Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Lliwiau posterMythau Mawreddog y Mabinogi
Aolygiad o gynhyrchiad Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
  • Adolygiad Nic Ros o Mythau Mawreddog y Mabinogi gan Manon Eames. Cynhyrchiad dwyieithog Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Cyfarwyddwr, Tim Baker. Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth. Medi 6, 2008.


  • Mab a merch yn meddiannu'r mythau
    Mythau Mawreddog y Mabinogi yw ffrwyth cyntaf Tim Baker, Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Clwyd a chyn gyfarwyddydd Theatr Gorllewin Morgannwg, fel pennaeth newydd Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

    Yn dilyn teyrnasiadau Firenze Guidi a Greg Cullen, dyma'r dwylo Cymreiciaf ar lyw Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

    Dyma hefyd ymdrech efallai i bontio eithafion cymharol y ddau yna. Rhwng arbrofion gofod a phroses Guidi, a'i hamarch cymharol at y testun, a chefndir Cullen a oedd, fel dramodydd yn gyntaf, yn dechrau os nad yn gorffen gyda'r gair ysgrifenedig, y mae anian theatrig Baker, ac mae ei gynlluniau at y dyfodol sy'n cynnwys ysgrifenwyr ifainc, yn ddychmygus ac uchelgeisiol.

    Uchelgais theatrig
    Arwydd o uchelgais theatrig yw dewis chwedlau sy'n llawn creaduriaid a bydoedd cyfarwydd ac anghyfarwydd fel ei gilydd ac yn cael eu britho gan drawsffurfiannau gwahanol.

    Ni ellir glynu wrth naturiolaeth yma. Waeth ba mor werthfawr yn llenyddol yw fersiwn Saunders Lewis o Blodeuwedd, nid yw'n gallu ein digolledu am yr hud a'r dirgelwch sydd wrth wraidd y stori.

    Yma mae'r pwyslais bron yn llwyr ar y bobl ifanc i ddangos bodau a bydoedd newydd, a thalp gweddol sylweddol o'u hamser hyfforddiant wedi ei dreulio ar goriograffio'r anifeiliaid a chreaduriaid.
    Amser gwerth chweil heb os.

    Y dehongliadau haniaethol yma oedd un o uchafbwyntiau'r cyflwyniad caboledig hwn, gyda chynhyrchiad ysblennydd Terry Hands o Equus yn Theatr Clwyd yn 1997 yn ddylanwad tebygol o ran y symudiadau a chynlluniau'r penwisgoedd.

    Yn wir, ac eithrio'r penderfyniad i geisio rhyw fath o realaeth ar gyfer ambell ymladdfa, llwyddiant digamsyniol oedd y symud barddonol a disgybledig.

    Y llwyfan
    Syml - ac eto trawiadol - yw'r cynllun llwyfan, sy'n gymharol wag er mwyn i'r hanner cant o berfformwyr ei feddiannu.

    Cylch troi ar ganol y llwyfan yw un o'r ychydig ddyfeisiadau a ddefnyddir. Crëir awyrgylch ar ddechrau'r ddau hanner gyda iâ sych a gwneir defnydd helaeth o gysgodion er mwyn lleihau'r busnes llwyfan: rhaid cofio y cyflwynir pedair cainc yma.

    Crogir cefnlen yn arddull Mark Rothko i gyfleu naws niwlog y drydedd gainc ond fel arall llu o bobl ifainc a'u tonnau egni sy'n llenwi'r llwyfan.

    Ychwanega'r gwaith technegol at waith y perfformwyr yn hytrach na thynnu'n sylw oddi wrthynt.

    Cynhyrchiad arall
    Wrth ysgrifennu'r adolygiad hwn, rwy'n gwrando yn hollol fwriadol ar Diwrnod i'r Brenin, caneuon Geraint Jarman ar gyfer cynhyrchiad Moving Being o'r Mabinogi yn yr Wythdegau, atgof clywedol o gynhyrchiad uchelgeisiol dwyieithog arall.

    Roedd cerddoriaeth yn rhwym o fod yn rhan annatod o gynhyrchiad gweledol a chorfforol ac er nad oedd presenoldeb y caneuon yn fy nhyb i yn ychwanegiad dilys, er gwaethaf eu safon uchel, roedd cerddoriaeth Dyfan Jones yn sail i rai o olygfeydd cryfaf y cynhyrchiad, lle mae'r symud, y gerddoriaeth a'r cynllunio'n uno'n brofiad theatrig llesmeiriol.

    Neb yn wael
    Safon uchel iawn a gafwyd gan y perfformwyr i gyd bron ac er yn berfformiad prynhawn - gydag un nos i ddod - roedd y perfformwyr yn broffesiynol iawn gydag ond ychydig iawn o giledrych tuag at y gynulleidfa er enghraifft.

    Teg dweud nad oedd neb yn wael - a pha mor aml y gellir dweud hynny pan fo mwy na dwsin ar lwyfan?

    Mae pob ohonynt yn haeddu canmoliaeth, a braidd yn annheg fyddai enwi unigolion - ond annhegwch a barn unigol yw natur adolygiad:

    Yn y Corws - Y Breuddwydwyr - fe gafwyd ffocws llwyr gydag ambell unigolyn megis Hannah Good a Dafydd-Llyr Thomas yn amlygu'u hunain.

    O ran y rhai mwy amlwg, roedd Owain Gwynn fel Pwyll yn gadarn ac aeddfed, a Ryan Lane fel Gwawl yn ennyn dim cydymdeimlad, fel sydd eisiau.

    Roedd ymroddiad Gwenllian Higginson wedi tynnu sylw hyd yn oed cyn iddi gamu o'r Corws i roi cig a gwaed i Cigfa.

    Siôn Alun Davies fel Gwydion oedd un o uchelbwyntiau clir y pnawn: dyma actor sydd a'i osgo a'i edrychiad yn dwyn i gof Llŷr Ifans, ac sy'n meddu ar egni anarchaidd y brodyr Ifans.

    Mae gan y gŵr ifanc yma o Gaerdydd y gallu i ddifrifoli hefyd, ac fe all hynny osgoi iddo gael ei gastio'n feunyddiol fel ffŵl.

    Dylid pwysleisio ieuenctid y cast oll, ac mai proses sydd byth yn diweddu yw datblygiad actorion.

    Mae'n deg nodi fod gwendid lleisiol mewn ambell le, ond fe all hyn newid yn weddol sydyn gyda rhaglen hyfforddiant drylwyr.

    Y Gymraeg
    Cwyn cyn cloi: ar ei waethaf roedd y defnydd o'r Gymraeg yn ymylu ar docenistiaeth.

    Tim Baker y cyfarwyddwr a Manon Eames, yr awdur. Mae'n wir nad oes modd diwallu dymuniadau pawb a bod dwyieithrwydd yn dalcen caled ofnadwy nad yw neb efallai wedi llwyddo i'w dorri yn y theatr Gymraeg ond efallai byddai modd cyflwyno rhai o'r chwedlau yn iaith y nefoedd ac eraill yn y Saesneg - ond byddai hynny wedyn yn golygu castio yn ôl gallu ieithyddol.

    Dyma sy'n digwydd, wrth gwrs, wrth gastio yn y theatr broffesiynol.

    Mae'r straeon, wrth gwrs, yn rhai Cymraeg ac efallai y byddai cynhyrchiad cwbl Saesneg yn teimlo'n warth ond gydag ailsefydlu / ailwampio Theatr Ieuenctid yr Urdd mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru angen meddwl ynghylch ei chyfrifoldeb at y Gymraeg.

    Na, nid oes yn rhaid wrth ddau gynhyrchiad gan ThGIC. Yn sicr roedd Cymry Cymraeg yn gymaint rhan o'r cast ag erioed eleni, a braf gweld hynny.

    Mae amserlen y ddau gwmni yn golygu nad oes yn rhaid i'n pobl ifainc ddewis rhwng y ddau, a mae hynny'n bwysig am fod natur y prosiectau'n wahanol.

    Gwibio
    Serch hynny, cynhyrchiad gwefreiddiol a gweledol, a gwibiodd dwy awr a hanner heibio.

    Anodd iawn yw cydbwyso proses a chynnyrch wrth weithio gyda phobl ifainc am gyfnod penodol a chymharol fyr ond fe welsom yma dystiolaeth gadarn o waith unigol a grŵp. Mae'n anghredadwy bron mai mewn mis yn unig y crëwyd y cyfanwaith hwn.

    Ffodus iawn yw'r bobl ifainc yma o gael treulio amser yn nwylo proffesiynol Baker a'i dîm, a dyma greu uchafbwynt cynnar yn eu gyrfaoedd. Gobeithio y bydd rhain yn parhau i boblogi llwyfannau Cymru, a ni'r gynulleidfa fydd yn ffodus wedyn.
    Disglair yw'r dyfodol.

    Y daith
  • Gwener 5 Medi 1.00pm a 7.30pm - Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth 01970 623232
  • Sadwrn 6 Medi 2.30pm a 7.30pm - Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth 01970 623232
  • Mawrth 9 Medi 7.30pm - Clwyd Theatr Cymru 0845 330 3565
  • Mercher 10 Medi 1.00pm - Clwyd Theatr Cymru 0845 330 3565
  • Gwener 12 Medi 1.00pm a 7.30pm - Sherman, Caerdydd 029 2064 6900
  • Sadwrn 13 Medi 2.30pm a 7.30pm CIC - Sherman, Caerdydd 029 2064 6900


  • Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý