Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Nic RosMarat - Sade
Perfformio mewn carchar
Bydd criw o fyfyrwyr Cymraeg yn mynd i garchar ar gyfer perfformio drama.

Ac os yw'r lleoliad yn anarferol mae'r ddrama ei hun hefyd yn un o'r rhai mwyaf anghyffredin a sgrifennwyd erioed.

Bydd yr actorion yn chwarae rhan preswylwyr gwallgofdy yn perfformio drama dan arweiniad un o gymeriadau mwyaf dadleuol Ffrainc, y Marquis de Sade.

Er mwyn cael awyrgylch mor debyg a phosibl i un gwallgofdy Ffrengig yn 1808 bydd myfyrwyr Adran Cyfathrebu a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor yn perfformio Erlyniad A Llofruddiaeth Jean Paul Marat, Wedi'i Pherfformio Gan Gleifion Ysbyty Meddwl Charenton Dan Gyfarwyddyd y Marquis De Sade yn hen garchar Biwmares.

Theatr creulondeb
Addaswyd drama chwyldroadol Peter Weiss - y cyfeirir ati fel Marat-Sade - i'r Gymraeg gan Nic Ros, pennaeth Adran Gyfathrebu y coleg.

"Mae'n siŵr fod hon yr enghraifft enwocaf o'r hyn sy'n cael ei alw yn theatr creulondeb - mae hi'n eithafol ac yn emosiynol iawn. Yn gwasgu ar y synhwyrau," meddai.

Poster y cynhyrchiad Yr hyn sy'n ei gwneud Marat-Sade yn ddrama gwir gyfareddol yw'r ffaith mai drama o fewn drama yw hi a'r gynulleidfa heddiw yn cynrychioli cynulleidfa o bwysigion a wahoddwyd i wallgofdy Charenton i weld cynhyrchiad de Sade.

Dyna pam y bydd awyrgylch drawiadol hen garchar Biwmares yn haen mor bwysig o gynhyrchiad Nic Ros a pherfformiad y myfyrwyr.

"Mae rhai o'r myfyrwyr eu hunain wedi teimlo'n ofnus ac yn annifyr wrth ymarfer yno," meddai Nic Ros.

Crwydro'r carchar
Ac er bod y rhan fwyaf o'r cyflwyniad wedi ei ganoli yng nghapel y carchar bydd yr actorion a'r gynulleidfa yn crwydro'r carchar hefyd yn efelychu cynulleidfa de Sade dan arweiniad Monsieur Coulmier, pennaeth y gwallgofdy.

"Oherwydd hyn rhaid cyfyngu ar nifer y gynulleidfa - dim ond rhyw 40 - ond bydd hynny hefyd yn ychwanegu at yr awyrgylch a'r effaith," meddai Nic Ros.

Gwnaeth drama Peter Weiss argraff ar hyd a lled Ewrop lle'i disgrifiwyd fel un o orchestion mwyaf arloesol theatr yr ugeinfed ganrif nid yn unig oherwydd yr amryfal haenau sydd i'r cynhyrchiad ond oherwydd y syniadau a wyntyllir.

Er wedi ei lleoli yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg mae'r ymdriniaeth o syniadau yn ymwneud a natur chwyldro a chyflyrau meddwl a gwallgofrwydd yn gwbl berthnasol hyd yn oed heddiw.

Ffeithiau hanesyddol
Mae ffeithiau hanesyddol gywir wrth wraidd Marat-Sade:
Bu de Sade yn un o breswylwyr gwallgofdy Charenton wedi ei gaethiwo am beryglu moesau'r bobl.

Ac yr oedd yn sgrifennu a chynhyrchu dramâu yn ystod ei arhosiad yno a'r preswylwyr eraill yn actio ynddyn nhw.

Y mae testun y ddrama a gynhyrchir gan de Sade o fewn drama Peter Weiss yn berson hanesyddol hefyd. Yn un o arweinwyr y chwyldro Ffrengig lladdwyd Jean-Paul Marat yn ei fath yn 1793 gan leian o'r enw Charlotte Corday oherwydd ei bod yn ofni ei ddylanwad ar y bobl.

Ym Marat-Sade mae de Sade yn cyflwyno ei ddrama gerbron cynulleidfa ddethol sy'n cynnwys pennaeth Charenton, Monsieur Coulmier, a'i wraig a'i ferch sydd heb sylweddoli pa mor ddychanol gignoeth a chwyldroadol yw cynhyrchiad de Sade.

Mae'r cyfan yn magu arwyddocâd ychwanegol o gofio mai gwallgofiaid yn cynnwys rhai yn dioddef o baranoia a sgitsoffrenia yw 'actorion' de Sade.

Merched yn unig
At hyn oll mae Nic Ros wedi cyflwyno haen newydd arall yn ei addasiad Cymraeg ef.

"Yr ydw i wedi gosod cynhyrchiad de Sade yn asgell y merched yn y gwallgofdy felly, merch, fydd yn chwarae rhan Marat," meddai.

"Yn unig ddynion sy'n ymddangos yn y ddrama ei hun felly yw gweithwyr yr ysbyty.

"Mae'r cyfan yn creu sefyllfa fregus a chwyldroadol iawn gan fod gan de Sade agenda wrth gyflwyno'i berfformiad ond Coulmier yn synhwyro y byddai'r marched yn haws eu trin.

"Mae'n bosib y rhagwelir diweddglo chwyldroadol i'r cynhyrchiad gan de Sade, ond beth yn union fydd canlyniad corddi dyfroedd dwfn y cleifion?" ychwanegodd.

  • Perfformir y cynhyrchiad Cymraeg o Marat - Sade am dair noson Ebrill 27-29 yng Ngharchar Biwmaris ond gyda chyfyngiad ar nifer y gynulleidfa dylid cysylltu rhag blaen ag Amgueddfeydd ac Orielau Môn i sicrhau tocynnau.
01248 724444/810921

i weld y lluniau.


Eisteddfod
Bei-Ling Burlesque
Mwnci ar Dân
A Toy Epic
A4
Actus Reus
Actus Reus - adolygiad
Ar y Lein
Araith hir yn y gwres
Back to the Eighties
Bitsh
Branwen
Branwen - adolygiad
Bregus
Breuddwyd Branwen
Breuddwyd Noswyl Ifan
Bryn Gobaith
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caban Ni Caban Nhw
Caerdroia
Caffi Basra
Café Cariad
Café Cariad
Camp a Rhemp -
Canwr y Byd Caerdydd
Cariad Mr Bustl
Crash
Cymru Fach
Cysgod y Cryman
Cysgod y Cryman - barn arall
Dan y Wenallt
Dawns y Cynhaeaf
Deep Cut
Deinameit
Dewi Prysor DW2416
Digon o'r Sioe
Dim Mwg
Diweddgan
Diweddgan - barn Aled Jones Williams
Dominios - adolygiad
Drws Arall i'r Coed
Erthyglau Cynllun Papurau Bro
Esther - adolygiad
Ffernols Lwcus
Fron-goch
Gwaun Cwm Garw - adolygiad
Gwe o Gelwydd
Gwell - heb wybod y geiriau!
Halen yn y Gwaed
Hamlet - adolygiad 1
Hamlet - adolygiadau
Hedfan Drwy'r Machlud
Hen Bobl Mewn Ceir
Hen Rebel
Holl Liwie'r Enfys
Iesu! - barn y beirniaid
Jac yn y Bocs
Johnny Delaney
Life of Ryan - and Ronnie
Linda - Gwraig Waldo
Lleu
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llywelyn anghywir
Lysh gan Aled Jones Williams
Macsen
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
Maes Terfyn
Maes Terfyn - adolygiad
Marat - Sade
Mari'r Golau
Martin, Mam a'r Wyau Aur
Meini Gwagedd
Melangell
Mosgito
Mythau Mawreddog y Mabinogi
Môr Tawel
Nid perfformiad theatrig
Noson i'w Chofio
O'r Neilltu
O'r boddhaol i'r diflas
Owain Mindŵr
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar:
adolygiadau ac erthyglau

Pwyll Pia'i
Rapsgaliwns
Redflight Barcud
Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
Sibrydion
Siwan - adolygiadau
Siwan - adolygiadau
Siwan - barn Iwan Edgar
Sundance
Tafliad Carreg
Tair drama tair talaith
Taith Ysgol Ni
Taith yr Urdd 2007
Theatr freuddwydion
Trafaelu ar y Trên Glas
Tri Rhan o Dair - Adolygiad
Tri Rhan o dair
Twm Siôn Cati
TÅ· ar y Tywod
Wrth Aros Godot
Wrth Borth y Byddar
Y Bonc Fawr
Y Crochan
Y Dewraf o'n Hawduron
Y Gobaith a'r Angor
Y Pair
Y Pair - Adolygiad
Y Pair - adolygiad Catrin Beard
Y Twrch Trwyth
Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
Yn y Ffrâm
Yr Argae
Yr Ystafell Aros
Zufall
Eisteddfod
Yr Eisteddfod
Genedlaethol
2008 - 2004

Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


Eisteddfod 2004
Eisteddfod 2003
Eisteddfod 2002
erthyglau
Bitsh! ar daith drwy Gymru
Adeilad y Theatr Genedlaethol
Alan Bennett yn Gymraeg
Beckett yn y Steddfod
Blink
Bobi a Sami a Dynion Eraill
Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
Buddug James Jones
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caerdroia
Clymau
Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
Cysgod y Cryman - her yr addasu
Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
Dominos
Drws Arall i'r Coed
Ennyn profiadau Gwyddelig
Esther
Ffernols Lwcus
Fron-goch yng Ngwlad Siec
Frongoch
Grym y theatr
Gwaun Cwm Garw
Gŵyl Delynau Ryngwladol
Hamlet - ennill gwobr
Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
Hen Rebel
Holi am 'Iesu'
Iesu! - drama newydd
Llofruddiaeth i'r teulu
Lluniau Marat-Sade
Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
LluniauMacsen - Pantomeim 2007
Llyfr Mawr y Plant ar daith
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Marat - Sade
Marat - Sade: dyddiadur actores
Mari'r Golau
Mari'r Golau - lluniau
Meic Povey yn Gymrawd
Melangell
Migrations
Mrch Dd@,
Mwnci ar Dân
Myfyrwyr o Goleg y Drindod
Olifer - Ysgol y Gader
Owain Glyndŵr yn destun sbort
Panto Penweddig 2006
Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Ploryn
Porth y Byddar
Romeo a Juliet
Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
Sion Blewyn Coch -
y seicopath?

Siwan ar daith
Streic ar lwyfan
Sundance ar daith
Teulu Pen y Parc
Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
TÅ· ar y Tywod
TÅ· ar y Tywod
- y daith

Wrth Aros Godot - holi actor
Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
Y Pair
Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
Y ferch Iesu
Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
Yr Argae ar daith


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý