Cerddi Chwarteri
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Byddai’r byd yn lle gwell pe bai...
Crannog
Byddai’r byd yn well pe bai
Pob un yn debyg i chi,
Neu, os mentra’i ddweud ‘ny
Yn dipyn debycach i fi.
Eirwyn Williams 8
Ffoaduriaid (GO)
Byddai'r byd yn lle gwell pe bai'r Pab
yn enw'r Goruchaf a'i fab
yn ffeindio dau hipo
sy'n hoff iawn o fwlio
a'u postio at Dominic Raab.
Gruffudd Owen 8.5
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘mas’
Crannog
Mynd mas yw nod y glasoed,
nos a dydd, nes dod i oed.
John Rhys Evans 9
Ffoaduriaid (GWD)
Tu fas, y mae tyfu fej
yn haws na thyfu sosej
Gethin Wynn Davies 8.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae peryg os ewch chi i’r Bannau’
Crannog
Mae peryg os ewch chi i’r Bannau
A dim am eich traed ond eich sanau
Y sengwch ar ddraenog
O’r enw Brycheiniog;
Un pigog all frifo eich clustiau
Eirwyn Williams 8.5
Ffoaduriaid (LlGL)
Mae peryg, os ewch chi i'r Bannau
ymhen rhyw ychydig ddegawdau
nad tîm achub mynydd
a ddaw mewn hofrennydd
i'ch helpu, ond gwylwyr y glannau.
LlΕ·r Gwyn Lewis 8
4 Hir-a-thoddaid yn cynnwys ‘yn ôl daw’r gwybed fel dreigiau heibio’
Crannog
I Nicola Sturgeon
I’r erwau cyfan sy’n rhan o’r cofio
a’r moelni gwledig a ddeil i bigo
yn ôl daw’r gwybed fel dreigiau heibio,
‘nôl i ‘fan hyn’ y gyflafan honno.
Fel yng Nghulloden heno – byddin gudd
yn y diwetydd sy’n gatrawd eto.
Endaf Griffiths yn darllen gwaith Idris Reynolds 10
Ffoaduriaid (LlGL)
Llosgi neu foddi, mae siawns na fydd-o
mewn gwirionedd yn ddiwedd pan ddaw-o:
mi ddaw’r morgrug drachefn i forgrugio,
a nôl daw’r gwybed fel dreigiau heibio.
Pan awn ni’n grimp yn y gro… mi ellith
bod hynny’n fendith, i’r byd hwn fendio.
LlΕ·r Gwyn Lewis 10
5 Pennill mawl neu ddychan (rhwng pedair ac wyth llinell): Trefnwyr Eisteddfodau
Crannog
Er rhoi eu sglein ar bethau
A pharchu’r holl ddefodau
Yr hyn a gofiwn nawr bid siwr
Yw cyflwr eu toiledau.
Gillian Jones 8.5
Ffoaduriaid (LlEM)
Fy syniad, i'r dyfodol
am lwyddiant Eisteddfodol
yw trefnu'r haul, creu maes bach hardd,
ac yna, gwahardd pobol.
Llio Maddocks 9
6 Cân ysgafn: Diweddaru’r Wardrob
Crannog
Yr ydym ni fel Cymry yn hoffi torri dash
A threfnwyd sioe ffasiynau ar ‘Heno’ gan Huw Ffash,
Yn ôl daeth D. J. Williams o’r Harrod’s sy’n y ne
I gerdded hyd y catwalk mewn sbectol a D. J.
Daeth Dudley draw o’r gegin mewn dinner suit a brat
A Robert Croft o’r Hendy oedd yn ei bowler hat,
Tra gwisgai merched Beca ficinis o ddail pren
Er mwyn cael ymdorheulo ar draeth yr Efail-wen,
A Ceri Wyn oedd yno mewn tracwisg Jurgen Klopp,
A basin fel crash helmet yn goron ar ei glop.
Roedd Alun Wyn a Gunter yn gwisgo’u canfed caps
Ac un o dΘ‹m Ffit Cymru mewn siwt rhy fawr a daps
Ac I gyfeiliant telyn dan ganu daeth Merêd
Mewn siwt o frethyn cartref i’r Manequin Parade
A meddwl am ei Gymru wnai Dafydd Iwan Jones
Fel Alun Cilie ifanc yn ngêr y Rolling Stones.
Roedd Daniel Owen yno, ein teiliwr pennaf un,
A’I bilyn yn drwsiadus, bob tro yn ffitio’r dyn.
Ar ôl cael cip ar wardrob y Gymru Newydd fflash
Caiff Huw y dasg o ddewis pwy fydd yn cael y sash.
Endaf Griffiths yn darllen gwaith Idris Reynolds 9.5
Ffoaduriaid (GE)
Mi brynais wardrob glyfar, yn lle’r un welodd ddyddiau gwell
yn cadw peisiau a barclodau ac ambell staes modrybedd pell.
Dyma Gwpwrdd Dillad campus. Mawr ei rym a mawr ei faint.
Pe’i gwahoddwn i fy ‘stafell, fe gai Nia Parry haint.
Y mae’n sync-io ‘da pob dyfais, ac mae’n gwybod ‘ble rwy’n mynd.
Fe all sicrhau na fyddaf fyth yn clasho gyda ffrind.
Gall gynllunio at bob tywydd, ar fyr rybudd, ac mae’n dda
am drwytho’i hunan yn rhesymeg siap fy nics a lliw fy mra.
Gwyr yn iawn pa wisg sy’n lanwaith, a pha ddillad wnaiff y tro,
mae’n hunan-smwddio, dad-fothbôlio ac yn cadw dillad, sbo.
Mae’n rhyddhau perarogleuon, fel dwi‘n gorchymyn ar yr ap
a bydd wedi blaengynllunio gwisg at ffeinal leni, whap.
Fe gaf hysbysiadau cyson os yw ‘nheits yn mynd yn frau
neu rhybuddion am bob botwm sydd yn bygwth pallu cau.
Y mae’n hyddysg yn y lliwiau sy’n sylfeini i fy steil.
Gallai’r Trwrch Trwyth, dan ei ledrith, droi’n Flodeuwedd fach werth chweil!
Hwn yw’r porth i fywyd hwylus. Pwy sydd angen Narnia bell?
A beth bynnag all Huw Ffash wneud, gall fy wordrob wneud yn well!
Ond y mae un siomedigaeth, ac mae honno yn un fawr.
Nid ydyw’n gallu delio gyda’r dillad sydd ar lawr.
Llio Maddocks yn darllen gwaith Gwennan Evans 9.5
7 Ateb llinell ar y pryd – Ni wna neb ddisgyn yn is
Crannog
Heb eiriau wyf am Boris
Ni wna neb ddisgyn yn is
John Rhys Evans
Ffoaduriaid
Cerdd am soseja veggies
Ni wna neb ddisgyn yn is
Gethin Wynn Davies 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cofnod
Crannog
Yn hanner cant bu’n ceisio’i hanes iawn
gan fynnu gweld nodiadau am ei fam.
A gâi, o ddarllen trwch cofnodion llawn
y gweithwyr cymdeithasol, ateb pam
bu’n cefnu arno’n llwyr yn ddwyflwydd oed,
ac yntau heb adnabod cwtsh a chôl.
Ond na, os bu sut ffeil ar silff erioed
dilëwyd hi yn ôl rheolau ffôl.
Fe dasgai’i felltith drostyn nhw i gyd
a chipiodd botel i’w gysuro’i hun
wrth gicio’i ffordd i stafell fach ei fyd
gan ddiawlio pob un fenyw a chyd-ddyn.
Pa gysur gweld mai ynddo ef y bydd
ei hanes llawn annileadwy nghudd?
Philippa Gibson 9.5
Ffoaduriaid (LlEM)
Dadorchuddio cerflun Cranogwen
Magu merch yw gei-di-ddimio,
Bythol adrodd yr allu-di-bythio.
A chadw’r ddoli ddel yn saff
yn oerfel y well-i-ti-beidio.
Magu merch yw petruso,
Mygu antur cyn i’r cwch lansio.
A rhoi yr het, a’r map, a’r rhaff
Dan glo, tan rywbryd eto.
Ond mae na wynt yn yr hwyliau heno.
Mae lês dy ffrog wedi cydio ynddo.
O dan drem dy lygaid craff
Caiff merched bach eu llywio.
Magu merch yw cei-mi-gei-di,
Magu merch yw wyt-ti’n-gallu.
Heddiw, pan mae hi’n cwestiynu,
magu merch yw dos-i’w-gweld-hi.
Llio Maddocks 10
9 Englyn: Tocyn Tymor
Crannog
Rwy’n ffan. O fewn fy annedd – rwy’n driw iawn
ond er hyn, yn rhyfedd,
yn arena’r Gwirionedd
o Sul i Sul gwag yw’r sedd.
John Rhys Evans 9
Ffoaduriaid (GO)
(Yr Eisteddfod Genedlaethol)
Fy nhocyn yw nymuniad, blynyddol
i waddol gwareiddiad
gael hoe o hualau gwlad
a’i dwyieithrwydd di-eithriad.
Gruffudd Owen 9.5