Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
David Lyndon fel Evan RobertsHen Rebel
Sglein heb angerdd - adolygiad o noson gyntaf cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru

  • Adolygiad Gwyn Griffiths o noson gyntaf Hen Rebel yn Theatr y Sherman, Caerdydd, Hydref 6, 2005..

    Y mae gan lawer ohonom rhyw grap ar stori Evan Roberts y diwygiwr ac yr oedd hynny o faich gyda mi gydol perfformiad Theatr Genedlaethol Cymru o Hen Rebel yng Nghaerdydd nos Iau, Hydref 6.

    Prin fy mod i, na neb arall yn Theatr - orlawn - y Sherman, heb ryw syniad o'r hyn yr oeddem yn mynd i'w weld, ei glywed a - hwyrach - ei deimlo.

    Yr oeddwn i yn disgwyl cynhyrchiad llawn ing ac angerdd a môr o forio canu.

    Prin o angerdd
    Yn lle hynny cawsom gynhyrchiad cynnil, disgybledig a phrin iawn o angerdd.

    Ar y llwyfan Er inni gael dogn go dda o ing dramatig ac, am wn i, digon credadwy yn yr ail hanner pan sigir Evan Roberts gan amheuon.

    Drama Gerdd yw disgrifiad y rhaglen.
    Wn i ddim a oes gwahaniaeth rhwng sioe gerdd a drama gerdd ond yr hyn a gawsom oedd drama gyda thipyn go lew o ganu.

    Mewn portread o ddiwygiad mae tipyn go lew o ganu yn anhepgorol!

    Hyd y medraf gofio, yr unig arlliw o'r hyn fuaswn i'n ei alw yn ddrama - neu sioe - gerdd oedd ar y diwedd pan fo criw o fechgyn cyfoes â'u caniau cwrw yn ceisio cofio geiriau cân Yr Hen Rebel a gweddill y cast yn dod i'r llwyfan i'w chanu gyda nhw.

    Rhy ddisgybledig
    Yr oedd y canu yn llawer rhy ddisgybledig.

    Anodd credu bod y groupies a ddilynai Evan Roberts i'w gyfarfodydd pregethu yn canu gyda'r fath gynildeb godidog.
    Ble'r oedd yr angerdd a'r emosiwn?

    Enghraifft ryfedd o hyn oedd Elin (Angharad Lee), y ferch na allai ganu mewn tiwn. (Wel, ddim nes i'r Ysbryd Glân ddisgyn arni!)
    Evan Roberts Canodd bob cân yn fendigedig ac yna canai'r nodyn olaf bob tro yn chwerthinllyd o allan o diwn.

    Gallai Ryan Davies ganu cân gyfan hanner nodyn yn sharp o bob un arall - jyst digon i ddifetha perfformiad pawb arall.
    Yr oedd cynulleidfa'r Sherman ar bigau drwy berfformiadau (hyfryd) Elin yn disgwyl y nodyn allan o diwn.

    Dau ddyn papur newydd
    Yn wrthbwynt i stori Evan Roberts a'r diwygiad cawn y ddau ddyn papur newydd, Stokes y golygydd (Maldwyn John) a Wil (Rhys ap William) oedd yn gwneud eu gwaith yn y dafarn.

    Oes raid parhau â'r hen ystrydeb Americanaidd o newyddiadurwyr sinigaidd yn rhedeg ar alcohol?

    Buaswn wedi disgwyl i Wil - fel cydymaith ieuenctid i Evan Roberts - fod wedi ymdeimlo fwy nag ychydig â chorwynt y diwygiad.

    Yr oedd yn hynod ddifater o'r holl beth - cymharer, er enghraifft, deimladau'r newyddiadurwr Anthony Davies (Llygad Llwchwr) fel y cyfnododd hwy yn ei Ddyddiadur.

    Cynnal acenion
    Yr oedd ambell actor yn cael trafferthion i gynnal yr acen ddeheuol a chafwyd ennyd neu ddwy o ddoniolwch anfwriadol fel pan fo Evan Roberts yn y cyfarfod yng Nghei Newydd yn gweiddi "Pîg fi" cyn newid i "Plyg fi".

    Cafwyd amryw berfformiadau unigol cofiadwy gan gynnwys Llion Williams (Mr Jenkins y siop ddillad) a Carys Eleri (Bertha).

    Sawl dehongliad posibl
    Mae hon yn gowlaid o stori ac, fel y dengys yr holl lyfrau a sgrifennwyd am Evan Roberts, mae llawer dehongliad posib.

    Cododd sgript Valmai Jones ormod o 'sgyfarnogod - fel busnes y Suffragettes ac wedyn y Blaid Lafur Annibynnol.

    Ni lwyddodd sglein cynhyrchiad Cefin Roberts i gyfleu'r angerdd.

    Y gwir plaen yw, nid oedd hwn yn gynhyrchiad oedd yn argyhoeddi ac yr oedd ymateb llugoer y gynulleidfa ar y diwedd yn brawf o hynny.

    Evan RobertsOnd fe allem ddweud fod gennym nawr, o leiaf sicrach gafael ar y stori, er bod peth o'r diolch am hynny yn ddyledus i Densil Morgan am ei erthygl werthfawr yn y rhaglen.

    Y daith
    Theatr Sherman, Caerdydd Hydref 6-8, 2005
    • Theatr Lyric, Caerfyrddin, Hydref 11;
    • Theatr Ardudwy, Harlech, Hydref 13-14;
    • Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth, Hydref 20-21;
    • Theatr Mwldan, Aberteifi, Tachwedd 3-4;
    • Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, Tachwedd 8-9;
    • Bydd y perfformiadau olaf yn Theatr Gwynedd, Bangor, Tachwedd 16-19.
    Bydd sesiwn egluro ar gyfer dysgwyr cyn un perfformiad ym mhob un o'r theatrau. Dylid cysylltu â'r theatrau am fanylion.

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Mwy am y cynhyrchiad


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý