Main content

Cerddi Rownd 1

1 Trydargerdd: Fy Hoff Lyfr

Talybont
Albwm lluniau’r teulu

Daw i gof drwy'r du a gwyn – yr ennyd
a rennais yn blentyn;
oes o liw, a fesul un
deuliw a'm gwna'n oedolyn. Anwen Pierce 9

Y Gwylliaid Cochion

Nid ydyw yn fy DNA i fod yn ddauwynebog,
ond tydi’r Nadine Dorries na yn awdur mor dalentog?

Alun Cefne 8.5

2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw frîd adnabyddus o greadur

Talybont

Haws hel llacs ar fol Dachshund
Na phrynu brwsh i dΕ· brwnt Phil Thomas 8.5

Y Gwylliaid Cochion

Troi cyn cnoi fel pob ci wna
y rottweiler tawela. Gwion Aeron 9

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘‘Mae _____ yn y gawod am oriau’

Talybont
Mae'r Cardi’n y gawod am oria'
yn rwbio ei ddillad da'i goesa
yna scrwbio y corgi,
llond bowlen o lestri,
i gyd ym mathroom drws nesa Phil Thomas 8.5

Y Gwylliaid Cochion
Mae’r wraig yn y gawod am oriau
yn tendio ei llu ryfeddodau,
a minnau’r creadur
dan dunnell o bapur,
yn ceisio ymdopi â’r biliau! Alun Cefne 8.5

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Casglu

Talybont
(boncyffion ar draeth Ynys Las)

Down i’w gweld dros dwyni gwag
y tywod a mynd tuag
at dderi sy’n codi’n co’
i’n calon, a’r lli’n cilio.

Eilunod yr haul unig
heibio’r haf yn gafael brig
y machlud a’r don hudol,
a thân hwyr ddaw fyth yn ôl.

Casglwn, yn sΕµn cytseiniaid,
gwmni’n rhieni a rhaid
eu cofio fel coed cyfan
ger ein môr, nid esgyrn mân.

Phil Davies yn darllen gwaith Gwenallt Llwyd Ifan 10

Y Gwylliaid Cochion

Ga'i alw heibio Gwilym?
Dod heibio eto lle bûm
yn hy'n casglu fesul cae'n
stôr uniaith maestro'r enwau.
Gai'r Tir Rhywiog a'r Traean,
Y Gell a Gwaith y GΕµr Gwan?
Gai'r Pandy a'r Foty Fach,
Y Waen Oer a Chynowrach?
Nid i'w rhoi'n waelod y drôr
ond i'r oesau yn drysor,
gwm ar ôl cwm fesul cae
i'w rhannu â'm hΕµyr innau. Tegwyn Jones 10

5 Pennill ymson wrth gyfri stoc

Talybont
Adroddiad Larry’r gath, 2022
Dwi yma ers ryw ddegawd yn cyfrif’r deugoes lu.
Llynedd bu sawl deuawd yn creu llwyth o waith i mi.
Bu mwy ohonynt llynedd – lot mwy na’r Εµyl gerdd dant.
Yn wir, roedd angen ‘mynedd cyfrif gwragedd, cwn a phlant.
Boris, Liz a Rishi oedd trigolion tΕ· rhif deg,
bu Pickfords wir yn fishi, chwech trip i un ar ddeg.
Rwy’n gobeithio cael hoe eleni, amser hamdden i mi fy hun.
Mae’n rhaid iddi dawelu – dwi angen llyfu’ nhin.

Phil Thomas 8

Y Gwylliaid Cochion
Rwy’n cyfri’r stoc yn un rwyf angen,
Oel olewydd, pupur, halen,
nionsen, garlleg ac arborio
wrth goginio fy risotto. Ifan Bryndu 8

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod dros funud a hanner o berfformiad) : Carthu

Talybont

Tra’n ciwio’n y feddygfa, crowd anferth o fy mlaen,
Fe’m llenwyd ag anobaith blin, fy ngwep yn llawn o straen.
Ond cefais bwl o beswch, a glywyd dros y Sir,
A’r ciw ddiflannodd megis shot, ac roedd y ffordd yn glir.

Ac yna yn y bwtsiwr wrth giwio am fy nghig,
Rhyw ugain penci o fy mlaen, dechreuais deimlo’n ddig.
Fe lenwais fy ysgyfaint a charthu wnes yn gas,
A gweithiodd fy nghynlluniau’n wych; y dorf a saethodd mas.

A sylweddoli wnes i fod gennyf glamp o ddawn
I wasgar poblogaethau, bob tro mae’r fflem yn llawn,
Wrth glirio’m llwnc i garthu fe allwn wagio’r stryd
O bob oedolyn ci a chath; meddyliais ‘gwyn fy myd’.

Fe euthum lan i Lundain, a’m hances yn fy llaw,
Heibio Castell Windsor, a’r cloc yn taro naw.
Wrth weld y drws yn agor, pesychais a’m holl nerth,
Nes bod y brenin newydd yn hedfan dros y berth.

Cyn hir y rown yn feiral a’r byd yn gwylio fi
Ar You Tube, Tik Tok a Snap Chat a weithiau’r Bî Bî Sî.
Ond heno, fy nghyfeillion, rwy’n erfyn arnoch chi,
I beidio dianc trwy y drws yn sgîl fy ngharthu i. Phil Davies 8.5

Y Gwylliaid Cochion

Hen orchwyl go ddiflas yw carthu,
mae’n anodd dweud fawr ddim amdani;
ac er i Hedd Wyn rwy’n siwr wneuthur hyn,
ni luniodd un gerdd i’w chlodfori.

Y Met sydd mewn gythgiam o drwbwl,
ni choeliant mewn carthu o gwbwl;
a’r WRU o diar, myn Duw,
maent angen brwsh buarth a shwfwl!

Y moch ar ddwy goes sy’n rheoli
o’u pydew dwfn drewllyd o slyri;
eu gwynt sydd ymhobman, gwynt “totalitarian”-
y diawled sydd angen eu carthu.

Hen bla yw carffosiaeth mae’n aflan
a’i sudd sy’n wenwynig o filan;
fel dwed Saunders Lewis, does gennym ddim dewis
rhaid carthu i arbed ein gwinllan.

Mae un mater bach sy’n fy mhoeni
’rôl treulio‘r holl amser yn carthu,
cael popeth yn spriws - nid yw fawr o iws,
rhaid gwneud yr un peth eto fory. Alun Cefne 8.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Chwerthin

Talybont
(angladd hen ffrind o ddyddiau coleg, bu’n dioddef o iselder am ei flwyddyn olaf)

Gwylio osgo y ddau o ’mlaen
a gweld ysgwyddau un yn ysgwyd
a’r llall yn edrych o’i gwmpas.
“I ble’r aeth deugain mlynedd?”
“Pryd welaist ti e ddiwethaf?”
Ni’n tri’n cofio’i droeon trwstan o’r gorffennol,
a chwerthin yn dawel wrth gerdded yn nghefn y dyrfa.
Cymeriadau oeddem mewn pennod fer o’i flynyddoedd glas
cyn i’r cyfrolau clawr caled gael eu sgwennu.

Beth petai?
Rhy hwyr, rhy hwyr.

Rhyw wacter dwfn, hiraethus oedd yno i ni.

I eraill, roedd inc yr atalnod llawn yn dal yn wlyb. Phil Thomas 9.5

Y Gwylliaid Cochion

Maen nhw’n cadw twrw yn y cefn,
gyda’u lleisiau uchel a’u chwerthin
main. A dwi’n rhoi’r clustffonau ’mlaen,
troi’r sΕµn yn uwch, i drio boddi’r mwydro.

A dydyn nhw yn malio dim,
nhw yw’r sêr ym mlockbusters
unigol eu bywydau, heddiw. Finna’n
ddim ond extra llwyd, yma’i eistedd
yn sbio’n flin.

Maen nhw’n cadw twrw yn y cefn,
yn teimlo popeth reit i’r byw, yn caru
mewn eithafion, yn crio mewn
i walltiau ei gilydd, ac wrth i’r
bws ddod dros y bwlch mae’r cefn yn ffrwydro,
fel haul dros grib y Gader, mae’r genod gwirion,
gwych yn chwerthin, nes eu bod nhw’n crio,
ar jôcs ydw i rhu hen i’w dallt. Grug Muse 10

9 Englyn: Cofeb

Talybont

Rheg y staen dros dy wregys di’n – y glaw
a glywaf eleni,
a’r gwaed sy’n siwr o godi
drwy ryfyg ein helyg ni. Anwen Pierce 9

Y Gwylliaid Cochion

Yno a’i fedd o’n ddienw mae mab
ymhell o sΕµn twrw.
Arwr ymysg y meirw
yn wyneb neb drostyn nhw. Gwion Aeron 9