Talwrn Tafwyl
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Fy Llyfr Bach Du
Caerdydd
Mae llyfr bach du/ Prifweinidog a fu
Mor jiwsi wnaiff wrido eich boch
Fy llyfr bach du/ A’i enwau yn llu
Holl famau fy mywyd tra’ d moch
Ma’ twrw, ma’ su/ Ma’ rhuthr, ma’ rhu
Ma’ Carrie yn sgrechen yn groch
Yn pori y bu/ Yn fy llyfr bach du
Ond ffiw! Nid fy llyfr bach coch
Huw Chiswell 8.5
Caerfyrddin
Ma’ ’da fi rif Mererid,/ a rhifau Lowri Lloyd,
Sian Northey, Haf Llewelyn,/ Kate Roberts hyd yn oed.
Ma’ ’da fi rif Cranogwen,/ er gallai fod yn fforj,
ond trwcen i y cwbwl/ am nymbyr Mari George
Aled Evans 9
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘parc’
Caerdydd
Er cau’r terasau, mae rhan
ohonof ym Mharc Ninian.
Aron Pritchard 9
Caerfyrddin
Pan fo daear werth arian
Un parc mawr yw’n perci mân.
Hywel Griffiths 9
3. Limrig yn cynnwys y llinell ‘Yn ystod y gwaith atgyweiro’
Caerdydd
Yn ystod y gwaith atgyweiro
Mi gollidd ‘rhen fachan ei feiro
Gwnaeth gawlach o drin
Fy nwy fwb a ‘moch tin
Ma’ nhw’n cin i’r llawfeddyg riteiro .
Huw Chiswell 8.5
Caerfyrddin
Yn ystod y gwaith atgyweirio
ga’th Wili gryn hwyl ar y sgriwio
gyda’i dwlsyn, yn wir,
fe fu wrthi am hir,
mae’n glir bod ’na grefft i’r holl shelffo.
Lowri Lloyd 8.5
4 Cywydd mawl neu gywydd dychan (rhwng 12 a 18 llinell): ‘Caerdydd’ neu ‘Caerfyrddin’ neu ‘Caerdydd a Chaerfyrddin’
Caerdydd
Cywydd Mawl i Gaerdydd
Dawns hafaidd dinas ifanc
a’i holl hwyl wnaeth hudo llanc.
Arhosais, llywciais y lle:
ei bariau tri yn bore,
ei bandiau a’i gwydrau gΕµyl,
ei heithafion a’i Thafwyl.
Ond yma’i aros dros dro
oeddwn – nid adra oedd-o.
Unwaith ryw gariad unos
a di-lol fu’r ddinas dlos.
Dwi’n gwbod yn well bellach.
Miliynau o bethau bach
yn araf drodd yn gariad
yn brawf bod yma barhad.
Rydw’i a thithau Caerdydd
yn gywely i’n gilydd.
Gruffudd Owen 10
Caerfyrddin
Yn fachgen, roedd acenion
Hynod reit yn y dre hon,
Siort iawn oedd ei siarad hi
A lo’s oedd trio’i flasu,
Nes aeth hyd yr iard a’i sΕµn
Gyhuddiad mai Gog oeddwn.
Ond magwyd crwt ar gwta
Acenion hon fesul ha’,
Ac mae gaeafau Sir Gâr
Yn llifo fyth i’m llafar
Fel tai yng ngafael Tywi;
Bachan ‘odw’ ydw i.
Os byw ar ras Aber wyf
O hyd, ac os pell ydwyf
O dir Morgan lle’m ganed –
Odw, dwi’n fro-Myrddin-mêd.
Eurig Salisbury 9.5
5 Triban beddargraff gwneuthurwr/aig jin
Caerdydd
Cyn i’r hen gyfaill ffyddlon
Fynd lawr yr hatch mor greulon,
I’w arch fe roesom siêc go lew
A rhew, a sleis o lemon
LlΕ·r Gwyn Lewis 8.5
Caerfyrddin
Un sloe, sloe, sloe oedd Robin
yn sloe, sloe anghyffredin,
un sloe, sloe, sloe a digon swil
ond nawr mae’n still mewn coffin.
Aled Evans 9
6 Parodi ‘Gweddi dros Gymru’ (Lewis Valentine)
Caerdydd
O blessed arch, yr hybarch Myrddin ap
‘Ma air bach clou before you cael dy nap
We ‘re here to dechre arni with the gwaith
To stop this gwarthus, fascist rheol iaith
So torcha lewys, gwisg dy ofyrols
Cym on arch druid, show us you’ve got reforming Archdderwydd qualities
Mi gawn ni’r pyntars fewn wy’n dala bet
Twristied Llyn, white settlers, Cheshire Set
Mi urddwn cairns, y kinnocks a ti si
Mi urddwn wils a cet - ond nid ar ti
Awn ‘all the way’ i urddo y ddau Frank
Ond heb y gwisgoedd gwyn and all that weird stuff
Cawn lifrai newydd, twlu’r hen rai mas
And ditch the gywrdd cawn sdrip coch gwyn a glas
Mi gawn ni wared unrhyw nonsens hen
A Wales Got Talent yn lle’r Babell Len
O cym on Myrddin druid bydd yn ddyn
A chynnau tân mor hot â’r tân yn LlΕ·n
Huw Chiswell 10
Caerfyrddin
Dros Gefen Gwlad, O! Dad dyrchafwn gri,
Hen ffarm y teulu roed i’m gofal i;
Pob grant ailwylltio sy’n diflannu'n syth,
Ond boed i’r adar bach gael ynddi nyth;
Er mwyn fy mab a’i cafodd iddo’i hun,
O! crea ef yn ffermwr ar fy llun.
O! deued dydd pan na fo costau byw
Yn gysgod eto dros ein herwau gwyw,
Rhag crindir cras heb unrhyw glwc na bref
O boed i’r pridd droi’n ffrwythlon iddo ef;
A’n heniaith fwyn â gorfoleddus hoen
Yn seinio prisiau gwell am lo ac oen.
Tudur Dylan Jones 9
7 Ateb llinell ar y pryd – Yn hwyr y nos yr o’wn i
Caerdydd
Yn y gwter ‘da Ceri
Yn hwyr y nos yr o’wn i
Aron Pritchard
Caerfyrddin
Yn hwyr y nos yr o’wn i
Am awr yn ffonio Mari
Aled Evans 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Coedwig
Caerdydd
Maen nhw’n chwynnu’r awyr agored
o’i gwallt
fesul gwylltineb,
y grib yn tuchan llwybr drwy’r drysni,
y plastig yn plygu,
estyn siswrn i dorri cudyn oedd wedi cydio
mewn sudd neu nodd
pan oedd hi rhwng y brigau gyda’i brodyr.
Rhaid chwistrelli, rhaid cymoni
hon
nes bod pob adain a phetal
a gwynt pridd yn peswch eu ffordd o’i phen.
Pan fyddan nhw’n hapus
fe dynnan nhw lun
a’i gadw;
blodyn
wedi ei wasgu rhwng cloriau caled.
Mari George 10
Caerfyrddin
Lan stâ’r, mewn bocs
mae ôl dy draed
o hyd, yn glyd ar garden.
Cydiaf ynddi bob hyn a hyn
a gadael i’r brychau paent
ddod eto â deilach
yr un hydref hwnnw yn eu hôl,
i wthio’r canghennau
cnotiog amdanaf,
â’u nenfwd pren i fygu’r wybren.
Ac o’i throi a’i rhoi
yn ei hôl yn y drôr,
daw stamp
‘bywyd o’r blaen’
un goeden
i’m hatgoffa’n stond,
na chymeraist dithau
’r un cam.
Lowri Lloyd 9.5
9. Englyn ar y pryd – Dibyniaeth
Caerdydd
‘Mi a i’n lân - mae’n wahanol’
Addawaf y ddaear yn ddyddiol,
Ond daw’r awydd direol
Sgen i am losgi’n ei ôl
LlΕ·r Gwyn Lewis 10
Caerfyrddin
I gweirio’r tΕ· a garaf, ac i’w drin
gyda'r hawl a ffynnaf,
ac i’w fwynhau, gofyn wnaf
yn neis i’r dyn drws nesaf.
Tudur Dylan Jones 10