Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Fron-goch
Bae Guantanamo Cymru - yng nghynefin Bob Tai'r Felin!
Adolygiad Alwyn Gruffydd


Adolygiad Alwyn Gruffydd o Fron-goch
Llwyfan Gogledd Cymru
Ardal Fron-goch ger Y Bala yng Ngwynedd. Dyma fro Bob Roberts Tai'r Felin, dyma fro'r chwisgi Cymreig ac, wrth gwrs, dyma Fro Tryweryn.

Ond go brin bod yr wybodaeth honno o unrhyw bwys i'r 1,800 o Wyddelod gafodd eu cludo yno gyda thrên ym mis Mehefin 1916.

Roedd meddyliau'r rheini ar dynged eu gwlad eu hunain.

Cwta ddeufis ynghynt bu nifer fawr ohonynt - er nad bob un o ddigon - yn rhan o Wrthyfel y Pasg yn Nulyn.

Roeddynt yn dystion wrth i fargyfreithiwr ifanc - ac aelod o Orsedd y Beirdd - Pádraig Pearse, sefyll wrth fynedfa prif lythyrdy Iwerddon a chyhoeddi i'r byd sefydlu Poblacht na hEireann - Gweriniaeth Iwerddon.

Chwim a didostur
Bu ymateb yr awdurdodau Prydeinig yn chwim a didostur.

Ymhen pythefnos dienyddwyd Pearse, ei frawd, Willie, ac 13 o arweinwyr eraill y Gwrthryfel.

Ar ben hynny cadwyd unrhyw un yn cael ei amau o gyfrannu, hyrwyddo neu gynorthwyo'r chwyldro o dan glo, heb ddwyn achos cyfreithiol yn eu herbyn.

Y rhain oedd i gyrraedd Fron-goch.

Camgymeriad a bendith
I'r awdurdodau Prydeinig bu cadw'r gwrthryfelwyr i gyd gyda'i gilydd yn gamgymeriaid tactegol erchyll - i'r Gwyddelod bu'r penderfyniad yn fendith ysgubol.

Oherwydd yn Fron-goch y plannwyd hadau Iwerddon Rydd.

Roedd cymaint o gyffelyb fryd yn yr un unfan yn gyfle euraid i gynllunio, cynllwynio a pharatoi ar gyfer dydd eu rhyddhau o gaethiwed.

Ymhlith y carcharorion roedd unigolion oedd i chwarae rhan amlwg yn yr ymgyrch dros ryddid gan gynnwys neb llai na Michael Collins ei hun.

Does ryfedd i Fron-goch ennyn y teitl Prifysgol y Chwyldro. Yn wir, bedair blynedd yn ddiweddarach, pan roedd rhyfel annibyniaeth Iwerddon ar ei anterth, roedd wyth allan o 13 o aelodau prif gyngor Oglaigh na hEireann (yr IRA) yn raddedig o'r Brifysgol honno.

Mynd dan groen
Does dim dadl felly ynglŷn â chyfraniad yr ardal ddiarffordd yma ym Meirionnydd i hanes ein cefndryd Celtaidd ond llai clir fu effaith presenoldeb y Gwyddelod arnom ni'r Cymry.

Ceisio mynd o dan groen yr agwedd honno o'r bennod hynod yma yn hanes y ddwy wlad wna cynhyrchiad diweddaraf Llwyfan Gogledd Cymru, Fron-goch (teitl amlwg, ta be?).

Lladd ei hun
Yr awdur yw'r Prifardd Ifor ap Glyn sydd wedi seilio'r cynhyrchiad ar gymeriad o gig a gwaed fu â rhan amlwg ym mywyd y Gwyddelod yn Fron-goch.

Roedd y Dr David Peters yn feddyg teulu yn Y Bala ac fe'i penodwyd yn swyddog meddygol i'r gwersyll. Drwy ei lygaid a'i ymarweddiad o cawn brofi'r agwedd glasurol Gymreig pan ddaw hi'n fater o drafod y berthynas waedlyd rhwng Lloegr ac Iwerddon.

Ar y naill law mae greddf y cwlwm Celtaidd yn mynnu bod y frwydr dros hawliau'r Gwyddelod hefyd yn frwydr i ni'r Cymry, ond ar y llaw arall ni allwn, ar boen ein bywydau, ddatgan hynny'n gyhoeddus rhag troi'r drol yn Lloegr.

Yn achos Dr Peters roedd yn gallu uniaethu â safbwynt y rhai o dan ei ofal ond ar yr un pryd yn eu hamddifadu o driniaeth feddygol. Yn y diwedd bu'r cwbl yn ormod iddo ac fe'i lladdodd ei hun yn nyfroedd afon Tryweryn.

Richard Elfyn sy'n chwarae rhan Dr Peters ac mae'n gwneud hynny'n gynnil ac effeithiol tu hwnt.

Drwg a da
Dau gymeriad arall sydd yna yn ymddangos ar lwyfan Fron-goch sef y swyddog milwrol, y Capten Bevan a'r carcharor Malone. Does dim cynildeb yma ac nid yw'r cynhyrchiad yn ymdrechu i guddio pwy o'r ddau gymeraid yw'r dyn drwg a phwy yw'r dyn da.Y milwr a'r carcharor

Mae'r naill yn olrhain ei dras Cymreig i'r Arglwydd Rhys ond wedi bradychu ei enedigaeth fraint am yrfa filwrol.

Mae'r llall hefyd wedi dewis llwybr y bwled a'r gwn ond er mwyn gwarchod ei etifeddiaeth, ei genedl a'i iaith. Mae'r gwrthdaro rhwng y ddau'n fynych a ffiaidd ac mae Michael Atkinson fel y Capten Bevan a Caoimhin O Conghaile, sy'n chwarae rhan Malone, yn porteadu eu cymeriadau'n gredadwy ac ar brydiau'n angerddol.

Lluniau fideo
Mae gweddill y cymeriadau'n ymddangos drwy gyfrwng lluniau fideo. Er bod y symud mynych o'r sgriniau'n amharu peth ar rediad y perfformiad mae'r dechnoleg wedi gallogi'r awdur leoli rhai golygfeydd y tu allan i'r gwersyll.

Mae'r dadlau ar lawr TÅ·'r Cyffredin rhwng yr Ysgrifennydd Cartref, Herbert Samuel, a'r aelod seneddol Gwyddelig, Larry Ginnel, yn gweithio'n wych.

Felly hefyd y fam yn Iwerddon yn ysgrifennu at ei mab yn Fron-goch.

Ond efallai bod cynnwys Michael Collins (John Desmond) a Phennaeth Gwersyll Fron-goch, Y Cyrnol Frederick Arthur Heygate Lambert (Peter Lorenzelli) hefyd ar fideo yn or-ddefnydd o'r dechneg.

Ar ôl dweud hynny bydd y dechnoleg yn sicr o olygu arbedion sylweddol mewn costau teithio a llety actorion wrth i Fron-goch deithio theatrau Cymru ac Iwerddon dros yr wythnosau nesaf.

Tair iaith
Taflunio geiriau Mae Fron-goch yn ddrama dairieithog. Roedd yn rhaid iddi fod rhywsut. O ganlyniad mae'r lingua franca yn teyrnasu. Ceir cyfiethiadau Saesneg o gyfraniadau Cymraeg Dr Peters a'r Wyddeleg ddaw o enau Malone a'i fam wedi'u taflunio i'r llwyfan.

Bae Guantamano Cymru
Mae Fron-goch yn ddrama ysgytwol.
Mor hawdd fuasai rhamantu am gyfraniad aruchel y gwersyll i hanes Iwerddon ond llwyddodd Ifor ap Glyn osgoi hynny.

Wedi'r cwbl Fron-goch oedd Bae Guantanamo y dydd. Bae Guantanamo ar dir Cymru ac roedd amgylchiadau truenus yn aros y Gwyddelod ddaeth yno.

Yn Fron-goch mae Malone yn ynganu enw'r pentref fel Ffrangach. Francach yw'r gair Gwyddeleg am lygoden fawr.

Dyma fro Bob Roberts Tai'r Felin, dyma fro'r chwisgi Cymreig ac, wrth gwrs, dyma Fro Tryweryn.

Cysylltiadau Perthnasol




cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Eisteddfod
Bei-Ling Burlesque
Mwnci ar Dân
A Toy Epic
A4
Actus Reus
Actus Reus - adolygiad
Ar y Lein
Araith hir yn y gwres
Back to the Eighties
Bitsh
Branwen
Branwen - adolygiad
Bregus
Breuddwyd Branwen
Breuddwyd Noswyl Ifan
Bryn Gobaith
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caban Ni Caban Nhw
Caerdroia
Caffi Basra
Café Cariad
Café Cariad
Camp a Rhemp -
Canwr y Byd Caerdydd
Cariad Mr Bustl
Crash
Cymru Fach
Cysgod y Cryman
Cysgod y Cryman - barn arall
Dan y Wenallt
Dawns y Cynhaeaf
Deep Cut
Deinameit
Dewi Prysor DW2416
Digon o'r Sioe
Dim Mwg
Diweddgan
Diweddgan - barn Aled Jones Williams
Dominios - adolygiad
Drws Arall i'r Coed
Erthyglau Cynllun Papurau Bro
Esther - adolygiad
Ffernols Lwcus
Fron-goch
Gwaun Cwm Garw - adolygiad
Gwe o Gelwydd
Gwell - heb wybod y geiriau!
Halen yn y Gwaed
Hamlet - adolygiad 1
Hamlet - adolygiadau
Hedfan Drwy'r Machlud
Hen Bobl Mewn Ceir
Hen Rebel
Holl Liwie'r Enfys
Iesu! - barn y beirniaid
Jac yn y Bocs
Johnny Delaney
Life of Ryan - and Ronnie
Linda - Gwraig Waldo
Lleu
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llywelyn anghywir
Lysh gan Aled Jones Williams
Macsen
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
Maes Terfyn
Maes Terfyn - adolygiad
Marat - Sade
Mari'r Golau
Martin, Mam a'r Wyau Aur
Meini Gwagedd
Melangell
Mosgito
Mythau Mawreddog y Mabinogi
Môr Tawel
Nid perfformiad theatrig
Noson i'w Chofio
O'r Neilltu
O'r boddhaol i'r diflas
Owain Mindŵr
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar:
adolygiadau ac erthyglau

Pwyll Pia'i
Rapsgaliwns
Redflight Barcud
Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
Sibrydion
Siwan - adolygiadau
Siwan - adolygiadau
Siwan - barn Iwan Edgar
Sundance
Tafliad Carreg
Tair drama tair talaith
Taith Ysgol Ni
Taith yr Urdd 2007
Theatr freuddwydion
Trafaelu ar y Trên Glas
Tri Rhan o Dair - Adolygiad
Tri Rhan o dair
Twm Siôn Cati
TÅ· ar y Tywod
Wrth Aros Godot
Wrth Borth y Byddar
Y Bonc Fawr
Y Crochan
Y Dewraf o'n Hawduron
Y Gobaith a'r Angor
Y Pair
Y Pair - Adolygiad
Y Pair - adolygiad Catrin Beard
Y Twrch Trwyth
Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
Yn y Ffrâm
Yr Argae
Yr Ystafell Aros
Zufall
Eisteddfod
Yr Eisteddfod
Genedlaethol
2008 - 2004

Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


Eisteddfod 2004
Eisteddfod 2003
Eisteddfod 2002
erthyglau
Bitsh! ar daith drwy Gymru
Adeilad y Theatr Genedlaethol
Alan Bennett yn Gymraeg
Beckett yn y Steddfod
Blink
Bobi a Sami a Dynion Eraill
Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
Buddug James Jones
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caerdroia
Clymau
Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
Cysgod y Cryman - her yr addasu
Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
Dominos
Drws Arall i'r Coed
Ennyn profiadau Gwyddelig
Esther
Ffernols Lwcus
Fron-goch yng Ngwlad Siec
Frongoch
Grym y theatr
Gwaun Cwm Garw
Gŵyl Delynau Ryngwladol
Hamlet - ennill gwobr
Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
Hen Rebel
Holi am 'Iesu'
Iesu! - drama newydd
Llofruddiaeth i'r teulu
Lluniau Marat-Sade
Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
LluniauMacsen - Pantomeim 2007
Llyfr Mawr y Plant ar daith
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Marat - Sade
Marat - Sade: dyddiadur actores
Mari'r Golau
Mari'r Golau - lluniau
Meic Povey yn Gymrawd
Melangell
Migrations
Mrch Dd@,
Mwnci ar Dân
Myfyrwyr o Goleg y Drindod
Olifer - Ysgol y Gader
Owain Glyndŵr yn destun sbort
Panto Penweddig 2006
Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Ploryn
Porth y Byddar
Romeo a Juliet
Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
Sion Blewyn Coch -
y seicopath?

Siwan ar daith
Streic ar lwyfan
Sundance ar daith
Teulu Pen y Parc
Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
TÅ· ar y Tywod
TÅ· ar y Tywod
- y daith

Wrth Aros Godot - holi actor
Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
Y Pair
Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
Y ferch Iesu
Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
Yr Argae ar daith


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý