Cerddi Rownd 2 2023
1 Trydargerdd: Sut i oroesi...
Y Cwps (RAJ)
Sut i oroesi’r Coroni
Os ydych chi’n wylo ac wylo
Yn gwrando’r y deri’n ymdaro,
Fin nos yn fan hyn,
A choch ar y gwyn,
Daw nodau Sir Bryn i’ch cysuro.
Rocet Arwel Jones 9
Y Glêr (HG)
mewn ysgol yn America
Cyn Daear, cyn amser chware – neu Cem,
Gwaith celf neu ddyniaethe,
Neu wers am uffern a ne’,
Mae hon yn wers am ynne.
Hywel Griffiths 10
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘trol’
Y Cwps (HME)
Yn dy lwyd sefydliadol
Dwrdio’r wyt ond heb droi’r drol.
Huw Meirion Edwards 9
Y Glêr (ES)
Ar werth: un drol. Dim olwyn.
Rhown dâl i rywun ei dwyn.
Eurig Salisbury 8.5
Os ydyw’n ymosodol
A di-ras, blocia dy drol. IBJ
Os oes gan drol un olwyn
Yn brin, ni all gludo’r brwyn. IBJ
Pan gaiff lond trol o goliau
Mullin wna im lawenhau. HME
Mae’r ceiliog llwyd proffwydol
’Leni’n troi fel olwyn trol. HME
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Fe ganodd y larwm am oriau’
Y Cwps
Fe ganodd y larwm am oriau,
Ac oriau, ac oriau, ac oriau...
Fe gysgais fel mochyn
Ar (GW)ôl cip bach sydyn
Ar lyfryn y Glêr o'u limrigau.
Geraint Williams 8.5
Y Glêr (HG)
Fe ganodd y larwm am oriau
Ac oriau ac oriau ac oriau,
Er hynny, ni ddeffrais,
Oherwydd fe’i teflais
Ddoe’n fore i ddyfnderoedd Llyn Eigiau.
Hywel Griffiths 8.5
Oherwydd fod plygs yn fy nghlustiau
A chwyr wedi cledu ers dyddiau,
Heb sôn am gwsg trwm
Rôl yfed y rwm,
Fe ganodd y larwm am oriau. IBJ
(I unrhywun sydd ag arddegwr yn y tΕ·)
Fe ganodd y larwm am oriau
Ac oriau ac oriau ac oriau,
Agorodd un llygad,
A’i dewi, am eiliad.
Fe ganodd o eto am oriau.RAJ
Fe ganodd y larwm am oriau,
Fe’i clywyd o Benllech i’r Bannau
Ac o Llai i Ben LlΕ·n,
I’m hatgoffa fy hun
Fod sioe y coroni ar ddechrau. HG
Fe ganodd y larwm am oriau
nes peri i’m ffôn dorri’n ddarnau,
neges bwysig i’r wlad,
bod ein byd nawr mewn stad,
ond roedd hynny’n amlwg o’r dechrau. MEL
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Sefydliad
Y Cwps MME) Roedd Noel Thomas o Fôn ymhlith 700 a rhagor o bostfeistri a gafodd eu diswyddo, a’u carcharu rai ohonynt, rhwng 2000 a 2014, am dwyllo’u cyflogwr, a hynny ar y pryd heb yn wybod i’w gilydd. Gwyddai rheolwyr y Swyddfa Bost (a rhai o fewn llywodraeth Prydain, mae’n debyg) mai’r system gyfrifiadurol newydd, Horizon, oedd ar fai am y camgyfrifo.
A’n gwaredo pan gredir
Y llw oer gau yn lle’r gwir.
Galwyd dyn fu’n gweld ei waith
Yn sgamiwr, llusgo ymaith
Ei hunan-barch i garchar,
A’i osgoi’n ei filltir sgwâr.
Gwelodd glawdd o gelwyddau,
Gweld y Drefn yn gefn i’r gau.
Bost wrth bost yn ddistaw bach
Gwyro hanes yn groeniach
A wnaed, ond roedd storm yn hel,
A’r gwir yn duo’r gorwel.
Huw Meirion Edwards 10
Y Glêr (HG)
Cyn hyn, yr hen elyn oedd,
canol oed cynnil ydoedd;
wal argae yn dal ergyd
drom a hallt y storm o hyd.
Lle roedd sΕµn llanw’n llinell,
dyma’r trai a wyddai’n well.
Rwy’n ofni gwaddodi’n ddoeth,
nid ofn trin, ond ofn trannoeth,
a bod heb wybod y bu –
haen o laid yn caledu;
ofni bod, yn nwfn y bae,
lanw i’m diawlio innau.
Hywel Griffiths 10
5 Triban neu bennill telyn yn seiliedig ar unrhyw ddihareb
Y Cwps (RAJ)
Er bod ’na rai tribannau
Di-fai i’w cael, dwi’n amau,
Mai o dribannau’r byd yn grwn,
Y triban hwn yw’r gorau.
Rocet Arwel Jones 9
Y Glêr (ORhJ)
Mae’n well gan rai wleidyddion
Sy’n ymresymu’n wirion,
Am mai y rhain sy’n dweud y gwir;
Sy’n gywir ac yn ffyddlon.
Osian Rhys Jones 8.5
Dyfal donc a dyr y garreg;
Tonciad arall, tyr ychwaneg;
A phan fyddaf wedi'i thoncio,
Un donciedig a fydd honno. GW
Dwfn yw’r pant a serth yw’r llether,
Llifa’r dΕµr yn ôl ei arfer;
Gan mor drwm yw’r cenlli, ofer
Yw creu sianel ar ei gyfer.
HG
6 Cân ysgafn: Gwersi Oferynnol
Y Cwps (RAJ)
Doeddwn i’m am delyn, na ffidil na chasΕµ
Dim piano, na drwm na dijiridΕµ
Er gwaetha holl grefu fy mam a fy nhad
O’n i am gael dysgu sut i ganu’r Corn Gwlad.
Ers mod i yn dair cefais wersi di-ri
A’r offeryn ddwy droedfedd yn dalach na fi.
Chwythais yn fochdyn, yn fochgoch gan straen,
A mwy o sΕµn o’m mhen ôl nac o fy mhen blaen.
Un dôn oedd i mi, un llwyfan yn wir
Dyna’r uchelgais, roedd yr aros yn hir.
Perffeithiais y grefft, prynais goban a chap
Tyfais locsyn a ffendio Boduan ar fap.
Clywais ‘ar hap’ fod un o fois y Corn Gwlad
’Di plygu ei gorn a chael sac am sarhad.
Dyma fy nghyfle, ond tro ddaeth ar fyd
Rôl oes o ymroddiad, mae rhyw newid o hyd.
Penderfynwyd dros nos bod y corn yn antîc,
Ar Britain’s Got Talent ydw i fel rhyw ffrîc,
A bellach cyferchir y prifeirdd gan hud
Rhyw fuzzer mawr aur a chonffeti yn fflyd.
Rocet Arwel Jones 9
Y Glêr (ES)
Fe gefais alwad echddoe gan Fwtler Bach y Prins,
‘Say, can you play the harp, old boy?’ Atebais, ‘At a pinsh.’
Roedd telyn gen i’n rhywle, ond methais gofio ble;
Fe glymais hen stôl odro â lein bysgota’n lle.
A ’stynais am lyfr ffôn, a gwnaeth fy mys ei ffor’
I lawr y pêj nes cyrraedd un Bennet, Elinor.
‘Farwnes,’ plediais arni, ‘ga’i wers? Un, dwy, tops?’
‘Os ffoni di yma eto,’ atebodd hi, ‘dwi’n ffonio’r cops.’
Nid oedd y cyngor ges i fawr gwell gan Georgia Ruth:
‘Mi fydda’ i’n onest ’da ti, se well ti ganu’r crwth.’
Y nesaf yn fy llyfryn oedd enw Delyn, Bob,
Ces neges WhapsApp ganddo: ‘Soz, mêt, dwi’m isho’r job.’
‘Be wna’ i!’ wylais wedyn – roedd f’angen ar y Prins!
Ond yna, ping, daeth neges i’m ffôn gan Catrin Finch:
‘Dwi wedi clywed,’ meddai, ‘dy fod ti angen gwers.
Cyn iti ofyn: na. Se well gen i fod mewn hers.’
Y Bwtler Bach a ffoniais i erfyn, ‘Hey there, you.
The harp’s so overrated. Does Will like the kazoo?’
Eurig Salisbury 9.5
7 Ateb llinell ar y pryd – ‘Oes mae tîm yn Wrecsam ‘to’
Y Cwps
Oes mae tîm yn Wrecsam ‘to
A’r Cae Ras yn rhoi croeso
Huw Meirion Edwards 0.5
Y Glêr
Oes mae tîm yn Wrecsam ‘to
A sΕµn o’r Cae Ras heno
Hywel Griffiths
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Pwyso
Y Cwps (DJP)
dwi’n cofio curlaw’r da-da
mint ar fetal oer y glorian, a
dwi’n cofio hefyd ambell
ddeigryn gwyn yn
chwalu’n fân ar lawr y
siop, gan fod rhwyg
yn ochr frau y
bag papur bach;
ond dwi’n cofio sefyll
ambell waith yn rhywle’n
hir a’r da-da mint yn
chwysu yng nghledr fy
llaw gaeedig, welw-goch,
sefyll gan nad oeddwn eto’n dallt
y peth, y peth iawn i’w
wneud, fy llaw yn chwys i
gyd ond y da-da mint yn galed,
galed hefyd.
Dafydd John Pritchard 10
Y Glêr (MEL)
trwy lygaid Pentre Ifan
Yr un yw’r cwestiynau o hyd:
sut gall y meini ddal fy mhwysau?
Fe’u clywaf yn drwch drwy gloddiau’r haf
pan ddônt i oedi, heb sylwi ar aur yr eithin
wedi’i sathru o dan eu traed.
Fe’u teimlaf wedyn yn byseddu’r cerrig
sydd eto i sigo, a rhyfeddu at y clytwaith gwyn
o gen y coed a wnïwyd yno unwaith,
yn batshyn glân ar fy nhrowser gwaith.
Fe dynnant raff, a mesur fesul milimedr
union hanfod a dyfnder fy mod.
A phan ddaw’r nos yn gintach o wynt,
dim ond y cadno a’r curyll ddaw yma
i gadw cwmni,
cyn diflannu eto at gysgod Carn Ingli
heb yngan gair, heb holi mwy,
gan wybod yn iawn bod mwy na’r meini main
yn fy nal i yma.
Megean Lewis 10
9 Englyn: Lifrai
Y Cwps (IBJ)
(Band y Cymry Brenhinol cyn gêm rygbi)
Fin nos cyn y gad fan hyn - wele gôt
O liw gwaed ein cyd-ddyn,
A gwarth pluf yr ich dien gwyn
Yn hawlio maes Llywelyn
Iwan Bryn James 9
Y Glêr (HG)
Rhodd ei rodres ar ddresel – a thynnu
Ei chwerthiniad uchel,
Datod salíwt ei siwt swel,
Yna’i diosg yn dawel.
Hywel Griffiths 9.5