Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Catrin Rhys fel OpheliaHamlet - adolygiadau
  • Adolygiad Grahame Davies
  • Adolygiad Gwyn Griffiths

    Sylwadau Grahame Davies yn dilyn gweld Hamlet yn Y Theatr Newydd, Caerdydd, Tachwedd 11, 2005.

    Rhyw brynhawn Sul glawog oedd hi, a minnau'n tua 11 oed, pan ddeuthum ar draws Hamlet am y tro cyntaf.

    Newid sianeli ar y teledu yr oeddwn - gorchwyl oedd yn cymryd llawer llai o amser yn y dyddiau dwy-sianel hynny - yn chwilio am rywbeth i'w wylio, pan welais ddechrau rhyw ffilm ddu-a-gwyn a ymddangosodd fel rhyw fath o stori ysbryd.

    Dechreuais wylio. Roedd rhyw ddyn gyda gwallt annaturiol o olau yn dod wyneb-yn-wyneb ag ysbryd ei dad a ofynnai iddo ddial am ei lofruddiaeth, a dyna ddechrau ar gyfres o ddigwyddiadau cynyddol drasig wrth i'r fab ymateb i'r cyngor hwnnw.

    A bron i dair awr yn ddiweddarach, yr oeddwn yn dal wedi sodro i'm lle gan y stori hon. Roeddwn wedi cwrdd ag athrylith Shakespeare, a thrwy gyfrwng athrylith arall, sef Laurence Olivier, achos y fersiwn o'r ddrama yr oeddwn newydd wylio oedd yr un a wnaeth ef ym 1948.

    Mae gan Hamlet le arbennig yn fy nghalon felly. Ers hynny, mi astudiais y ddrama yn fanwl yn y coleg, ac mi wyliais sawl cynhyrchiad, gan gynnwys un gan yr RSC, a mwy nag un ffilm, gan gynnwys fersiwn Franco Zeffirelli o 1990 gyda Mel Gibson yn y prif ran, oedd, chwarae teg, yn well na'r disgwyl.

    Y cynhyrchiad Cymraeg

    Roeddwn wrth fy modd, felly, pan glywais fod cynhyrchiad Cymraeg ar y gweill, a hynny gan y Wales Theatre Company dan arweiniad Michael Bogdanov, yn defnyddio cyfieithiad newydd sbon gan Gareth Miles.

    Yn gymhelliad ychwanegol wrth imi fwcio'r tocyn - a, do, mi wnes i dalu am docyn ar gyfer y perfformiad cyn i'r theatr ddechrau eu rhoi nhw am ddim - oedd i weld pa mor atebol oedd Cymraeg cyfoes i ddelio gyda drama sydd, wedi'r cyfan, yn un o gonglfeini diwylliant y Gorllewin.

    Fe ragorwyd ar fy disgwyliadau ym mhob ffordd. Dyma gynhyrchiad cyfoes, aeddfed, ac effeithiol dros ben, ac y mae'r cyfieithiad yn rhagorol, yn rhywiog, llyfn, cyfoes a byw.

    Y ffaith fod y cynhyrchiad hwn mor llwyddiannus sy'n fy nghymell i ysgrifennu'r ychwanegiad hwn i adolygiad treiddgar Gwyn Griffiths sydd eisoes wedi ymddangos ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd

    Fe garwn felly, yn syml, ategu ei ganmoliaeth haeddiannol i safon uchel yr actio a'r llwyfannu, cyn mynd ati i gynnig ychydig o sylwadau ychwanegol.

    Y cynghorwr hirwyntog

    Poloniws yn gyntaf, a chwaraewyd yn ardderchog gan Owen Garmon. Hwn yw cynghorwr y brenin, henwr nad oes gwadu ei allu na'i graffter, ond un y mae ei rinweddau wedi mwy na'u gwrthbwyso gan ei ffaeleddau - y ffaith ei fod yn hirwyntog, yn hunan-bwysig ac yn ddihiwmor ar y naw.

    Gwelais chwarae'r rhan hwn mewn sawl ffordd, gyda'r actorion weithiau yn pwysleisio amcanion da Poloniws, fel bod y gwyliwr yn teimlo trueni drosto, ac ar adegau eraill yn pwysleisio'i ffaeleddau, fel bod y gwyliwr yn dod i rannu'r diffyg amynedd, onid casineb, y mae Hamlet yn teimlo tuag ato.

    Ond welais i erioed Poloniws o'r blaen lle'r oeddwn yn teimlo fy mod yn adnabod y teip yma o ddyn mor dda. Yn y Saesneg, mae hoffter y cymeriad o sŵn ei lais ei hun, ei ymhyfrydu blinderus mewn clyfrwch geiriol yn cael ei weld yn nodwedd hynod.

    Ond yn y Gymraeg, nid rhywbeth hynod yw'r duedd lafurus hon ond yn hytrach un boenus o gyfarwydd. Wrth glywed Poloniws yn traethu ei gynghorion i'w gynulleidfaoedd a oedd wedi eu caethiwo un ai gan boleitrwydd neu gan ofn, roeddwn fel petai yn cael fy hun yng nghwmni un o'r cymeriadau hynny sydd mor frith yn y Gymru Gymraeg - rhyw flaenor neu gyn-brifathro sydd ond yn rhy barod i arddangos cywirdeb ei farn, a chywirdeb a choethder ei Gymraeg, o flaen pa bynnag drueiniaid syrffedig sydd heb ddewis ond gwrando arno. Roedd y Gymraeg, felly, yn gyfrwng gwell i weld Poloniws fel cymeriad cig-a-gwaed.

    Grym

    Dyna'r cwestiwn o rym, wedyn. Mae unrhyw ddrama sy'n ymwneud â brenhinoeddd yn rhwym o fod ag elfen gref o wleidyddiaeth rym ynddi, ac mae'r cynhyrchiad hwn yn sicr wedi dewis amlygu'r elfen honno o'r digwydd, yn lle, dyweder, yr elfen ddirfodol yn y dewis erchyll y mae Hamlet yn ei wynebu, sef p'un a ddylai dial am lofruddiaeth ei dad ai peidio.

    Mae delweddaeth filitaraidd yn treiddio'r cynhyrchiad, o'r ffont a ddefnyddir ar gyfer y deunydd cyhoeddusrwydd, drwodd i'r set, y mae hanner ohono yn wersyll milwrol modern, i'r gwisgoedd, lle mae iwnifforms milwrol modern yn gyffredin, ac i'r digwydd ei hun, lle mae trais yn amlwg yn aml, a lle mae'n llechu dan yr wyneb yn barhaol.

    Trais

    Gwelir y ffrwd hon o drais yn y ffordd y mae'r cymeriadau yn ymwneud â'i gilydd hefyd. Er enghraifft, mae Claudiws, y brenin anghyfiawn, fel y'i chwaraeir gan y cawraidd Julian Lewis Jones, yn berwi o fygythiad cuddiedig.

    Claudiws Dyna Hamlet ei hun wedyn, yn y ffordd y mae'n trin ei gariad diniwed, Offelia druan, yn treisio'i hemosiynau. Yn y cynhyrchiad hwn, y trais a deimlir yn fwy na'r pathos a geir yn aml yn y berthynas hon. Chwaraeir y rhan yn wych gan Gareth John Bale, a hynny drwy ddarlunio'r tywysog fel 'bachan' ffraeth, hoffus a normal, y mae'n hawdd ymdeimlo â'i wewyr wrth iddo geisio rhoi trefn ar y digwyddiadau pwdr ac annaturiol a ddaeth i ran llys Denmarc.

    A gwelir y peth mewn ffordd fwy cyfrwys hefyd hyd yn oed yn y modd y mae Poloniws yn siarad, achos onid treisio hunan-barch ac amynedd ei wrandawyr y mae ef drwy iddo eu gorfodi nhw i wrando ar ei draethu hunan-dybus, a hwythau heb ddewis ond rhoi clust iddo gan mor bwerus ydyw? Mae sawl ffordd o gamddefnyddio grym, felly.

    A dyma ffordd arall y mae'r cyfieithiad Cymraeg yn dangos posibiliadau nad ydynt ar gael mewn Saesneg, sef y defnydd o iaith parch, hynny yw: pwy sy'n cael ei alw'n 'chi' a phwy sy'n cael ei dydïo. Drwy hyn, anfonir neges dawel yngl^n â phwy sydd â'r grym yn y berthynas mewn cwestiwn.

    Gan i Shakespeare ei hun fod yn anghyson yn ei ddefnydd o ffurfiau cyfatebol Saesneg ei gyfnod, 'thee' a 'you', mae'r cyfieithiad Cymraeg yn cynnig haen o weithgaredd nas ceir yn y gwreiddiol.

    Saethu diangen

    Ond tra'n sôn am drais, un o'r ychydig amheuon yr oedd gennyf gyda'r cynhyrchiad hwn oedd y modd y lladdwyd dau gymeriad dinod, unwaith wrth Laertes fynnu ateb gan y brenin am farwolaeth ei dad, Poloniws, ac unwaith wrth i Fortinbras o Norwy ddod i'r llwyfan yn y llinellau olaf i feddiannu'r deyrnas.

    Yn yr achos cyntaf, lleihawyd y cydymdeimlad y dylid ei deimlo tuag at y fab galarus gan iddo ladd rhywun mewn ffordd mor ddidaro ac ymddangosiadol ddiangen, ac yn yr ail achos, â'r gynulleidfa newydd weld pedwar marwolaeth dirdynnol, gan gynnwys y prif gymeriad a'i elynion pennaf, diangen oedd saethu rhyw druan dienw oedd yn digwydd sefyll yn y lle anghywir.

    At hynny, roedd defnyddio ergyd o lawddryll i ladd y ddau ddienw yma, (tra bod y cymeriadau eraill wedi cael eu gwenwyno neu eu trywanu), yn golygu bod sioc yr ergyd yn chwalu'r awyrgylch marwnadol y llwyddwyd i'w greu yn ofalus yng ngweddill yr olygfa.

    Cymeraf mai ceisio cyfleu mor rhad yw bywyd yn y Ddenmarc dreisgar hon oedd y bwriad, ond gyda'r llwyfan, erbyn yr olygfa olaf, yn drwch o gyrff un brenin, un frenhines, un uchelwr ac un tywysog, go brin bod saethu rhyw werinwr druan yn ychwanegu rhyw lawer at y neges. Yn hytrach mae'n enghraifft o'r ffaith bod mwy, weithiau, yn llai.

    Llwyddiant

    Ond mân bwynt yw hwnnw. Mae'r cynhyrchiad hwn yn gampus, gyda dyluniad trawiadol, llwyfannu llawn awyrgylch, a pherffomiadau cyson ragorol, a da gennyf oedd gweld bod llawer mwy yn y gynulleidfa yn y Theatr Newydd nag a fu ar gyfer y perfformiad cyntaf yn Theatr y Grand, Abertawe, pan ddaeth, mae'n debyg, 28 o bobl yn unig.

    Yn sicr, mae gwaith o'r safon hwn yn haeddu cynulleidfa. A gobeithif y bydd cynulleidfaoedd y gogledd yn manteisio ar y cyfle i'w weld pan mae'n cael ei lwyfannu yn Theatr Gogledd Cymru ar Dachwedd 22 a 23.

    Gobeithaf yn wir na wnaiff y cwmni ddigalonni o gwbl, ond yn hytrach fynd ati i wneud mwy o waith o'r fath.

    Wrth fwynhau'r profiad o wylio'r ddrama hon, dechreuais feddwl am ryw sefyllfa ddelfrydol lle y byddai modd mwynhau dramâu Shakespeare i gyd yn y Gymraeg. Ac erbyn meddwl, nid yw'n syniad mor anymarferol â hynny o gwbl, pe bai'r ewyllys ar gael.

    Pe byddai rhyw sefydliad goleuedig yn ariannu'r gwaith o gyfieithu'r 37 o ddramâu, gan brynu'r hawlfreintiau i'r cyfieithiadau hefyd, dyna greu adnodd gwych i garedigion y ddrama, a thrallwysiad cryf i wythiennau'r diwylliant Cymraeg.

    Ymhen amser, fe fyddai gennym 37 o gyfrolau safonol, a thestunau'r dramâu ar gael ar y we, i unigolion, cwmnïau drama ac ysgolion eu defnyddio. A phe aed ati i gynhyrchu'r dramâu yn rheolaidd hefyd, gellid eu ffilmio ac - o ddod i drefniant parthed yr hawliau eto - roi'r recordiadau yna allan mewn ffurf DVD ac ar y we, yn gyfraniad cyson i'r diwylliant.

    Uchelgeisiol yn sicr, ond mae'r ffaith bod rhywun yn cael ei ysgogi i feddwl mewn termau hyderus o'r fath yn fesur o lwyddiant digamsyniol yr Hamlet Cymraeg hwn.

  • Cysylltiadau Perthnasol


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý