Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Bethan Gwanas -  awdur Taith Ysgol NiTaith Ysgol Ni
Drama o le a chyfnod gwahanol
  • Adolygiad Alwyn Gruffydd o Taith Ysgol Ni. Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd. Talaith y Gogledd. Theatr Gwynedd Bangor, 19, Gorffennaf, 2007.


  • Mae'n rhyfedd fel y gall celfyddyd, boed yn llyfr, cân, drama neu lun ddiffinio cyfnod yn oes rhywun.

    Cri cenhedlaeth
    Wrth ddwyn i gof ddechrau Wythdegau'r ganrif ddiwethaf a chyfnod polisïau economaidd andwyol Margaret Thatcher a'i Llywodraeth byddaf yn cael fy atgoffa'n ddi-feth o gyfres deledu anfarwol Alan Bleasdale, Boys from the Blackstuff.
    Dyma oedd realiti diweithdra a'r anobaith ddeuai yn ei sgil.

    Daeth cri ingol a chyson y prif gymeriad Yosser Hughes am unrhyw fath o waith - "Gissa' Job" - yn gri cenhedlaeth gyfan.

    Trigolion ardaloedd dosbarth gweithiol dinas Lerpwl yw cymeriadau Alan Bleasdale a dyma hefyd fu cynfas ffrwythlon un arall o ddramodwyr Glannau Mersi, Willy Russell.

    Does yna neb bron sydd heb glywed am o leiaf un darn o'i waith. Cafodd ei ddrama gerdd, Blood Brothers glod o bob cwr, ac addaswyd ei ddramâu llwyfan, Educating Rita a Shirley Valentine, yn ffilmiau llwyddiannus.

    ffilm deledu
    Ond addasiad ar gyfer llwyfan o ffilm deledu Willy Russell yw dewis cynhyrchiad cyntaf ers ugain mlynedd Talaith y Gogledd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd.

    Mae Our Day Out (1976) ym ymdrin â thaith bws disgyblion difreintiedig, anllythrennog ac anystywallt un o ysgolion cyfun canol dinas Lerpwl i Gastell Conwy am y dydd.

    Dan yr wyneb
    Ar yr wyneb mae'n ddrama sy'n cofnodi rhialtwch pobl ifanc yn cael diwrnod i'r brenin - mae pawb fu ar daith ysgol erioed yn gallu uniaethu â hynny.

    Ond o dan yr wyneb mae yna anesmwythyd creulon wrth i'r disgyblion sylweddoli eu caethiwed i'w sefyllfa drist ac mai'r daith o bosib fuasai pinacl eu bywydau diwerth.

    Yn y cyfieithiad Cymraeg, Trip Ysgol Ni, gan Bethan Gwanas, Ynys Enlli yw diwedd y daith.

    Teitl difflach braidd - ac anghywir - a doedd yr iaith wallus ddim wedi'i chyfyngu i'r teitl ac ar adegau roedd absenoldeb y rhagenw blaen yn y perfformiad yn Theatr Gwynedd ym Mangor yn merwino'r glust ond ni wn ai'r cyfieithiad ynteu cyfarwyddid roed i'r actorion ifanc fu'n gyfrifol.

    Ar ôl dweud hynny cafwyd perfformiadau digon derbyniol gan y cast o 21 gyda Steffan Parry, oedd yn chwarae rhan Mr Edwards yr athro cas - neu Edi Bêr chwedl y disgyblion - a Lynwen Edwards, sef Mrs Hughes yr athrawes glên, yn cario llawer iawn o bwysau'r cynhyrchiad.

    At ei gilydd cafwyd perfformiadau clodwiw gan y ddau a bydd portread Steffan Parry o Mr Edwards yn crafangu ar ei bedwar ar ben dibyn yn aros yn y cof.

    Cafwyd cameo cwbl nodweddiadol o yrrwr bws gan Dylan Parry.

    O ran y disgyblion daeth Garmon Rhys (Iws) a Casi Wyn (Carol) i'r brig. A dweud y gwir roedd datganiad Casi Wyn a'i llais unigryw o unig gân y cynhyrchiad yn un o'r nodweddion mwyaf canmoladwy.

    Ond teilyngdod hefyd i'r gweddill.

    Acenion amrywiol
    Un gair bach arall am y cast.
    Gyda'r aelodau wedi'u tynnu o bob cwr o'r Gogledd roedd hi'n bleser amheuthun clywed y gwahanol dafodieithoedd naturiol gyda'i gilydd ar lwyfan.
    Tafodiaith Sir y Fflint un funud - De Meirionnydd y funud nesaf - heb sôn am acen amlwg y dysgwyr.

    Profiad gwerth chweil ac yn cyfiawnhad di-ddadl dros benderfyniad yr Urdd i atgyfodi'r Theatr Ieuenctid.

    Cyfarwyddwr Trip Ysgol Ni oedd Iola Ynyr o Gwmni'r Frân Wen ac roedd y set yn syml ac aml-bwrpas.

    Yn eu tro bu'r sgaffaldiau ar y llwyfan yn fws, cwch a chlogwyn.
    Di-rwysg ond effeithiol.

    Fodd bynnag, bydd y lluniau ar y sgrîn deledu uwchben y llwyfan yn parhau'n ddirgelwch!
    Siawns bod lefel deallusrwydd y gynulleidfa'n ddigonol heb yr angen am luniau i gadarnhau golygfa mewn bws, neu ffair, neu ar ynys.

    Do a naddo
    Ond a wnaeth y cyfanwaith argyhoeddi?
    Wel, do - a naddo.

    Fel cynhyrchiad roedd o'n ddiddrwg, didda. Yn sicr roedd y gynulleidfa o rieni a neiniau a theidiau a modrybedd ac ewythredd aelodau'r cast ddaeth i Theatr Gwynedd wedi eu boddhau acrwyf innau'n rhannu'r bodlonrwydd hwnnw.

    Ond tybed a oedd y ddrama ei hun yn rhy uchelgeisiol?
    I ddechrau, mae cefndir y ddrama wedi'i gosod yn solet yn Lerpwl gyda phobl y ddinas yn rhan annatod ohoni.

    Yn ail, mae'n trethu'r dychymyg rhywsut tadogi'r fath anobaith a geir yn y ddrama wreiddiol i ddisgyblion yma yng Nghymru - a disgyblion Cymraeg eu hiaith yn fwyaf arbennig.

    Ond yn drydydd mae One Day Out yn ddrama, fel Boys of The Blackstuff, yn perthyn i gyfnod sydd ddeng mlynedd ar hugain yn ôl bellach.
    Efallai mai addasrwydd y ddrama yw gwendid Trip Ysgol Ni, nid y cynhyrchiad drwyddo draw.

  • Rhagor am daith 2007 Cwmni Theatr ieuenctid yr Urdd



  • cyfannwch

    Anhysbys
    Lynwen Roberts oedd yn chwarae rhan Mrs Hughes NID Lynwen Edwards.



    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý