Cerddi Rownd 1 2023
1 Trydargerdd: pennill yn esbonio enw unrhyw le yn Iwerddon
Tegeingl
Ar daith y bu copa’r hen Wyddfa –
Iwerddon ei lloches a’i chuddfa –
A dyna pam dΕµed yr hen stori
“Pellenig ydyw….. tip Eryri.”
Dafydd Morris 8.5
Y Llewod Cochion
Mi oedd ‘na Wyddeles go ffraeth,
un dda iawn am odli – ta waeth,
gath hi dipyn o stic
am un limeric
ond enwi ei dinas a wnaeth.
Iwan Wyn Parry 8
Nid oedd y cymdogion yn hapus;
yr oeddent yn cwyno i gyd
ond er gwaetha' pawb a phopeth
dyn ni Armagh o hyd.
Mae dinas ym mhen draw Iwerddon
Sy'n ffatri i'r beirdd a'r cantorion.
Maent yn haeru taw gimmick
Oedd ei galw hi'n Limrick,
Ond mae'n fyrrach na "Tarddle'r Penillion"!
Roedd ‘na ddyn bach yn byw yn Tibét
Oedd yn hoff iawn o f’yta ei het,
Fe daerai o hyd
Mai fflat oedd y byd,
Ond fe gollodd o fet ar ôl bet.
2 Cwpled Caeth yn cynnwys enw unrhyw wneuthuriad o dractor
Tegeingl
Gwelais serthni’r hensir hon –
yn unswydd prynais Branson!
Dafydd Morris 8
Y Llewod Cochion
Meudwy heb fodrwy ar fys,
Ei Massey sydd fel missus.
Angharad Penrhyn Jones 8.5
Tractor nid oedd rhagorach
Yn y byd na’m Fergie Bach.
Cam-drin eich Lamborghini?
Trowch i'r Cockshutt Co op Tri.
Un addas yw’m dyweddi:
Eisiau byw ar JCB!
Fy nhractor, ‘does ragorach
Yn y byd, na’r ffergi bach.
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Wrth wibio ar hyd lonydd culion’
Tegeingl
Wrth wibio ar hyd lonydd culion
A'i sylw ar lunio englynion
Aeth y bardd Ceri Wyn
Rownd rhyw dro yn rhy dynn
Ac yn awr mae'n meuryna'r angylion.
Pedr Wynn Jones 8.5
Y Llewod Cochion
Wrth wibio ar hyd lonydd culion
Myn cythgiam! Mi es i ar f'union
Drwy'r gwrych i ryw lyn
A gwneud sΕµn fel hyn
Glyg glyg-yn..glyg glyg glyg glyg glygion.
Pryderi Jones 8.5
Wrth wibio ar hyd lonydd culion
A'm cariad tu ôl ar y pulion
Cawsom ddeg munud gwych
Tu ol i ryw wrych -
S'dim angen datgelu'r manylion.
Wrth wibio ar hyd lonydd culion
Ei atom, mi ddaeth ein helectron
Ben-ben â …dim byd.
Mae yno o hyd –
Tragwyddol ei daith ‘gylch ei broton.
Wrth wibio ar hyd lonydd culion,
Fe welais mewn ffos Εµr o Feirion
Yn wylo yn hidl
Tra’n chwarae ei ffidil
Ac olwyn ei feic oedd yn yfflon.
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn cynnwy y llinell ‘Daeth Chwefror â’i hen stori’
Tegeingl
[Yn Chwefror 2022 y cychwynnodd ymosodiad Rwsia ar Wcráin. Dywed pobl Wcráin, mewn rhyw gellwair tywyll, fod pob dydd bellach, drwy'r flwyddyn, yn "ddiwedd Chwefror".]
Chwefror yn Kyiv
Daeth Chwefror â'i hen stori -
o hyd yn ôl i'n gwlad ni:
Chwefror y cyrchu afraid,
Chwefror byr, Chwefror di-baid -
y mis pan ddaeth ymosod
a mis bach ein dewis bod.
Nid oerfel mo’n prif elyn –
casineb diawlineb dyn
anwaraidd a fu’n treiddio’n
ddu, yn hyll, drwy’r flwyddyn hon.
Oer a hir y “Chwefror” hwn:
eilwaith, o hyd, rhyfelwn.
Dafydd Morris 9
Y Llewod Cochion
Un hwyrddydd o hirddydd haf
Hyd erwau’r machlud araf,
Ar ros, y lloer uwch yr Ε·d
Yn ariannu yr ennyd.
Roedd llawnder yn fy erwau,
Ynni fy nghwys yn fy nghae.
Ydlan yn gwegian. A gwair
O sylwedd, fel y silwair;
Aeth yr haf. Daeth gaeafwynt,
A hen gof yw’r llanw gynt.
Daeth Chwefror, a’i hen stori
Oer o wag im sgubor i.
Arwyn Groe 9.5
5 Pennill ymson mewn swyddfa docynnau
Tegeingl
Dw i eisiau mynd i Landudoch;
mae tocyn dychwelyd gen i.
I'm ffrind y mae angen gwahanol;
Ga'i docyn math 'Rover' i'r ci?
Pedr Wynn Jones yn darllen gwaith y diweddar Les Barker 8.5
Y Llewod Cochion
Pam fod pawb mor flin/ tra’n ciwio am eu tocyn?
Sarrug fatha’r Cwîn/ wrth symud fesul tipyn
Neb yn gwirfoddoli/ i rannu jôc neu sgwrs,
Ciwio i weld comedi/ A gwefusau pawb fel pwrs.
Mae mwy o laffs i’w cael/ ar y bws o Fach i Gorris
ond yn Llundain ‘ydw i/ yn talu fflipin crocbris.
Huw Jones 8
Codaf docyn taith bleserau
rownd y byd a’i ryfeddodau –
er i’m wybod bod fy ngwyliau’n
gyrru’n waeth ei hinsawdd yntau.
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Y Gêm Genedlaethol
Tegeingl
Mae’n ffordd o fyw ni’n reit ynysig, a ni’n medru teimlo’n unig,
yn enwedig os ni’n byw yng Nghymru fach.
Ond pan chi’n cwyno am y tywydd, mi wnewch chi ffrindiau newydd,
oherwydd mae pawb yma wrth ei bodd...a...
Dyma yw ein gêm genedlaethol (chwibanu)
cwyno’n bod ni wedi cael llond bol (chwibanu)
Ei bod hi heddiw’n wlyb, ac yn ôl pob tyb,
fydd yfory’n rhywbeth tebyg, hefo gwynt.
Does ‘na byth ddigon o haul, ac mae’n gyffredinol wael,
a’r hinsawdd sy’n ein rhwystro ar ein hynt...a...
Dyma yw ein gêm genedlaethol (chwibanu)
cwyno’n bod ni wedi cael llond bol (chwibanu)
Fyddem byth yn hapus, ond mae hynny’n ffodus
o leiaf mae gennym hyn i sgwrsio am.
Mae hi’n rhy gynnes i ni gysgu, neu’n rhy oer i ninnau drefnu
ddod at ein gilydd am ryw noson adloniant.
Aaaa, dyma yw ein gêm genedlaethol (chwibanu)....
cwyno’n bod ni wedi cael llond bol (chwibanu)....
Sara Louise Wheeler 8.5
Y Llewod Cochion
I fyd y bêl, i’r maes a’i dwrw yr aeth y bardd y Sadwrn hwnnw...
Cyflwynodd y bardd déja vu inni unwaith. [Cyflwynodd y bardd déja vu inni unwaith[
Gan yngan na all déja vu ddigwydd unwaith. [I déja vu ddigwydd, mae’n digwydd yr eilwaith],
Ac os digwydd yr eilwaith, mae’n digwydd deirgwaith.
Ers hynny breuddwydiais bob nos, ar fy llw,
Nad breuddwyd yw ‘mreuddwyd, ond déja vu.
A phwy all anghofio y cyngor a roes
I bawb oedd am gario ei fag am oes,
A phrofiad y bardd y diwrnod hwnnw,
A’r bag am oes ar y llawr, wedi marw,
A’r sylw ddilynodd o enau’r bardd wedyn –
Am eiliad, ‘mond am eiliad, anghofiodd Dryweryn.
Pan ffeindiodd syposotri’n sownd yn ei glust,
Yr oeddem ni yno, yn gwrando, yn dyst.
Cyhoeddodd i’r dorf, i ddieithryn a ffrind,
I le’r oedd o’n tybio i’w hearing aid fynd.
Fe ddaw déja vu yn ôl inni’r eilwaith
Mewn talwrn a stomp, deja vu’n drwm o hiraeth,
Am un, ar bnawn Sadwrn ar faes T.N.S.,
Bydd déja vu eto, ac eto, am Les.
Arwyn Groe 9
7 Ateb llinell ar y pryd – Y mae’n anheg mi wn i
Tegeingl
Di-dor ei ddawn ddiddori
Y mae’n anheg mi wn i
Dafydd Morris 0.5
Y Llewod Cochion
Gallaf fe allaf golli
Y mae’n anheg mi wn i
Sam Robinson 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cludo
Tegeingl
Yn ôl i Bryn-y-Cabanau Road
Gyrru trwy strydoedd cyfarwydd, i gyrraedd grΕµp crefftio newydd.
Ebe’r SatNav ‘Turn right onto Brynycabana Road’, gan gludo atgofion
o gân Barry Manilow a’r gwesty draw yn Rio de Janeiro.
Daw gwên i fy wyneb am ddoniolwch hynny oll - Havana’n bell
o Hightown Wrecsam, a fydd na ddim ‘comosiwn’ yma.
Dim ond gweu, a gwnïo, a gwneud paneidiau i’w rannu tra’n clebran.
Ond wrth droi trwyn y car, gwelaf yr arwydd carpiog,
yn dangos enw dryslyd, paradocsaidd, dwyieithog y stryd;
ac os af ar ei hyd, cyrhaeddaf fy hen ysgolion.
Daw llif o atgofion yn ôl, am gerdded at siop y gornel,
prynu cΕµn poeth i ginio, hefo nionod a saws coch, neu bapiau
caws a ‘salad crîm’, a chwarter o ‘midget gems’ i bwdin.
Dilynais yr atgofion, wedi’r sesiwn sgwrsio – lawr y lôn, reit at y diwedd;
ag acw mae’r feithrinfa dal i fod, lle bues yn ddisgybl, ac yna’n
‘Anti Sara’, gan helpu plant agor pacedi creision a chau careiau esgidiau.
Lôn gofio yn fy nghludo nôl i’m mhlentyndod - dim ond tafliad carreg o’r lle
rwyf wrthi’n creu fy hun o’r newydd, ymysg y clytiau bratiog sy’n weddill,
ar ôl i mi dorri’n fil o ddarnau mân, a bron camu oddi ar y llwyfan...
Sara Louise Wheeler 9
Y Llewod Cochion
Aeth saith mlynedd heibio,
ond yn y pwll nofio ar b’nawn Sadwrn,
yng nghanol miri’r plant,
dwi’n meddwl amdanat.
Dwi’n dychmygu’r cwch yn dy ddal
fel cledr llaw
ar dy daith rhwng dau fyd.
‘Machgen i, roeddet ti’n fach, fach,
yn ddiferyn mewn môr di-derfyn,
yn rhy fach i nofio, i achub dy fam a’th frawd,
rhy fach i freuddwydio am deimlo’r tir
o dan dy draed, oedd mor oer
y noson honno yn dy sgidiau gwlyb.
Gwelais dy lun ar y wê. Ar lan y môr.
Y breichiau cryf yn dy gyrraedd yn rhy hwyr.
Gwelais dy grys-t coch, y clwt o dan dy siorts.
Gwelais lun o’r cwch rwber, rhad.
‘Nghariad i. Dy enw oedd Alan Kurdi.
Angharad Penrhyn Jones 10
9 Englyn: Cost
Tegeingl
Hyd lôn ein hafradloni y gyrrwn,
a gyrru heb sylwi:
iâ'n un haen yw'n bywyd ni–
a heddiw, haen sy’n toddi.
Dafydd Morris 9
Y Llewod Cochion
Bil ar ôl bil fel bwled – yn ofer
dwi’n nofio mewn dyled;
‘Dan ni oll ar ein colled:
Caethion i’r creulon a’u cred.
Angharad Penrhyn Jones 8.5