Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
BlinkBlink
Gofidio nad oes llwyfan i addasiad Cymraeg
Mae awdur drama Saesneg yn ymwneud â phlant a gafodd eu camdrin gan eu hathro wedi dweud ei fod yn gofidio nad yw fersiwn Gymraeg wedi cael ei llwyfannu.

Bu Blink gan Ian Rowlands ar daith o amgylch Cymru yn ystod Hydref a Thachwedd 2007.

Mae'n ymwneud â'r hyn a ddigwyddodd yn Ysgol Gyfun Rhydfelen yn yr Wythdegau pryd cafodd plant eu cam-drin gan un o'r athrawon, John Owen.

Arweiniodd y cyhuddiadau yn erbyn John Owen at gyhoeddi adroddiad Clywch gan Gomisiynydd Plant Cymru.

Ond cyn hynny yr oedd John Owen, athro Addysg Grefyddol yn Rhydfelen ac athro a oedd yn ganolbwynt gweithgareddau drama a pherfformio yr ysgol, wedi lladd ei hun cyn i achos llys yn ei erbyn gael ei gynnal.

Cael pobl i ddeall
Yr oedd Ian Rowlands yn un o ddisgyblion yr ysgol ar y pryd ac er na chafodd ef ei hun ei gam-drin dywedodd ei fod yn ei hystyried yn "orfodaeth" arno sgrifennu a rhoi'r hanes ar lwyfan "fel bo pobl Cymru yn deall beth a ddigwyddodd".

Ian Rowlands ar leoliad un o'i gynyrchiadau "Roeddwn i'n teimlo fy mod i eisiau bod yn llais i'r rhai wnaeth ddatgan eu poen i mi," meddai wrth gael ei holi gan Gwilym Owen ar y rhaglen radio, Wythnos Gwilym Owen ddydd Llun, 19 Tachwedd, 2007.




"Y ddawn sydd gen i yw sgrifennu dramâu felly felly sut allwn i ddefnyddio y ddawn sydd gen i, i unioni rhyw fath o gam," meddai.

Addasiad Cymraeg
Er bod addasiad Cymraeg o Blink wedi ei baratoi gan y dramodydd, Gareth Miles, dywedodd Ian Rowlands ei fod o'n siomedig nad yw'r addasiad hwnnw yn cael ei lwyfannu hefyd.

"Mae addasiad Gareth Miles yn un hynod ac fe fyddai'r ddrama wedi atseinio mewn ffordd hollol wahanol gyda chynulleidfa Gymraeg," meddai Ian Rowlands.

"Nid yn [ddrama] gryfach [yn y Gymraeg] ond yn wahanol achos fe fyddai'r touchstones wedi bod yn wahanol ac fe fydden nhw wedi deall y cyd-destun Cymraeg dipyn bach mwy," meddai.

"Yn y ddrama bresennol does yna ddim lot o sôn am yr iaith er enghraifft," ychwanegodd.

Cytunodd ei bod yn anffodus nad oes neb wedi gafael yn y fersiwn Gymraeg a'i lwyfannu.

"Mae yn addasiad arbennig," meddai.

"Yr oedd yna fwriad i'w llwyfannu ac ar y funud olaf fe dynnwyd yn ôl," eglurodd.

"Fe welodd rhai o'r actorion y ddrama [Saesneg] yng Nghaernarfon ac fe ddywedson nhw, 'Pam nad ydym ni wedi gwneud y ddrama yma fe fuasem ni wedi bod wrth ein bodd cael ei gwneud yn y Gymraeg?'

"Ac fe fyddwn innau wrth fy modd hefyd," meddai Ian Rowlands.

'Bwli carismatig'
Yn cymryd rhan yn y drafodaeth hefyd yr oedd un o actorion Blink, Lisa Palfrey, yr oedd John Owen yn 'athro dosbarth' iddi yn yr ysgol.

Dywedodd ei bod yn ei gofio fel "bwli" a "dyn pwerus iawn" ond ni chafodd hi yn bersonol ei thrin fel rhai o'r plant eraill a fu'n cwyno am ei ymddygiad.

"Fel plentyn bach roeddwn i wrth fy modd yn ei gwmni e. Yr oedd yn ddyn a charisma ffantastig. Roedd e'n gwneud pethau gwych gyda drama ac fel rhywun oedd wastad eisiau bod yn actores, wrth gwrs roeddwn i eisiau i'r dyn yma fy hoffi fi a rhoi rhan i mi yn y dramâu," meddai.

"Ond roeddwn i hefyd yn gweld ochr greulon iawn i'r dyn yma, hyd yn oed pan oeddwn i'r ferch fach [11 oed].

"Roedd e'n chwarae gyda meddyliau plant, eu emosiynau nhw.

Golygfa o'r ddrama "Roedd e'n fwli o'r radd eithaf ac er fy mod i ofn y dyn ac yr oedd hwnna wedi cario mlaen trwy gydol fy amser yn yr ysgol [ond] yr oedd yna rhyw reddf yna fy mod i'n dal eisiau iddo fy hoffi i," meddai.

Ychwanegodd ei fod "yn ddyn pwerus iawn" gyda'r "rhan fwyaf o blant yn byw mewn ofn o John Owen".

Meddai: "Yr oedd e naill ai'n eich hoffi chi neu ddim ac ef oedd yn penderfynu pryd oedd e yn gwneud hynny.

"Yr oedd hyd yn y oed y plant mwyaf caled yn yr ysgol ofn John Owen.

"Fel roeddwn i'n dweud, roedd e'n ddyn pwerus iawn ac mewn ffordd ef oedd yn rhedeg yr ysgol. Roedd e fel teyrn ar yr holl beth."

Ychwanegodd: "Mae'n anodd disgrifio. Ond fel plentyn 11 oed dyna'r unig brofiad oeddwn i'n wybod ac roeddwn i'n meddwl ei bod yn normal cael ein trin fel yna gan athro."

Dosbarth gweithiol
Dywedodd yn ystod y sgwrs hefyd fod y bechgyn yr oedd John Owen yn eu "dewis" yn dod o gartrefi di Gymraeg, dosbarth gweithiol.

"A beth oedd e'n i wneud oedd 'grŵmio' y rhieni hefyd a dwi'n meddwl ei bod yn bwysig fod y ddrama yn yr iaith Saesneg achos plant o deuluoedd di-Gymraeg oedd gan amlaf yn cael eu cam-drin," meddai.

Ychwanegodd i'r profiad o actio yn Blink fod yn "un o'r gweithiau mwyaf pwysig rydw i erioed wedi wneud" ac iddo fod yn brofiad cartharthig iawn iddi fel person.

  • Cynhyrchwyd Blink gan gwmni theatr newydd FAB o Gaerdydd.




  • Cysylltiadau Perthnasol


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý