Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
pel-droedTheatr freuddwydion
Llwyfan i bêl-droed
  • Adolygiad Catrin Jones o Theatr Freuddwydion. Llwyfan Gogledd Cymru. Galeri, Caernarfon. Ebrill 7, 2006


  • Ymdrin â byd poblogaidd y bêl gron mae cynhyrchiad diweddaraf Llwyfan Gogledd Cymru a hanes cefnogwyr pêl-droed o Gaernarfon yn ystod tymor llwyddiannus Manchester United yn 1999.

    Dyma pryd yr enillodd y tîm y trebl - y Gynghrair, Cwpan yr FA a'r Gwpan Ewropeaidd.

    Dewi Rhys yw'r awdur ac mae'n ddiddorol gweld actor yn troi i fyd ysgrifennu gan mai dyma'r tro cyntaf iddo lunio drama hir.

    Yn y rhaglen dywed mai ei fwriad oedd "anelu at greu darn o theatr gyffrous fyddai'n apelio at gynulleidfaoedd hen a newydd yn enwedig y rhai sy'n teimlo'n swil neu'n ddrwgdybus o fynychu'r theatr".

    Creu profiadau theatrig
    Dywed ei fod yn credu'n gryf fod gan gwmnïau theatr "gyfrifoldeb i feithrin hyn er mwyn creu profiadau theatrig sy'n berthnasol i bawb...dylai mynd i'r theatr fod yr un mor ddemocratig â mynd i weld gêm bêl-droed".

    Mae'n braf gweld ymdrech i ddenu cynulleidfa newydd ac ar noson gyntaf y cynhyrchiad yn Galeri, Caernarfon roedd llu o gefnogwyr pêl-droed wedi dod i weld sut y byddai'r gêm yn cael ei phortreadu ar lwyfan.

    Pum cymeriad sydd yn y ddrama sef Gareth (Dyfrig Evans), cefnogwr Man U brwd, Elfyn (Llyr Evans) sy'n cefnogi Lerpwl, Osian (Iwan Roberts), Lois (Catrin Roberts) a Hannah (Lleuwen Steffan).

    Mae'r ddrama'n dechrau wrth i'r criw gyrraedd y stadiwm yn Barcelona ar gyfer y gêm fawr yn erbyn Bayern Munich yn1999.

    Presennol a gorffennol
    Yn ystod y gêm mae'r golygfeydd yn symud rhwng y presennol a'r gorffennol a chawn gipolwg ar eu bywydau personol.

    Mae yma stori dda sy'n dangos nad yw pethau'n hawdd mewn bywyd go iawn, yn union fel ar y cae, ac mae'r ddau fyd yn cael eu gosod ochr yn ochr.

    Mae Gareth wedi ymgolli'n llwyr yn ei hoff dîm pêl-droed, Man U, a does dim yn ei atal rhag mynd i'r gemau, hyd yn oed ymrwymiadau teuluol.

    Er bod Lois ei gariad hefyd yn hoffi dilyn y tîm mae'n teimlo'n rhwystredig yn aml o ganlyniad i obsesiwn (er y byddai rhai'n anghytuno â hynny) ei chariad tuag at y bêl gron.

    Wrth ei bodd
    Gweithio yn y dafarn mae Hannah, ffrind Lois a chariad Osian.

    Dyw hithau ddim yn gefnogwraig frwd ond eto caiff ei thynnu i fyd y gêm o ganlyniad i ddynion y ddrama.

    Mae Osian hefyd yn cefnogi Man U ond Lerpwl yw tîm Elfyn ac mae sawl jôc wrth i Osian a Gareth edliw hynny iddo.

    Roedd y gynulleidfa, nifer yn gefnogwyr Man U eu hunain, wrth ei bodd gyda hyn ac roedd digon o chwerthin wrth i Elfyn ac Osian wneud pob math o sylwadau am gefnogwyr Lerpwl.

    Do cafwyd sawl jôc yn ymwneud â Lerpwl a'r byd pêl-droed ond roeddwn i'n teimlo fod lle i fwy o hiwmor cyffredinol ac o glywed yr un math o jôcs sawl tro roedden nhw'n colli eu heffaith.

    Hefyd efallai y byddai mwy o hiwmor pe bai'r cymeriadau'n rhai cryfach.

    Roedd cymeriadau'r dynion ,i>yn gryf a gwahaniaeth amlwg yn eu natur ond nid felly'r merched gyda'r ddwy yn eithaf tebyg.
    Gellid fod wedi datblygu'r rhain yn well.

    Mae'n rhaid canmol perfformiad Dyfrig Evans roedd wedi camu i esgidiau ei gymeriad yn gwbl gyfforddus gan gynnal y cynhyrchiad.

    Ambell i gân
    Roedd y cynhyrchiad yn cael ei ddisgrifio fel sioe gerddorol a chafwyd ambell gân gyda'r cymeriadau'n dawnsio ond doeddwn i ddim yn deall yn iawn beth oedd pwrpas hyn.

    Roedd gweld y cymeriadau'n dawnsio'n drwsgl yn ddoniol ond heb gyfrannu dim at y stori na'r hyn oedd yn digwydd.

    Roedd y set wedi ei chynllunio'n dda a'r llwyfan wedi ei osod fel eisteddle stadiwm gydag ambell i sedd goch yma ac acw ar wahanol lefelau.

    Er mwyn cyfleu lleoliadau eraill fel y dafarn a'r tÅ· fe fyddai'r cymeriadau'n symud i rannau gwahanol o'r llwyfan.

    Er y gallai fod yn ddryslyd ar y dechrau ceisio dyfalu lleoliad yr olygfa, gan nad oedd props, fe ddes yn gyfarwydd â'r drefn ar ôl ychydig.

    Roedd y ffaith fod eisteddle'r stadiwm yn hollbresennol ar y llwyfan yn ein hatgoffa mai'r bêl-gron oedd yn gefndir i'r cyfan.

    Dangos ffilm
    Yna ar ddiwedd yr ail hanner a'r gêm fawr yn cyrraedd ei huchafbwynt disgynnodd llen o'r to ar ffurf rhwyd a ddefnyddiwyd sgrîn i ddangos ffilm o'r gêm rhwng Manchester United a Bayern Munich.

    Roedd hyn yn hynod o effeithiol yn arbennig gan fod y llen yn dryloyw a'r cymeriadau i'w gweld yn neidio y tu ôl wrth wylio'r chwaraewyr ar y cae.

    Roedd y cyfan yn cyfleu i'r dim gynnwrf diwedd y gêm dyngedfennol.

    Rhaglen hynod o wreiddiol
    Hefyd mae'n rhaid sôn am y rhaglen oedd wedi ei chynllunio mewn dull hynod o wreiddiol.

    Roedd wedi ei llunio fel rhaglen i gêm bêl-droed gyda gair gan y cadeirydd (Nic Pari), rheolwr (Ian Rowlands), yr hyfforddwr (Dewi Rhys yr awdur) y ffisio (Roberta Clemente oedd yn gyfrifol am y coreograffi).

    Yna roedd yr actorion a staff Llwyfan Gogledd Cymru wedi eu gosod fel dau dîm - yr actorion yn nhîm Manchester United a'r staff yn nhîm Bayern Munchen.

    Do, bu yma ymdrech i fynd â ni'n llwyr i fyd pêl-droed ac roedd hi'n braf gweld drama yn ymdrin â phwnc gwahanol a chyfoes.

    Er y gellid fod wedi datblygu'r cymeriadau'n well a bod angen mwy o hiwmor i gynnal y cynhyrchiad rhaid canmol yr ymdrech hon i ehangu apêl y theatr.

    Fel ag y gwnaeth yng Nghaernarfon, dwi'n siŵr y bydd yn llwyddo i ddenu cynulleidfaoedd newydd i theatrau eraill Cymru.

    Y Daith
  • Galeri, Caernarfon - 07-08/04/06
  • Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd - 11-12/04/06
  • Clwyd Theatr Cymru - 14-15/04/06
  • Theatr Ardudwy, Harlech - 19/04/06
  • Theatr Colwyn, Bae Colwyn - 24/04/06
  • Canolfan Celfyddydau Aberystwyth - 28/04/06
  • Neuadd Dwyfor, Pwllheli - 03/05/06
  • Theatr Gwynedd, Bangor - 04-06/05/06

  • Cysylltiadau Perthnasol


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý