Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gwyn Lewis fel T Rowland HughesY Dewraf o'n Hawduron
Cwmni amatur yn plesio'r bobl
  • Sylwadau Glyn Evans ar gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron gan Harri Parri. Theatr Seilo, Caernarfon. Mawrth 27-31, 2007.


  • Cafwyd cynulleidfa y byddai Cefin Roberts a'i Theatr Genedlaethol Cymru wedi bod yn fwy na balch ohoni yn Theatr Seilo Caernarfon nos Fawrth, Mawrth 27, 2007.



    Ac fe fyddai mewn perlewyg gyda sgwrs y bobl ar eu ffordd allan wedi cwta ddwyawr yn olrhain bywyd a gwaith T Rowland Hughes.

    Er mai cynhyrchiad amatur oedd hwn yr oedd pobl wedi teithio yno o bellafoedd gyda bysus o Rosmeirch, Tudweiliog, Pencaenewydd, a Llanddoged er enghraifft.

    A go brin i neb droi am adref o'r Theatr Seilo lawn yn siomedig gyda chynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n hawduron - T Rowland Hughes, y Dyn a'i Waith gan Harri Parri, storïwr byrion o fri a chyn weinidog y capel y mae'r theatr yn rhan ohono.

    Awdur allweddol
    Er mewn peryg o fod yn enwog ar sail y pedwar gair, "Cadw dy blydi chips" yn unig yr oedd T Rowland Hughes yn awdur allweddol yn hanes y nofel Gymraeg - ef, yn wir, oedd y ddolen nesaf at Ddaniel Owen yn y gadwyn honno y daeth Islwyn Ffowc Elis yn rhan ohoni rai blynyddoedd wedyn.

    Yr hyn sy'n rhyfeddol yw iddo gyflawni hyn yn y pedair blynedd rhwng 1943 a 1947 pryd y cyhoeddwyd ei bum nofel gan gychwyn gydag O Law i Law am yr hen lanc canol oed, John Davies, yn gwerthu eiddo'r cartref yn dilyn marwolaeth ei fam.

    Er nad yn nofel yng ngwir ystyr y gair enillodd galon y Gymru Gymraeg yn syth ac fe'i dilynwyd gan William Jones, Yr Ogof, Chwalfa - ei nofel fwyaf - ac Y Cychwyn.

    Ond daeth ei yrfa i ben gyda'i farwolaeth yn ddim ond 46 oed yn 1949 wedi ei lethu gan MS, yn gaeth i gadair olwyn ac yn dueddol o ysbeidiau o ddigalondid ac iselder mawr.

    Mewn pruddglwyf
    A dyna lle mae 'drama' Harri Parri yn cychwyn - yng Nger-y-llyn, cartref T Rowland Hughes a'i briod, Irene, yn y Rhath yng Nghaerdydd ddechrau'r pedwardegau.

    T Rowland Hughes mewn pruddglwyf yn cael ei berswadio gan Irene i ddechrau sgrifennu nofelau.

    "Rhaid ichi ysgwyd eich hun o'r digalondid yma," meddai hi a dyma ni yn syth i olygfa enwog gwerthu'r mangl yng nghartref yr hen lanc John Davies sy'n clirio'r cartref wedi marwolaeth ei fam yn O Law i Law.

    A buan iawn y sylweddolwn, er mai cyflwyniad - fyddai hi ddim yn hollol deg ei alw yn ddrama - am ddyn wedi ei lethu gan iselder yw hwn nid yw'n gyflwyniad i lethu cynulleidfa.

    Y llon a'r lleddf
    Mae'n brothio o hiwmor gyda golygfeydd a llinellau cofiadwy wrth ddilyn gyrfa T Rowland Hughes yn fachgen yn Llanberis (Owen Alun Puw Williams), yn y coleg ym Mangor, yn brifardd cenedlaethol ac yn gynhyrchydd gyda'r Â鶹ԼÅÄ yng Nghaerdydd (Dafydd Hughes) cyn dod oherwydd ei waeledd yn ffigwr allweddol yn hanes llenyddiaeth Gymraeg (Gwyn Lewis).

    "Dyma un a droes ei salwch yn hamdden," meddir gan ddyfynnu Wil Ifan a ddywedodd hefyd;

    "Bu ei salwch yn gyfle iddo . . . ddehongli'r bywyd y bu'n gynefin ag ef."

    Cadw'r chips
    Wrth gwrs, ni fyddai fiw ichi hyd yn oed sôn am T Rowland Hughes heb gyfeirio at y dyfyniad llenyddol Cymraeg gyda'r enwocaf - a mwyaf beiddgar am flynyddoedd lawer - "Cadw dy blydi chips".

    Ac yn wir yr oedd yr olygfa o William Jones ymhlith y 27 o olygfeydd a chwaraewyd gan y cast o gryn bymtheg ar hugain o chwaraewyr y Gronyn Gwenith.

    Hwn oedd y cynhyrchiad i ddathlu deng mlynedd ar hugain Cymdeithas y Gronyn Gwenith - cymdeithas a sefydlwyd pan agorwyd Theatr Seilo gyntaf yn 1977 ac a fu'n llwyfannu cynyrchiadau bob blwyddyn ers hynny gan ennill cryn boblogrwydd yn lleol.

    Camp nid bychan yn y Gymru sydd ohoni.

    Yn gyn weinidog ar y capel y mae'r theatr yn rhan ohono cyfrannodd Harri Parri at fwy nag un o'r cynyrchiadau hynny.

    Golygfeydd byrion
    Plethiad difyr o olygfeydd byrion allan o nofelau T Rowland Hughes ac o wahanol benodau yn ei fywyd yw Y Dewraf o'n Hawduron - gyda llaw, onid "y dewra' o'n hawduron" ydoedd yn englyn R Williams Parry, tasa hynny o bwys?

    Dafydd Hughes fel T Rowland Hughes ifanc Ac fel nofelau'r gwrthrych llithra'r golygfeydd yn rhwydd o'r llon i'r lleddf o'r dwys i'r doniol a hynny'n amlwg yn plesio'r gynulleidfa i'r dim.

    Go brin bod golygfa wan o gwbl ymhlith y 27 ond nid yw ond yn naturiol fod ambell un yn glynu'n dynnach na'i gilydd wrth y cof - yn arbennig: Dosbarth dysgu adrodd Ioan Llwyd; Yr impresario pictiwrs; Professor Archer yn y coleg; Adrodd Ora Pro Nobis er enghraifft.

    Mae'r sgript yn asiad hyfryd a graenus o arddull T Rowland Hughes a Harri Parreiaid lliwgar. Idiomau lliwgar mewn Cymraeg gafaelgar.

  • Meddai Mam TRH wrth ei gŵr yn dilyn ymweliad athro coleg a'u cartref: "Glywsoch chi ei Saesneg o?" ac yntau'n ateb, "Ond Sais oedd o."
  • "Wn i ddim lle magwyd rhai pobl - os nad o dan ddail riwbob."
  • Ac meddai Irene, wrth i'w gŵr geisio ymddangos yn siriol gerbron ymwelydd; "Hyfforddi actorion oedd gwaith Tom - ac yn awr ef yw'r actor."

    Y llwyfan
    Ar gyfer y cyflwyniad rhannwyd cefndir y llwyfan yn bedwar hwylus gyda lluniau i gyfleu, 'Ger-y-llyn' yng Nghaerdydd, stiwdio radio, Llanberis, cartref rheini TRH, y chwarel a siop gyda lle yn weddill ym mlaen y llwyfan ar gyfer ambell i olygfa arall fel yr ysgol.

    Cerddoriaeth hiraethus
    Mae defnydd effeithiol o gerddoriaeth hiraethus y cyfnod rhwng y golygfeydd ac yn ei phlith fersiwn o Tydi a roddaist liw i'r wawr

    Wrth gwrs, byddai'n annheg peidio â chydnabod mai cynhyrchiad amatur gyda gwerthoedd cynhyrchiad amatur yw hwn ond o fewn y cyd-destun hwnnw yr oedd yn un a roddodd gryn fwynhad a boddhad i gynulleidfa - ac mae hynny'n rhywbeth na ellir ei ddweud am sawl cynhyrchiad proffesiynol clyfrach yng Nghymru y dyddiau hyn.

    Bydd perfformiad o Y Dewraf o'n Hawduron bob nos tan nos Sadwrn.

    Go brin mai lle adolygydd yw awgrymu na fyddai'n wastraff amser i aelodau o'n theatr broffesiynol bicio draw i Theatr Seilo er mwyn gweld beth sy'n tynnu pobl a'u hanfon adref yn fodlon y dyddiau hyn - ond fe allai fod yn fuddiol iddynt.
    A chymryd bod yna sedd wag ar ôl erbyn hyn.

  • Cliciwch YMA i weld lluniau a dynnwyd gan y Parchedig gwenda Richards, gweinidog Seilo, o'r cynhyrchiad.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Lluniau o'r cynhyrchiad



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý