Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Ffion Dafis Siwan - adolygiadau
'Llwyfan i ddrama radio.'
Barn Vaughan Hughes ac Iwan Edgar

  • Adolygiad Vaughan Hughes o Siwan gan Saunders Lewis. Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru. Perfformiad agoriadol yn Theatr Gwynedd Bangor, nos Fercher Mai 7, 2008.


  • Roedd hi'n chwarter wedi saith yr hwyr ar ddiwrnod poetha'r flwyddyn.
    Wrth yrru dros bont y Borth am Fangor roeddwn i'n eithaf eiddigeddus o'r teuluoedd a welwn yn drachtio eu diodydd, a drachtio'r olygfa, wrth gysgodi o'r gwres hirhoedlog dan ambarelau gardd gwrw'r Antelope.

    Ac i wneud pethau'n waeth roeddwn i'n ymwybodol iawn o eironi'r hyn a oedd ar fin digwydd imi. Mewn cwta bum munud byddwn yn amddifadu fy hun o'r heulwen braf er mwyn mynd i mewn i theatr dywyll, glos i adolygu'r hyn sydd, mewn gwirionedd, ... yn ddrama radio!

    Dyfeisiadau radio
    Rhag ofn i unrhyw un gamddeall, nid beirniadaeth slei, dan din mo hynny. Drama radio ydi Siwan.
    Dyna'r gwir.

    Ar wasanaeth radio'r Â鶹ԼÅÄ yr ymddangosodd hi gyntaf ar Ddydd Gŵyl Dewi 1954 a dyna pam fod y ddrama drwyddi draw yn llawn o effeithiau sain a dyfeisiadau-drama-radio.

    Mae'r morthwylio a'r llifio sy'n digwydd yn y broses o adeiladu crocbren Gwilym Brewys, a thranc y creadur druan, i gyd yn digwydd oddi ar y llwyfan.

    Dibynnwn yn llwyr ar y ffaith bod Alis y forwyn yn gweithredu fel sylwebydd ar ran ei meistres - a hefyd ar ein rhan ninnau'r gynulleidfa:

    "Dos at y ffenest', Alis, a dywed be' sy'n digwydd," ydi gorchymyn Siwan.

    Siwan ac Alis Byddai beirniad mwy sinigaidd na fi yn mynnu holi sut fath o ddrama lwyfan, mewn difrif calon, ydi drama lwyfan sydd â'i huchafbwynt dramatig, sef crogi toy boy merch brenin Lloegr, yn digwydd yn ein clyw ond nid o flaen ein llygaid?

    Mae'r ddyfais yn gweithio'n ardderchog ar y radio.
    Tasg anos o lawer ydi ei thrawsblannu o'r radio i'r llwyfan.

    Drama fydryddol
    Ychwaneger at hynny'r ystyriaeth hollbwysig mai drama fydryddol ydi Siwan. Golyga hynny bod meistrolaeth Saunders Lewis dros y vers libre yn rhoi pleser pur i'r sawl sy'n hoffi darllen a chlywed barddoniaeth.

    Ar yr un pryd, mae'n gwbl hanfodol bod cyfarwyddydd a chast y ddrama heriol hon, boed ar radio neu ar lwyfan, yn gallu cyfleu'r ystod eang o rythmau, pwyslais, saib a goslef mae'r fydryddiaeth yn ei hawlio.

    Yn rhannol yn unig - a hynny'n ysbeidiol - y teimlais fod cyfiawnder llwyr yn cael ei wneud â godidowgrwydd y geiriau.

    Roedd hynny'n wir ar y noson agoriadol am bob un o'r cast, i wahanol raddau a gresyn am hynny gan fod Siwan yn cynnwys trysorfa o linellau grymusaf y ddrama Gymraeg:

  • "Rhodd enbyd yw bywyd i bawb."
  • "Unwaith, cyn fy henaint, daeth llanc, canodd delyn i'm calon hesb."
  • "Rhyngom yn y gwely os doi bydd celain yn crogi wrth raff."
  • "Rhoddais fy nghroth i wleidyddiaeth fel pob merch brenin."

    Dydw i'n amau dim na fydd y cast cyfan yn magu rhagor o hyder ac y bydd hynny'n esgor ar gyflwyniadau grymusach wrth i'r daith fynd rhagddi.
    Fydda i ddim fel rheol yn mynychu nosweithiau agoriadol ond gofynnwyd imi wneud hynny er mwyn i'r adolygiad hwn ymddangos ar fyrder.

    Perfformiadau
    Ffion Dafis sy'n chwarae rhan Siwan a Lisa Jên Brown ydi Alis.

    Dywedwyd droeon nad oedd neb tebyg i Saunders Lewis am ysgrifennu rhannau gwych ar gyfer merched.
    Mae Siwan yn greadigaeth orchestol ac, yn sicr, nid cymeriad ymylol a llwyr ddarostyngedig ydi ei llawforwyn, Alis, ychwaith.

    Heb ehedeg i'r uchelfannau, cafwyd perfformiadau teilwng gan y ddwy. Yn sicr roedd ganddyn nhw bresenoldeb llwyfan ac mae hynny'n rhinwedd mawr.

    Gorfod clustfeinio
    Ond nid fi oedd yr unig un a oedd yn cwyno ar y diwedd bod yn rhaid clustfeinio'n galed weithiau i geisio clywed y llinellau.

    Ar derfyn golygfa'r crogi mae Siwan, Ffion Dafis, yn poeri ei chynddaredd ar Lywelyn yn ingol ac argyhoeddiadol ond aeth hanner ei geiriau ar goll mewn sgrech.

    Clywais, "O waelod uffern fy enaid..." ond collais " ... fy melltith arnat, Llywelyn."

    Llywelyn Boddhaol oedd Rhys ap Hywel fel Gwilym Brewys. Teimlwn fod Siwan, Alis a Gwilym Brewys ar eu gorau pan oedden nhw'n rhannu llwyfan efo Llywelyn (Dyfan Roberts) gan fod ei brofiad a'i hyder yn hwb i'w gyd actorion.

    Nid y Llywelyn a welwyd ar y noson gyntaf ym Mangor, fodd bynnag, oedd un o berfformiadau mawr Dyfan.

    Cyfarwyddo
    Cyfarwyddwyd y ddrama gan Judith Roberts, dirprwy gyfarwyddwraig artistig Theatr Genedlaethol Cymru, ac fe all hi fod yn dawel iawn ei meddwl nad drama radio a lwyfannwyd ganddi er bod strwythur y ddrama ei hun, fel y crybwyllais, yn drwm dan ddylanwad radio.

    Siwan a Brewys Does dim byd yn bod ar lygaid Judith Roberts ond dydw i ddim mor siŵr o'i gallu i dynnu'r gorau o'i hactorion.
    Roedd cyflwyniad y Theatr Genedlaethol o Esther Saunders Lewis yn orchestol.
    Ai fi tybed oedd yr unig un a oedd yn gofidio na fyddai Daniel Evans, cyfarwyddwr Esther, wedi rhoi ei stamp ar Siwan hefyd?

    Set a gwisgoedd
    Colin Falconer gynlluniodd y set a'r gwisgoedd.
    Hoffais y set yn arw efo'i defnydd effeithiol o ddrych y tu ôl i'r actorion i adlewyrchu'r chwarae.

    Chafodd o ddim cystal hwyl ar diwnig Llywelyn. Ymdebygai i ffrog. Ni ellir haeru bod hynny wedi ychwanegu at urddas Llywelyn Fawr.

    Heb doriad
    Dau fater i gloi.
    Drama dair act ydi Siwan Saunders Lewis ond does dim egwyl yn y cynhyrchiad hwn.
    Canlyniad hynny oedd gorymdaith gyson, o tua hanner ffordd drwy'r ddrama, o bobol yn gorfod anelu am y tai bach.

    Ar noson boeth pan oedd y gynulleidfa wedi bod yn yfed mwy nag arfer - nid o alcohol o angenrheidrwydd - er mwyn disychedu, roedd hepgor egwyl yn anffodus.

    Y dewis lun
    Nesaf, ac yn olaf, y rhaglen swyddogol.
    Llun pwy , meddech chi, sydd ar glawr y rhaglen honno?
    Rhesymol fyddai disgwyl gweld llun o'r drawiadol Ffion Dafis fel Siwan ei hun.
    Ond dim o'r fath beth.
    Lisa Jên , Alis, sy'n hawlio'r clawr.
    Od ynte.
    Ys gwn i pam.

  • Barn Iwan Edgar
  • Rhagor am Siwan a manylion y daith.




  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý