Rhaglen Nadolig 2023
1 Tydargerdd: Gwahoddiad i Barti
Bethlehem
A’n byd ni mewn dagrau eleni
A ddewch chi, er hynny, i’r parti?
i yfed a sgwrsio
a chwerthin a dawnsio
neu grio, ’chos be arall wnawn ni?
Guto Dafydd yn darllen gwaith Casia Wiliam 8
Nasareth (NB)
Mae’r sosej rôls yn figan
a’r jeli’n sugar free
’sna’m sheri yn y treiffl
a ddowch chi i ’mharti i?
Nici Beech 8.5
2 Parodi ar unrhyw garol Nadolig adnabyddus
Bethlehem (All)
Ganol gaeaf yn noethlymun
cwynai Ceri’n oer
ffrinj a ffroen mewn cloeon
llonydd dan y lloer.
Nid oedd dim amdano
o’i gorun i’w ben ôl,
arferai wisgo dillad
oes bell yn ôl.
Methai Ceri deimlo
bodiau ei draed,
ei freichiau nawr yn llonydd,
nid oedd ynddynt waed.
Ganol gaeaf yn noethlymun
heb hyd’n oed feudy trist.
Ebychodd Ceri’n dawel
“Iesu Grist!”
Beth a roddaf iddo?
Yn oer a gwyn ei liw.
Does ganddo fawr o ddewis
gan mai fi sy’n llyw.
A gan mod i yn ddoeth iawn
rhof sgarff a het yn glyd.
Yn ei ffroen? Rhof un foronen.
Dyn eira gora’r byd.
Anni LlΕ·n 9.5
Nasareth (AR)
Carol Bos y Talwrn
A welsoch chi’r pump a ddaeth tua'r Fic
o Fethlehem draw, rhyw feirdd talcen slic?
Bu’n rhaid i mi ladd ar eu stwff i gyd
a chlywais hwy’n sibrwd: "Dio'n dallt dim byd."
Pwy wir all fy meio am roi 'mond dau
i'w cywydd ysgafn a haeddai lai?
Roedd y pennill ymson a'r gân yn fain.
Ysywaeth, dieithryn yw crefft i’r rhain.
Fe glywais ganu gwell na chanu Jôs
gan un o'r defaid draw ar y rhos.
Ddychmygais i 'rioed byddai neb yn dod
i un stryd Llithfaen heb haeddu clod.
Ond mae 'na oleuni draw ar y bryn –
Tîm Nasareth, disglair fel eira gwyn!
Mae'n gwawrio'n araf ar Fethlehem dref
mai ail fydd eu safle yn ei olwg Ef.
Rwy'n teimlo heno bod 'na berlau mawr
Fydd yn tanio'r Talwrn yn dynesu nawr.
O! tyred, O! tyred, heb oedi mwy,
Ymlaen at y meic, Pod, iw rhannu hwy.
Arwel Pod Roberts 9.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Liw nos, roedd bugeiliaid yn gwylio’
Bethlehem (CW)
Liw nos, roedd bugeiliaid yn gwylio
un seren fawr dlos yn disgleirio,
ac yn y pellter fel drôn
roedd llais Delwyn Siôn
yn mynd on amdani eto ac eto.
Gareth Jôs yn darllen gwaith Casia William 8.5
Nasareth (AR)
Liw nos, roedd bugeiliaid yn gwylio
Tri chamel, ac er yn cytuno
Bod eu natur ddeuhympiog
Yn rhywiol gynddeiriog
Byddai’n rhaid bod yn bwyllog wrth gneifio.
Arwel Pod Roberts 8.5
4 Cywydd ysgafn (rhwng 12 a 18 llinell): Cyfarchion yr Ε΄yl i unrhyw ffigwr adnabyddus
Bethlehem
Cyfarchion yr Ε΄yl i Mistar Bean
Mae’n nos dew, mae’r ffilmiau’n stôr,
tamaid o sbort y tymor,
a bydd pleser i werin
o stori boitsh Mistar Bean.
Wrth ailactio’i feimio fo,
ar rα»³sh a strach a stresho
daw ryw hoe. Cawn weld, drwy’r hwyl,
synnwyr o’i syrcas annwyl.
Oes dyffar na all wneud stwffin
wedi sbec ar dy sioe, Bean?
Sbri, yng nghawdel ein celyn,
yw crac cryf cracer i un,
y drws ar ei modrwy hi,
hwyl unig yr amlenni.
Am gael hiwmor tymhorol,
am wledd ail-eildwym o lol
ar sgrîn Bean, hei lwc y bydd
i glown gael ei lawenydd.
Myrddin ap Dafydd 9
Nasareth (OO)
Diportiwch Siôn Corn!
Suella, ’di Santa’n Sais?
Dwi ’di ysgwyd, cans dysgais
heddiw nad ydio’n meddu
(yn Brit dewr!) ar basbort du.
Rhywsut, mae’n llwyddo i groesi
fin nos ein clawdd terfyn ni;
dod o ffwr’ ar sled foreign,
hidio eff-ôl am dy ffin
dwyn cyfle gweithwyr lleol
a hogia da’n y ciw dôl!
Mae hwn yn dew, ac mynn diân
ffoadur isio ffidan
yw’r gelen o ben draw’r byd;
yw Niclas y Sant Chiclud*.
*Gair tafodieithol Caernarfon sy’n golygu ‘digywilydd’.
Tostrwydd yw Santa estron,
ein baich a’n bwch yn y bôn;
gwranda f’apêl, Suella
am ’ddolig Prydeinig, da!
Osian Wyn Owen 9.5
5 Pennill ymson mewn ffatri deganau
Bethlehem
D’oes neb r'un fath a fi tu mewn i'r ffatri
Dwi'n siarad pedair iaith Mi fedra i gyfri
Gallaf fynd i uchder mawr
Tyllu twnnel dan y llawr
Ac fe awn i o'ma nawr ond s'gen i'm batri
Anni LlΕ·n yn darllen gwaith Gareth Jôs 9
Nasareth (OO)
Creu i eraill eu creiriau – o ’Ddolig
i ’Ddolig wnaf innau.
A nawr, mae’n amsar chwarae!
Ond mae’r gist i mi ar gau.
Osian Wyn Owen 9
6 Cân (heb fod dros funud a hanner o berfformiad): Cinio Nadolig
Bethlehem
Roedd pawb rownd y bwrdd yn nhy Rojar yn llowcio'r prosecco a'r medd
'Di synnu fod Hefin (y lojar) ddim yno i ymuno'n y wledd
Roedd Rojar, ar b'nawn dydd Nadolig, yn bwydo'r holl stryd fwy neu lai
Y deryn, y llysiau a'r selsig roedd popeth yn wych a di fai.
D'oedd pledran Nel Huws ddim mo'r gryfa, fe gododd i fynd i'r lle chwech
Aeth lawr drwy rhyw basej i rwla a dyna p'ryd roddodd hi sgrech
'Di dychryn, fe ruthrodd bawb yna Fe glywson nhw'r floedd ym Mhorthcawl
"Dim Twrci na GΕµydd ydi hwnna ond Hefin y Lojar myn diawl!
Roedd Hefin, yn nofio mewn dripin' a'n dendar tu hwnt chwara' teg
Ei goesa' 'di'w clymu 'fo llinnyn ac afal di'w sodro'n ei geg
Yn sgleinio fel Sais ar draeth Morfa roedd y cradur yn edrych reit flin
Wel edrych yn flin fuaswn inna' a lemon di'w stwffio i 'nhin
Fel arfer doedd fawr ddim ohono, a'n welw, wel peidiwch a son
Roedd n'awr bron yn ddu a'n llawn Paxo a'n pwyso tua twenti-ffeif stôn
Roedd Roj wedi'i rannu fo'n gywrain a neb wedi tynnu yn groes
(Doedd neb, diolch i'r drefn, eisiau adain na neb wedi swnian am goes)
Roedd rhai, gyda hyn eisiau crogi y canibal gwyllt yn eu plith
Ond yng nghanol yr hwrli a'r bwrli diflannodd y cwc fel y gwlith
Gan osgoi ble'r oedd pobl 'di chwydu wrth sboncio eu ffordd at y bwrdd
O'r diwedd cyrhaeddodd yr heddlu a chario'r dystiolaeth i ffwrdd
Fe aethant a'r cyllill a'r platia'. Fe aethant a'r pobty a'r hob
Fe aethant a Hef i'r amlosgfa ( ble ddaru nhw orffan y job )
Che's i eirioed wledd mor odidog.Gwerth chweil os ofynwch i mi
A do, mewn hen dun taffi triog mi es a pheth adra....i'r ci
Gareth Jôs 9.5
Nasareth (IRh)
Roedd cinio Dolig leni am fod yn strach i mi
Am fod sawl bwytwr ffysi’n dod acw i’n tΕ· ni.
Mae Yncl Defi’n mynnu cael grefi heb ddim dΕµr
Ac Ann o Gatar a gaiff gatâr os yw’r grefi ’di wneud â fflΕµr.
Does neb yn fodlon eistedd wrth f’annwyl Yncl Reg
sy’n llysfwytäwr pybyr ond yn ffaelu treulio veg.
Mae Pippa Pyrs o Fochdre yn gwrthod bwyta porc
Ac mae gan Twm Di-dafod alergedd drwg i’w fforc.
Mae Taid yn cael llosg cylla pan weliff e’r un sbrowt
Ond Nain sy’n sgut am ’sgewyll, a chanddi hi mae’r clowt.
Un tynn yw ’mrawd yng nghyfraith, sy’n achwyn am y gost:
Ni chaiff e ddim ond stwffin, a chwarter taten rost.
Bydd Alff a Bet yn bwyta eu bwyd yn nhrefn yr wyddor
A Mair sy’n hoffi moron, ond yn gwrthod ar dir egwyddor.
Wnaiff Bruce ddim bwyta bresych, dim ond llond plât o gabej,
A wna i’m sylw am y thril gaiff Cecil gyda’i sosej.
Ond Och! Ar Noswyl Dolig, pan roedd pawb yn chwarae bridge,
Es i jecio ar y deryn oedd yn tshilio yn y ffrij.
Fe es yn ôl i’r lolfa a thorri’r newydd garw:
Rhaid canslo’r cinio Dolig am fod y twrci wedi marw.
Iwan Rhys 9
7 Ateb llinell ar y pryd – Yn y sach sypreis ges i
Bethlehem
Yn y sach sypreis ges i
Coron a dillad Ceri
Anni LlΕ·n 0.5
Nasareth
Yn y sach sypreis ges i
Orenj siocledaidd Terry
Iwan Rhys 0.5
8 Cerdd (rhwng 12 a 18 llinell): Cyfri’r Nosweithiau
Bethlehem
Yr hen gasineb: mae nosau’r arswyd yn ddirifedi,
yn rhy ddu i’w hamgyffred. Mor dywyll yw’n cywilydd,
rhaid syllu’n graff i weld staen gwaed ar ddrysau, distryw’r gwydr
fel grisial ar balmentydd. Yr hen gasineb: enllib yn troi’n erlid,
celwydd yn troi’n llabyddio, o Babylon nes mygu’r chwe miliwn.
Mwrdro’r Meseia; esgorwyr Cred yn gwenwyno’i ffynhonnau:
y cyhuddiadau’n gwasgu am y geto, yn bygwth pogrom.
Y bai am bob pla, am bob prinder, yn farc fel seren felen;
detholion Duw’n ofni’r gnoc, yn ofni’r gaethglud eto.
Ar wefusau’r hunangyfiawn rhugl o hyd yw’r enllib, rhydd
yw’r sibrydion am ladd, am gynllwyn, am lech-reolaeth.
Yr holl nosweithiau: ein harfer afiach, ein cyfrinach frwnt.
Yr hen gasineb: gwall ym meddwl gwareiddiad,
haint sy’n taenu yn y tywyllwch. Ar hanes ac ar heddiw,
disgleiriwn olau gonest, rhag rhoi esgus gwyll i gamwedd –
cynnau ffaglau gochelgar sy’n atal pob nos arall.
Guto Dafydd 9.5
Nasareth (IapG)
Cyfnod tinsel, ac ogla da o'r troli -
'welith o mo'r naill, ond efallai clyw y llall.
A thybed oes iddo gysur
o'r sΕµn traed wrth wely'r ward?
A'r lleisiau hunan-feddiannol,
sy'n traethu am fanion y dydd?
(Dyw 'gwaedlyn anferth', na 'chwalu'r ymennydd'
ddim yn rhan o'u sgwrs)
Mae ei ferch wrth y gwely, yn gweu siwmper wag,
a'i meddwl, fel y gweill, yn clecian arni;
hi Εµyr fod cenedlaethau'n cau,
fel sbenglas, yn yr oriau hyn,
ac ni fydd modd ei agor mwy,
wrth gyfri'r nosweithiau... cyn y llonyddwch mawr.
Mae lampiau'i lyfrgell wedi'u diffodd bron bob un,
a'r tywyllwch yn rasio...
Mae GΕµyl y Geni'n agosau -
ond pa obaith sydd ynddi 'leni?
Ifor ap Glyn 9.5
9. Englyn ar y pryd – Cracyr Nadolig
Bethlehem
Ei ginio oedd yntroi’n gnec – (di-osgoi
Wedi sgewyll, uwchgnec);
Dan egni blast ei nwygnec
Gwêl hwn – a does ond un glec!
Myrddin ap Dafydd 9.5
Nasareth
A’r ffrwydro’n gyffro i gyd ym mlerwch
Y malurion hyfryd;
Cawn ein dychryn, am funud,
Glec wrth glec mewn cegin glyd.
Iwan Rhys 10