Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pair - Adolygiad
Cwpwrdd derw trwm, mawr, brown, o ddrama.
  • Adolygiad Iwan Edgar o Y Pair - cyfieithiad Gareth Miles o The Crucible gan Arthur Miller. Theatr Genedlaethol Cymru. Perfformiad 7 Chwefror 2008. Theatr Gwynedd Bangor.

    Cwpwrdd derw trwm, mawr, brown, o ddrama.
    Un mawr, nobl, solet.
    Nid un tridarn ond un pedwar rhan cadarn.

    Drama gyfnod yw hon - dau gyfnod mewn ffordd: y cyfnod gwreiddiol yn Massetchuses - a dyna air clyfar i'w sillafu - yr ail ganrif bymtheg, a'r cyfnod trosiadol; Unol Daleithiau'r 1950au, cyfnod y gwrach-erlid go iawn.
    Cyfnod erlid y 'gwrachod' Comiwnyddol gan y seneddwr McCarthy adeg y Rhyfel Oer.

    Oedd, yr oedd yna awyrgylch
    Ac wele ruo a bloeddio hyd y llwyfan yn Theatr Gwynedd, fflamau a mŵg mawr y Fall yn cyhwfan fel petai'r cythreuliaid wedi trechu'r holl swyddogion iechyd a diogelwch priodol a bod smocio'n orfodol!

    Eu cyhuddo o fod yn wrachod Merched bach mewn capiau gwynion yn powndio a sgrechian hyd lle ac yng ngwisg y duwiol y llecha'r diafol fu hi wedyn.
    Oedd, yr oedd yna awyrgylch.

    Tipyn o daith
    Her o ddrama, hefo cymaint o actorion ag ambell i ddrama Dolig capel - digon o hyd i mi fod wedi cael amser i fflio - nid fel un wedi ei feddiannu gan gythraul - ond mewn eroplên hanner ffordd i 'Salem Massetchuses' i longyfarch Hilary am guro Obama yn dalaith benodol honno.

    A phan ddaeth yr egwyl, clywais i un cyfaill ddechrau ei hwylio hi am adref gan feddwl ei bod wedi gorffen.

    Doeddwn innau ddim yn hollol siŵr chwaith, am funud, ynteu i godi i fynd am y car ynteu i gael ais crim a pheint a gwneud pi-pi yr oedd y gynulleidfa.

    Ystrydeb o sylw yw dweud y byddai cwtogi ychydig wedi bod yn gymwynas , ond dyna'i ddweud - mi wn nad oes fawr ots am draul ar gadeiriau Theatr Gwynedd bellach a hwnnw i'w ddymchwel yn fuan.

    Ond na fyddaf ysgafnfryd.
    Yr oedd yma bwnc o bwys yn cael ei drafod - yr hysteria hwnnw sy'n rhan o reddf yr haid ynom i gyd, ac fel bo cedyrn cymdeithas - neu'n hytrach y rhai mewn awdurdod - yn ysglyfaeth i ymdrybaeddu cymaint â neb i'w wasanaethu.

    Y cedyrn yw'r rhai sy'n gwrthsefyll.
    Heddiw, yn wir, does neb yn fwy cyfiawn nac oes, na rhai o'r rheiny sy'n amddiffyn plant bach rhag camddefnydd rhywiol - ac weithiau ambell dro maent yn methu onid ydynt ? Hynny ddaeth i'm meddwl fel y gymhareb gyfoes agosaf.

    Cyfleu enbydrwydd
    Ond ni fu i'r ddrama fethu yn y nod o gyfleu enbydrwydd hynny gyda'r trymder beichus yn y set yn cyfleu y peth.

    Ond mi fyddai wedi bod yn goblyn o gymwynas pe byddai lefelau uwch ynddi ac, am wn i, hefo cymaint o gast, gallai hynny fod yn help i amrywio'r golygfeydd rhag bod yn fflat ac actorion mewn rhesi gormodol.

    Dyfan Roberts O ran yr actio, bu ymddangosiad Dyfan Roberts ar gychwyn yr ail ran gryn hwb i fywiogrwydd y cwbl. Efallai'n wir mai chwarae cymeriad diddorol canolog a wnâi fel y Barnwr Danforth - boed hynny'n wir - ond roedd ei bersonoli'n rhoi sbarc i'r peth.

    Ysywaeth, mae'n deg dweud fod ambell i un o'r cymeriadau llai yn brennaidd braidd.
    Gwn nad oedd ganddynt rannau mawr i ddisgleirio ond mi roedd rhywun yn ddiolchgar nad oedd ganddynt.

    Baich anodd
    Owen Arwyn fel John Proctor oedd yr agosaf at brif gymeriad.
    Baich anodd i'w gario ac o'm chwaeth i byddai wedi medru bod yn llai cyson angerddol, fel bo'r ysgafnder yn gwrthgyferbynnu'n well â'r dwyster.

    Hefyd ar gyfer yr un gwrthgyferbynnu, ond rhwng dau gymeriad, a ellid fod wedi gofyn i'r Jonathan Nefydd fel y Parchedig Samuel Parris actio fel dyn gwirionach a basach (ffordd bynnag y gwneid hynny).

    Wnes i ddim deall yn hollol ei fod i fod yn gymeriad mor wirioneddol wan tan yn nes ymlaen a bod tyndra rhyngddo â John Proctor.

    Efallai nad oedd pawb yn clywed y peth ond mi aeth fymryn ar fy nerfau i, eiriau a ieithwedd y De mewn acen ogleddol.

    Oedd y peth yn rhyw botj braidd.
    Pan oedd yr ieithwedd yn ffurfiol doedd ddim trafferth - ond pan oedd, "Nage Satan yw e" mewn acen ogleddol a "paid â llefen" yn cael ei ddweud yn Wyneddaidd roedd yn rhywbeth na allwn lawn ddygymod ag o.

    Y gynulleidfa
    Prun bynnag manion yw hynny.
    Yr oedd y lle yn llawn ar y noson gyntaf fyglyd honno ym Mangor ac fe lwyddwyd i argyhoeddi'r gynulleidfa - rhai yn fwy na'i gilydd fel y byddai i'w ddisgwyl.

    Cododd nifer ar eu traed ar y diwedd.
    Cymeradwyodd eraill ar eu heistedd.
    Meddyliodd eraill beth i'w wneud am ychydig ac, fel defaid drwy'r adwy, yn penderfynu codi.

    Diddorol - hynny - a'i beryglon - oedd un o'r pethau, mewn ffordd, yr oedd y ddrama ei hun yn ei drafod.

  • Cliciwch YMA i ddarllen a chlywed sylwadau catrin Beard ac Iwan Edgar

  • Cliciwch YMA i ddychwelyd i brif ddalen Y Pair ac am fanylion y daith o gwmpas Cymru.

  • Cysylltiadau Perthnasol

  • Rhagor am Y Pair a manylion am y daith

  • Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý