Cerddi Chwarter 2
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Symud Ymlaen
Tir Mawr
A’i deulu fo’n aros amdano
Ymlaen i’r byd nesa’ aeth Ianto
R’ôl mynd drwy’r Porth Nefol
Fe gafodd sioc farwol
D’oedd dim un o’r ffernols yn fan’no
Gareth Jôs Giatgoch 8.5
Caernarfon (EG)
Mae datblygiadau’r byd pel-droed
Yn mynd tu hwnt i jôc:
Os dwi’sio gwylio Wrecsam rwan
Dwi’n gorfod mynd i STΕK!
Emlyn Gomer 8.5
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘bryn’
Tir Mawr
Â’u byddin wrth ein dinas,
Rhown goel o hyd ym Mryn Glas.
Carys Parry 9
Caernarfon (IP)
Tri chasbeth: y dreth, y drin
A Bryn a’i gân i’r brenin.
Ifan Prys 9
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Pan oeddwn yn gwylio gêm griced’
Tir Mawr
Meddyliais am roi mhen mewn bwced
Neu chwarae fo’r fflwff yn fy mhoced
Neu gyfrif bob un
O ddefaid Pen LlΕ·n
Pan oeddwn yn gwylio gêm griced.
Carys Parry 8.5
Caernarfon (GL)
Pan oeddwn yn gwylio gêm griced,
Bûm gaeth i faldorddi rhyw ddiced.
Yn ffodus i hwn
Doedd gen i ddim gwn;
Ond tryferais y diawl efo’r wiced.
Geraint Lovgreen 8.5
4 Hir-a-thoddaid yn cynnwys ‘Yn awr, gwneud arian yw’r genadwri’
Tir Mawr
I’r haid, dan chwerthin, roes Frecsit inni,
Yn awr, gwneud arian yw’r genadwri.
‘Bydd tâl teg a jobsys i’n nyrsys ni,
Ffiniau caeëdig a’r graff yn codi.’
Ninnau’n dygymod â thlodi seithgwaeth,
A chΕµn hiliaeth, Rwanda a chanoli.
Myrddin ap Dafydd 9.5
Caernarfon (IP)
Rhoddodd Aneurin Wasanaeth inni,
un diwaeledd, wedi’i lwyr wladoli,
ond dihoenodd pan brisiwyd daioni,
gwaelodd, torrodd, am mai greddf y Tori
o hyd yw leinio’i bocedi llydan:
yn awr gwneud arian yw’r genadwri!
Ifan Prys 9.5
5 Pennill mawl neu ddychan (rhwng pedair ac wyth llinell): Unrhyw Gân Gymraeg
Tir Mawr
Ceisiais ‘sgwennu
Ond ni fedrwn,
Bennill dychan
I Moliannwn.
Huw Erith 9
Caernarfon (GL)
Nid llwynog
Oedd yr haul:
Tiwn da,
Geirie gwael.
Geraint Lovgreen 9.5
6 Cân ysgafn: Pleser Euog
Tir Mawr
Un noson braf o Wanwyn ro’n i ffansi grefi nionyn
Gyda tatws stwnsh a mennyn efo stêc
Ac wrth lowcio’r platiad hwnw wel mi lyncais Grachen Ludw
Oedd ‘di cuddio yn y tatw bai mistec
Mae nhw’n flasus iawn ar fechdan rhwng dwy fisged neu mewn cacan
Neu heb ddim ond nhw eu hunain mewn sos gwyn
Efo wyau wedi’w potshio, wedi’w ffrio mewn tomato
O fy Nuw rydwi’n glafoerio rwan hyn
Wel mi wn y dyliwn sdopio ond go damia, fedrai’m peidio
Dim ond un fach, fach di’w phiclio ar flaen pin….
Ond diolch i mi a ‘nhebyg mae’n ymddangos fod ‘na beryg
Fod y petha’ bach yn dechra’ mynd yn brin
Un noson, wrth gael panad er mwyn helpu llyncu ‘nhamad
Daeth yr Ar Es Pi Si Pryfaid mewn i’r tΕ·
Syth mewn ! Heb hud n’oed cnocio ! Aethant ati i f’arestio
A fy nghludo i rhyw garchar tywyll, du
Do’n i’m tamaid haws a gwadu ac fe gefais fy nedfrydu
Ar y ffordd i gael fy ngrhogi ydw i
A phan gladdo nhw fi adra rhwng y decking a’r pergola
Caiff y Crachod Lludw wledda arna i.
Gareth Jôs Giatgoch 9.5
Caernarfon (GL)
Dwi yma yng ngharchar Berwyn am ddeugain mlynedd lawn
Am imi saethu prifardd yn gelain un prynhawn.
Dwi’n euog, digon teg, roedd o di dwyn fy limrig i –
Di llen-ladrad ddim yn gyfiawnhad dros murder first degree.
Dwi’n unig yn fy nghell am dair ar hugain awr o’r dydd
Heb lyfrau a heb mobail ffôn, dim ond un pleser sydd:
Gwneud modelau bach o fatshys, rhai cywrain, perffaith bron,
A dyna sy’n fy nghadw’n gall yn yr uffern unig hon.
Dechreuais efo trelyr, ac wedyn carafan,
Un sipsiwn, addurnedig; mi alwais i o’n Stan.
Es mlaen at waith mwy cywrain - ceffyl rasio, teigr, draig;
Cyn cael y syniad llachar y gallwn i greu gwraig.
Un lawn ei maint, un fyddai’n gwmni imi yn fy nghell:
Ei chreu’n ofalus yr un sbit â ngwraig, ond fymryn gwell
Es ati i gasglu matshys, dros gyfnod eitha maith,
ac ar ôl hel pymtheg miliwn mi gyflawnais i y gwaith
“Gwydion y matshys ydw i!” cyfarchais fy nghreadigaeth.
O mlaen i safai menyw hardd o fatshys - roedd hi’n berffaith!
Cymerais hi yn fy mreichiau, ond â’r mymryn lleia o ffrithiant
Fe ffrwydrodd hi yn belen dân a’m chwythu i ebargofiant.
Geraint Lovgreen 9
7 Ateb llinell ar y pryd – Nid yw ail yn ddigon da
Tir Mawr
I lot sy’n eisteddfota
Nid yw ail yn ddigon da
Huw Erith 0.5
Caernarfon
Bragiais mewn ras naid broga
Nid yw ail yn ddigon da
Ifan Prys
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Mainc
Tir Mawr
Morgan a Twm, a gododd fainc garreg i gofio am Bob Cilia
Gan fod clo ar y capel a gwaharddiad emynau,
Daeth mab ac Εµyr yma i hebrwng y co’,
Tractor ar y blaen yn cario tri maen –
Yn lle ffrind â choffâd a phapur bro.
Trosol a rhaw a gosod dwy garreg
At eu coleri yn y tir;
Niwl ar y gorwel a llwydfor y Gwyddel
Ac yna’r un wastad yn gadarn a chlir.
Y Mai hwn dilynaf y waliau terfyn,
Dof ati ac eistedd uwch eithin y cwm;
Bu rhai wrth eu pwysau’n ail godi bylchau,
Mae croen tyfiant newydd wedi’r tymor llwm.
Mae brech y cen melyn dros ei hithfaen bellach
Yn y chwa awyr iach sydd i’w chael yn fan hyn,
Cân cog o ryw nefoedd ddaw o’r pellteroedd
Ac mae f’arian poced i gyd yn wyn.
Myrddin ap Dafydd 9.5
Caernarfon (IaG)
Pentyrru’r crawia yma
cyn eu naddu wnai fy nhaid,
porthi eu corneli afrosgo i’r peiriant,
sgwario’u Cymreictod yn barod i’r byd...
ond ar y fainc sglodion
crawia oeddynt o hyd;
fy nhaid wedi mynnu’r golau
mewn i’r graig â’i gΕ·n,
a’u gadael rhwng dau gyflwr…
Ddwy genhedlaeth wedyn
a ninnau ar fainc wahanol iawn,
cenedl crawia ydym o hyd;
y golau wedi ymagor ynom,
yn gefn i’n gilydd, ond yn stond…
yn ysu ymuno yn y gêm fawr,
ond yn lle naw-wfftio’u rheolau rhad,
a hedfan yn ddi-chwiban i’r cae,
disgwyliwn gyllell caniatâd...
Ifor ap Glyn 9.5
9 Englyn: Cerdyn Teyrngarwch
Tir Mawr
Mae Tre Camborne yng Nghernyw wedi creu cerdyn teyrngarwch rhwng cylch o’r siopau yno
Prynwch yn eich tre leol – ac ennill
bargeinion naturiol;
nawdd am nawdd, pob punt ddaw’n ôl
yn iechyd crwn masnachol.
Myrddin ap Dafydd 9.5
Caernarfon (IP)
Pwy wâd nad amhrisiadwy yw caffael
y coffi dyladwy?
Ein hudo’n anfforddiadwy
wna’i rym o i wario mwy!
Ifan Prys 9.5