Cerddi Rownd 1 2023
1 Trydargerdd: Cwyn i’r Pennaeth
Plasmawr
Heb geisio bo’n anghwrtais,
mae prydau cinio’r ysgol
yn ddrutach nag ail forgais.
“Ffreutur llawn byrbrydau”?
A’r unig opsiwn sydd ar gael
yw pacedi cnau.
Sara 8
Bro Morgannwg
Mae’r plant yn fy mwlio i’n wael
fe gaf i bob dydd yn ddi-ffael
fy ngwthio’i lawr grisiau,
dwi eisiau rhoi’r gorau…
…ond wedyn, mae’r gwyliau mor hael!
Marged 8.5
2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw derm cerddorol
Plasmawr
O’r bar ges beint o Largo…
Wy’n sâl ’wan, a bach yn slo.
Hana 9
Bro Morgannwg
Drwy’r glaw, hen frwydrau glyw-wn;
twrw gwag staccato’r gwn.
Anna 9.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Wrth fynd tua’r gampfa un noson’
Plasmawr (Sara)
Wrth fynd tua’r gampfa un noson,
Fe welais lond lle o athrawon
Yn dawnsio a chanu,
A meddwi mewn parti,
’nhro i nawr i weiddi ’na ddigon!
Sara 8.5
Bro Morgannwg (Efa)
Wrth fynd tua’r gampfa un noson
roedd Mwnci’n cael dawns gyda Beison.
Dydw i ddim yn gwbod
os cefais i ormod
o ddiod…neu falle, ddim digon.
Emily 8.5
4. Pennill ymson (rhwng 4 ac 8 llinell) mewn arholiad
Plasmawr
Gai goffi plis, oruchwyliwr?
A'r Bourbons siocled ar dy blat?
Ga i weld yr holl atebion
sy'n cuddio dan dy hat?
Cristyn 9
Bro Morgannwg
“B fflat major os gwelwch yn dda”
Gorchymyn lleddf o’r cefn
Os raid i fi ga’l arholwr cas
A finne heb ddeall y drefn?
Chopin, mozart, yna scales,
Gradd pedwar yn y bin!
Dim sbort, dim gwen, dim hwyl i'w ga’l
Hei Elton, ges di hyn?!
Owen 8.5
5 Triban beddargraff athro neu athrawes
Plasmawr
Mi fynnodd hon bob diwrnod
gywiro yn anorfod
fy spello cam, fy dreiglo wael
nes bod hi’n cael rhy gormod.
Ffred 9.5
Bro Morgannwg
Bu’n gwaeddi’n groch ‘TAWELWCH!’
Ac nawr mae hi’n cael heddwch.
Ond yn ei dosbarth erbyn hyn
Mae tipyn o rialtwch!
Cerys 9
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod dros funud a hanner o berfformiad) : Yr Arbrawf
Plasmawr
Pan ddaeth ein tasgau Talwrn, mi roedden i yn styc,
Doedd gen i ddim syniadau! O blincin, blincin... styc!
Es felly i’r labordy i weithio ffisig hud
i roi im ddoniau sgwennu, ac awen orau’r byd.
Rhois fadarch lliwgar Iolo yn syth i mewn i’r pair,
Ond peidiwch dweud wrth mother am hyn, reit, dim un gair!
Fe ychwanegais flewiach o glustiau Gruffudd Sol
er mwyn cael cerddi ffyni, ie cerddi rili lol!
Roedd rhaid rhoi ambell englyn gan f’arwr Ceri Wyn,
dim byd gan Steffan Phillips – caiff e fynd syth i’r bin.
Yr Odliadur oren, cyfrolau Anni LlÅ·n,
Hen fuwch o’r enw Seren (er doedd hi ddim yn keen).
A phorfa o Dregaron, dim gormod cofiwch chi,
Neu fydd y cerddi’n English – it’s very useful see.
Christine a Menna Elfyn a Prysor ddaeth fel gang
i neidio yn wirfoddol i mewn, ond wedyn... BANG!
O rhywle, maffia Barddas – seirennau, llu o vans,
Cyrn gwlad ac ambell bastwn – nid oedden nhw yn ffans
O’r ffisig go arbennig, ac felly yn reit flin
Arllwyson nhw y cyfan i’r draen i safio’r sîn.
Ffred 9.5
Bro Morgannwg
Arbrawf ar Brycopyn ( Fuoch chi Erioed yn Morio..)
Fuoch chi erioed mewn rhagbrawf, Neu hwyrach ambelll flaen brawf?
Wel mi geisiais wneud rhyw arbrawf do, A wir bu’n hwyl i’w gofio!
Pry copyn wnaeth apelio, i wneud fy arbrawf arno,
a wir mi wnes astudio fo, i weld sut mae’n byhafio.
Pam nad oes ŵy’n ei we o, na nyth fach ddel i’w thocio,
a pham yn wir nad ydi o, yn canu’n bêr fel nico?
Felly bu rhaid arbrofi, di’r corryn fel caneri?
Gan fod y ddau yn rhannu, sdi, Yr un gornel fach o’r pantri.
Gosodais rwyd fach ffansi, yng nghornel ucha’r pantri,
A briwsion gefais gan yncl Glyn, i geisio temptio’r copyn.
Ac yn y nyth rhois nionyn, rhois hefyd hen gynrhonyn,
A tipyn bach o hadau gwyn, A mwydyn digon cyndyn.
Ond doedd yr hen, hen sbeidar, am fod yn gymdeithasgar,
na bod yn wirioneddol wâr, na bwyta bwyd yr adar!
A’r arbrawf oedd yn fethiant, A do fe gefais siomiant,
Does gan bry-cop na blas na bri am fwyta bwyd caneri!
Efa 9.5
7 Gorffen limrig ar y pryd –
Ar Dalwrn y Beirdd Â鶹ԼÅÄ
Ni allwch chi guro’n tim ni
Ac ennill a wnawn ni
Oherwydd ein bod ni ...
Plasmawr
Ar Dalwrn y Beirdd Â鶹ԼÅÄ
Ni allwch chi guro’n tim ni
Ac ennill a wnawn ni
Oherwydd ein bod ni
Yn llawer mwy ‘city’ na chi
Cristyn 10
Bro Morgannwg
Ar Dalwrn y Beirdd Â鶹ԼÅÄ
Ni allwch chi guro’n tim ni
Ac ennill a wnawn ni
Oherwydd ein bod ni
Yn ‘cheto’ da help ein mamgu
Mabli 10
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Enfys
Plasmawr
Trwy ddrwg a da daw enfys
Pan fo haul yn cwrdd a glaw
Gwers ffiseg yn yr awyr
Arch liwgar, brydferth uwchlaw.
Pa wirionedd sydd mewn enfys?
Tystio haniaeth pur a wnaf,
Y crefftwaith camarweiniol
yn blygiant golau braf.
Ond rwy’n hoff o gredu’r chwedlau
A’m breuddwydion fel un bach,
Bod uncorn sydd yn hedfan
a llond lle o aur mewn sach.
Efa yn darllen gwaith Elen 10
Bro Morgannwg
(i Mam-gu.)
Dwi’n cofio rhai dyddiau fel oedden nhw ddoe,
Dy gyffyrddiad yn gysur a’th straeon bach difyr,
Eraill yn gymylau trwy fy nwylo,
Yn methu cyrraedd gwraidd y co’,
Ac wrth i mi geisio redeg ar eu hôl a twrio i’r canol,
Mae dy liwiau’n pylu mwy a mwy.
Mi wna i fy ngorau i chwilio am yr hen chwedl,
Am y pot o aur all leddfu’r poen,
Am ennyd o bleser fel bwlch rhwng dwy gawod.
Er mae colli gafael ar dy wirionedd gwnaf i,
A bod dy golli di fel ymlid enfys,
weithiau bydd dy liwiau yn ailymddangos.
Lleucu 10
9 Englyn: Damwain
Plasmawr
Serious? Ti’n disgwyl sori?
//
Un neu ddou. Do’n i ddim ’di meddwi.
//
Sai’mo, jyst pwl o ddwli 🤷
//
Co, rhaid fi fynd… creda fi?
Steffan Phillips 10
Bro Morgannwg
Damwain yw’r crëad yma, - a boerwyd
o bair super-nova
i’w dynged…ond plis creda,
os damwain, ti’n ddamwain dda.
Gruffudd Owen 10