf deufin (a defnyddio delwedd berthnasol) sydd wedi cynnig dihangfa antur a phwrpas i lawer ac yn drawma colled ac angau i eraill.

    Mae tuedd at adflas hunangyfiawn weithiau mewn cyd-destun fel hyn, o ystyried y milwyr creithiedig yn fwy fel rhai a dwyllwyd yn hytrach na rhai anffodus o sefyllfa enbyd.
    Wn i ddim a oeddwn yn sawru'r peth yma.

    Rhedeg a rhedeg
    Ond os nad aeth Mwnci yn sowldiwr yn y diwedd, fel rhywbeth iddo wneud (os nad yn broffesiwn) mi ddylai ystyried mynd yn rhedwr marathons.

    Mi fydd arno eisiau pâr o 'sgidiau newydd ar ôl y daith hon gan ei fod o'n gwneud taith go helaeth yn ystod pob perfformiad, yn bownsio hyd y llwyfan yn ôl a blaen fel dwn-im-be.

    Roedd yn fy mlino.
    Ond yn rhan o'r un blinder yr oedd lefel gynhyrfus dynn yr holl berfformiad. Nid oedd saib heb sôn am egwyl o'r chwarae dwys o gyson arthio - nid oedd dyffrynnoedd dim ond copaon i'r mynydd-dir trwm.

    Chefais i ddim o'n hargyhoeddi o ddaearyddiaeth y llwyfan. Mae'n rhy ddiflas egluro'r peth yn fanwl ond roedd tŷ Mwnci drws nesaf (?) i dŷ cartref gwraig a merch y milwr ac eto roedd Sheli (y ferch) yn byw mewn fflat yn rhywle arall rywsut - mae'n siŵr bod yr ateb yn syml ac mai fi oedd yn rhy araf deg i'w gweld hi.

    Chefais i ychwaith ddim o'n hargyhoeddi fod Sheli yn haeddu bod yn ferch y milwr (mi wn fod hynny'n dro yn y gynffon daclus ac arferol) ond pan oedd y ddau'n siarad efo'i gilydd doedd dim awgrym ddigonol fod dim cyswllt na dim chwilfrydedd yn y cyffyrddiad.

    Chefais i ddim o'm hargyhoeddi ychwaith o beth oedd y milwr yn da yno ar y pryd - yn gorweddian am hydoedd, fel morlo ar draeth, o flaen drws nad oedd byth am agor. Gorweddian bob yn ail a chodi i roi rhyw druth angerddol.

    Y boi gitâr
    Ond cyn cau - gwell rhoi rhyw air neu ddau am y boi gitâr. Yr oedd y creadur fel trwbadŵr modern yn rhodio rownd y llwyfan, ac yn gweud llygadau pwrpasol i gydweddu â hynt y cyffro.

    Yr oedd ei bresenoldeb yn fy ngogleisio, a chydag ychydig bach mwy o newid ar y chwarae, gyda help y trwbadŵr yr oedd potensial drama swreal ac abswrd yma or whatever.

  • Mwy am y ddrama a manylion am y daith - Cliciwch YMA


  • Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý