Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Golygfa o'r sioeLlyfr Mawr y Plant
  • Adolygiad Ffion Eluned Owen, Ysgol Dyffryn Nantlle, Gwynedd
    Llond llwyfan o lwynogod, ieir, twrci, ceiliog, hwyaid, wiwerod - o ia, a rhai o actorion a chantorion enwocaf Cymru!
    Swnio'n afreal!?

    Ond dyna'r wledd a brofais yn Theatr Gwynedd, Bangor, wrth i gymeriadau gorau'r ganrif ddiwethaf ddianc o'u llyfr i'r llwyfan dan adain Theatr Bara Caws.

    Pwy fuasai'n meddwl bod Wil Cwac Cwac yn gallu canu a Sïon Blewyn Coch yn gallu dawnsio?

    Amheuon yn diflannu
    Os oedd gennyf unrhyw amheuaeth am ddoniau llwyfan yr hen Sïon a'i ffrindiau roeddent wedi diflannu'n llwyr wedi i mi glywed "Ho! Ho! Ho!" Twm Larwm yn dod i lawr y grisiau ac yna pawb yn ymuno ar y llwyfan i ganu'r gân agoriadol.
    Roedd gennyf deimlad y byddai'n noson i'w chofio!

    O'r munud cyntaf llwyddodd yr actorion i ddod a hud a lledrith geiriau Jennie Thomas a J 0 Williams yn fyw i mi a hynny mewn gwisgoedd lliwgar oedd yn neidio oddi ar y llwyfan.

    Roedd eu hegni diddiwedd yn llamu o gwmpas y theatr ac roedd hi'n rhyfeddol sut yr oeddent yn newid cymeriadau mor gyflym!

    Dwi'n siŵr eu bod yn dyheu am un neu ddwy o gywennod Eban Jos ar ddiwedd y noson!

    Yn wych
    Roedd portread Merfyn Pierce Jones o Ifan Twrci Tena yn wych a phan ddaeth Eban Jos allan efo'i wn roedd mam yn teimlo'n reit ofnus drws nesaf imi!

    Roedd perfformiad Tomos a Begw yn ardderchog ac mae dwy o'u golygfeydd am aros yn fy nghof am amser hir; helbul y brawd a'r chwaer gyda'r cloc a'r cuddio o dan y bwrdd oddi wrth dymer Eban Jos, a'r Tomos a Begw ifanc yn canu a dawnsio How di ho ar y buarth gyda'r ieir.

    Haeddai Arwel Roberts a Siân James yr holl gymeradwyaeth!

    Ond, er mai straeon Sïon Blewyn Coch yw fy ffefrynnau yn y llyfr, Wil Cwac Cwac oedd arwr y noson hon i mi gydag Iwan Charles wedi ei eni ar gyfer y rhan!

    Dwi'n siŵr ei fod yn 'cwacio' yn ei gwsg bellach!

    Yr unig gymeriad nad oeddwn yn ei hoffi oedd yr hen wraig fach; ble'r oedd Robin Siriol?

    Clyfrwch
    Wedi egwyl fer - digon o amser i lenwi fy mol â hufen iâ! - mi wnes i sylweddoli pwy oedd y John yn y gwely a Jennie ei ffrind ac o sylweddoli dotio at y clyfrwch hwn yn yr un modd a'r clyfrwch o blethu'r holl storiâu yn un - pwy fuasai wedi meddwl bod Sïon Blewyn Coch, Siân Slei Bach a'r trŵps yn ffrindiau gyda Wil, Ifan, Bob Dwdldw a Twm Tatws Oer a bod yr adar i gyd yn byw ar fuarth Tomos a Begw?

    Roedd y set glyfar yn rhoi teimlad o gyfrinach a dirgelwch gan ychwanegu at naws ac awyrgylch hudol y sioe ac roedd Twll Daear yn edrych mor gartrefol ag y mae'n swnio yn y llyfr!

    Fe gafodd fy nychymyg redeg i ffwrdd am y noson i Gwm Amser a dwi'n siŵr nad oeddwn yr unig un oedd eisiau ymuno â'r criw i ganu a dawnsio erbyn y diwedd!

    Dim ond cymeriadau bywiog Llyfr Mawr y Plant allai gael theatr lawn o bobl o bob oed i chwerthin yn braf am dros ddwyawr!

    Cwyn
    Dim ond un gwyn oedd gennyf - nid oeddwn eisiau iddo orffen! Roedd hi wir wedi bod yn sioe a hanner a diolch yn fawr i'r anifeiliaid oll am fy niddanu mewn modd unigryw!

    Roedd hi'n ras am yr unig gopi o'r llyfr yn tŷ ni ar ôl cyrraedd adref o Fangor er mwyn cael ail-fyw cyffro'r perfformiad ac ar ôl dod adref o'r ysgol y prynhawn canlynol roedd mam wedi estyn hen fideos Wil Cwac Cwac - mae yna rai pethau nad ydynt byth yn colli eu swyn!

  • Adolygiadau eraill

  • Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý