Cerddi Rownd 1 2023
1 Trydargerdd: pennill yn esbonio enw unrhyw le yng Nghymru
Aberhafren (LlPR)
Ei sausage rolls chwedlonol
a’i hudol chocolate log
yw’r rheswm am enwogrwydd
hen blasty Greg-yn-Og.
Llion Pryderi Roberts 8
Beirdd Myrddin (AE)
Yn ôl yn niwloedd amser
pan enwyd ein pentrefi
roedd enw sbâr heb ddod o’r pair
a roddwyd i Lanharri.
Eleri Powell 8
Lleoliad daearyddol
erioed fu’n enwi’r lle:
Caermethu yn y Gogledd,
Caerffili yn y De!
I Bela, Ben a Bili – y chwarae
dry’n chwerw gan ddwli!
Enw ffraeth am draeth gan dri,
Yn selog, ein Rhos-sili. EP
Lle digon twym yw’r Ffwrnes
ond twymach man mae’n rhaid
mewn byd apocolyptaidd
yw pentre’ Llansan-Fried. AE
Mae ‘na gwynwyr o Borthaethwy
i Gaergybi nôl pob sôn,
a chan hynny, digon addas
yw mai hon yw Ynys Môn.
2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw fath o offer cegin
Aberhafren
Damio hawl i’r newid mân
yn lle herio’r llwy arian.
Llion Pryderi Roberts 8.5
Beirdd Myrddin (JGJ)
Rôl yfed jwged o jin
gwegio wnâi wal y gegin.
Lowri Lloyd yn darllen gwaith John Gwilym Jones 8.5
Dywedwch, a luchiwch lot
o teabags mewn i’ch tebot?
Pen meipen, yn bwrw mur?
Wel lôdia’r percoladur.
I syrffio’r brig, ai digon
ydyw dal rhyw feicro-don?
Er gallwn lyfu’r gyllell,
dw i fod i wybod yn well.
Ni all Wil wrthsefyll wad
o’i hitio gyda lletwad.AE
Bowlen wag biliau’n agos
yw ein hofn trwy oriau’r nos. GR
SΕµn alaw deg dy degell,
mae’n wir, wna bob dim yn well. LL
Ffrimpan, sosban, gwasgwr sudd
a gwagar - ni wnant gogydd
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae’n anodd iawn, iawn gen i gredu’
Aberhafren
Mae’n anodd iawn, iawn gen i gredu
bydd Meuryn y Talwrn yn mynnu
wrth farcio’n y man
mai ymgais go wan
yw’r limrig rwy newydd sgrifennu.
Aron Pritchard 8.5
Beirdd Myrddin
Mae’n anodd iawn, iawn gen i gredu
y bu ’na well ‘signing’ eleni,
ond pe gwelech y bil
am wasanaeth John Gwil,
se’n rhatach rhoi bid mewn am Ceri.
Lowri Lloyd 8.5
Mae’n anodd iawn, iawn gen i gredu
na werthwyd pob un o’r ticedi
i’r bowt top y bil
rhwng Harri a Wil
a’r Prifardd John Gwil yn dyfarnu.AE
Mae’n anodd iawn, iawn gen i gredu
beth ddwed Aberhafren am Ceri
a hollol annheg
yw adrodd y rheg
a ddaeth o geg Llion Pryderi. AE
Mae’n anodd iawn, iawn gen i gredu
bydd Cymro ryw ddydd ar deledu
yn fwrlwm o siarad
gan roi’r holl gyfweliad
heb ddweud “rΘ‡li dda” na “so felly”.
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): ¶ΩΕµ°ω
Aberhafren (AP)
Heibio’r lôn ar lwybr o lwch
a heulwen yr anialwch
am ei ben, mae bachgen bach
a’i ddefod anodd, afiach;
dod â hylif i’w deulu,
mynnu dafn i mewn i’w dΕ·.
Daw at wacter arferol
gwely’r afon eto’n ôl,
i’r fan hesb a’r hafnau hyn
o fwd, cyn llifa wedyn
yn eiddil ar ei ruddiau
bore oes, pob deigryn brau.
Aron Pritchard 9
Beirdd Myrddin (GR)
¶ΩΕµ°ω
Arddangosfa yn Sain Ffagan o ddarganfyddiadau Oes Haearn yn Llyn Cerrig Bach, Ynys Môn; cloddiwyd cleddyfau a gwaywffyn o’r llyn gyda’u llafnau wedi eu plygu am yn ôl ac wedi eu haberthu fel arwydd o’r dyhead am heddwch.
Gwelaf lyn mewn casyn caeth
o dan niwloedd dynoliaeth;
a’r rhwymau trwm offrymwyd,
hen arfau a’r llafnau llwyd,
â’u min hy’n troi am yn ôl
oedd awch y llwyth heddychol.
Gwelaf ddefod ddifrodi
a hwy’n ddi-fraw gerllaw’r lli,
a gorwel dirgel y don
yn treiddio i gred derwyddon.
A daw o hyd fesul darn
gaethiwed i’r gwaith haearn.
Geraint Roberts
5 Pennill ymson perchennog unrhyw gwmni
Aberhafren (LlPR)
Os heriwch fi groendene
rhof daw i’ch trydariade,
ond os ’chi’n glamp o hilgi, dewch
a gwnewch fel ’taech chi gartre.
Llion Pryderi Roberts 8.5
Beirdd Myrddin (AE)
Wrth astudio’r Gyfnewidfa Stoc bob bore
Fy mhader mewn doleri a ddwedaf
yn ddidwyll rôl codi,
ar i Ddow fy urddo i
yn hael am ei addoli.
Aled Evans 9
Pennill Ymson Elon Musk, Perchennog Newydd Twitter
‘Rôl sgwennu siec anferthol
a hawlio'r parch a'r bri,
dwi'n dechrau dod i ddeall
nad ‘deryn brynais i. GD
Mae’r gweithwyr wedi streico,
am hynny rwyf yn grac,
nid ydynt hwy am weithio
ar-lein nac ar y trac. GR
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Diwrnod Santes Dwynwen
Aberhafren
Dau sgerbwd main o’r Beddau a aeth un tro ar ddêt,
roedd siôl fach am ben Elin a Dai mewn het sidêt.
‘A hoffech win i’r enaid?’ medd Dai mewn llais bach drwg,
‘Mae gwin yn mynd reit drwydda i,’ medd Elin gyda gwg.
‘A gymrwch stecen T bone neu sirloin neu rib eye?’
‘Does gen i ddim y stumog,’ ’sgyrnygodd hi at Dai.
I geisio codi’i hysbryd, parablodd Dai fel pwll,
aeth lawr i’r esgyrn sychion, a’i holi hi yn dwll,
roedd Dai fel ci ag asgwrn, pen Elin fach yn troi,
wrth iddo holi’i pherfedd, a hithau’n methu ffoi,
‘Rwy’n teimlo ym mêr fy esgyrn, Elin, mai chi yw’r un,
fy Santes, ferch ddigymar, sy’n gwneud mi deimlo’n ddyn.’
Fe fagodd Dai asgwrn cefn, aeth lawr ar un ben-glin,
gofynnodd am law Elin a hithau aeth yn flin
a gweiddi, ‘Esgyrn Dafydd, wna’i ddim eich priodi chi,’
nid oedd ei chalon ynddi, a dyna’i diwedd hi.
Dangosodd Dai ei ddannedd o’i gweld mor llawn o sbeit,
fe dynnodd hithau’i goesau a throdd y peth yn ffeit...
…a Dai sydd nawr yn bishys, yn wylo fel y glaw;
fe gafodd e law Elin ond ie, dim ond ei llaw.
Mari George 9
Beirdd Myrddin (AE)
Bu farw’r boi drws nesa’ yn gynnar Christmas Eve;
rôl deuddeg can o lagyr fe ymadawodd Steve
ar ganol Sound of Music yn sΕµn Farewell, Goodbye
gan dynnu’i anal olaf wrth festyn am fins pei.
Bu oedi tan yr angladd ond nid ar gownt y ffliw -
cas teulu Steve eu dala mewn streic yn steshon Crewe.
Mae’n well imi esbonio cyn imi’ch drysu mwy
bod gennyf ddwy gymdoges a Rita’n enw’r ddwy.
Roedd Rita’r ochr arall yn byw ar ben ei hun,
yn gwenu arna i’n amal ‘da gwên sy’n hudo dyn.
Ac felly gweithiais englyn yn llawn o eiriau tlws
ar garden Santes Dwynwen i’w dodi trwy ei drws.
Mi roedd y diwrnod hwnnw i ddigwydd yr un pryd
ag oedd Rita’r wraig drws nesa’n gollwng Steve o’r byd.
Dwy garden a sgrifennwyd, y naill mewn nwydus ble
a’r llall mewn cydymdeimlad dwys - beth allai fynd o’i le?
A minnau’n disgwyl cariad trodd Rita’r wên yn gas
gan ddweud am hwpo’r garden mewn man a blîpiwyd mas.
Ond rhoddwyd ar fy rhiniog mewn cwmwl persawr cryf
fins pei bach mewn rhuban coch - yr un na fwytodd Steve.
Aled Evans 9
7 Ateb llinell ar y pryd – Yn fy nghar drwy’r eira’r af
Aberhafren
Yn fy nghar drwy’r eira’r af
A John Gwil a’i jwg olaf
Llion Pryderi Roberts 0.5
Beirdd Myrddin
Yn fy nghar drwy’r eira’r af
A John Gwil a’i jin gwelaf
Eleri Powell
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Protest
Aberhafren (MG)
Daw drwy’r drws yn gwisgo’i sobrwydd,
ei rhyddid yn nadreddu
drwy gân ein gwydrau,
a’n geiriau igam ogam
sy’n trïo sillafu sbort,
codwn botel,
gwthio gwydr ati,
mae hi’n ysgwyd ei phen.
Rhyw her yw ei hyder hi i ni
awn i’w mêr,
fel tynnu cracer,
yfwn ei safiad
a bwriwn ei bwriad
fesul jôc.
Dw i’n gwthio gwydr ati eto,
mae’n tynnu ei chot,
a’i gymryd.
Mari George 10
Beirdd Myrddin (LL).
Protest merch yn Iran yn dilyn llofruddiaeth Mahsna Amini
https://www.theguardian.com/world/2022/dec/02/women-in-conservative-region-of-iran-join-mahsa-amini-protests
Â’i chalon yn cymeradwyo
pob curiad, pob cam,
a’i hanadl yn hidlo hawl a llid
am yn ail, yn dyllau trwy’i hamheuon,
mae’n distyllu’i ffordd tua’r porth.
Tynn ei gorchudd yn nes,
y gorchudd a dynnwyd
yn dynnach, gantro, gan arall.
A thrwyddo,
trwy’r diferion chwys
sy’n gwlitho’i thrwyn,
gwel eraill,
cyn guled eu golygon
yn mentro herio’u gorwel,
ac yn hwylio’u hachos
yn ddilyw byw
at lan llifeiriant ...
bwledi rhydd.
Lowri Lloyd 10
9 Englyn: Nyrs
Aberhafren (AP)
Wedi Covid, ai cofio wnawn o hyd
am ein Iau o glapio
triw i hon, a phawb ers tro
yn dawelach eu dwylo?
Aron Pritchard 9
Beirdd Myrddin (GR)
Radio Glangwili yn dathlu’r 50
Llywio sgwrs y mae llais gorsaf, - drwy'r cais
daw'r cysur tyneraf,
eli’r clwyf wrth wely’r claf
a’r wên i wella’r anaf.
Geraint Roberts 9.5
’Chi’n sôn am her, pryderon, hir oriau,
y biliau, helbulon
y byd, Covid; yna’r con:
‘Na!’ i wella f’enillion.LlPR
Mae’n gwylad ein dau adwy â pharod
gyffuriau ei harlwy;
gwrendy lais y clais a’r clwy,
a’i threm mor fwyn â’i thramwy.
JGJ