Cerddi Rownd 1 2023
1 Trydargerdd: Pwyllgor
Gwenoliaid (HR)
Petai Moses yn bwyllgor
yn y rhan honno o’r byd,
fydde’ plant yr Israeliaid
yn yr anialwch o hyd.
Hannah Roberts 9
Crannog
Ar ôl tindroi am gyfnod,
Y protocol anorfod
Yw trefnu cael cyfarfod brys
Ymhen y mis i drafod.
Gillian Jones 9
2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw foddion neu feddyginiaeth
Gwenoliaid (HC)
‘Nôl y dîl ma Wil ‘di dod
i ermin Llwyn Y Wermod.
Huw Chiswell 9
Crannog
Y mae’r ddau mor ddi-wahân,
mae i Valium ei felan.
Idris Reynolds 9
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae gen i fy sianel fy hunan’
Gwenoliaid (HC)
Mae gen i fy sianel fy hunan
fydd lan yn darlledu yn fuan,
yn datgan i’r byd
ar lΕµp ar eu hyd
fy limrigau i gyd, wylwyr druan.
Huw Chiswell 8
Crannog
Mewn parlwr a’i bislath yn llydan
mae gen-i fy sianel fy hunan
bob nos a bob bore
yn sΕµn lla’th a phibe
lle treuliaf i orie’n tic-tocian.
Gilliam Jones 8.5
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Rhaniad
Gwenoliaid (AD)
Dysgu syms… Rhwng drws a sedd,
drysu rwyf dros y rhifedd
llethol, dros bob degolyn,
a gwag ydy ‘mhapur gwyn.
Ym mrad yr hafaliadau,
wn i ddim – ai rhannu’n ddau
eto ddatgela’r ateb?
Wn i ddim - a heddiw heb
drechu llesgedd fy meddwl,
ddaw dim i f’ymenydd dwl;
dim, ond dadlau mam a dad,
a gwenwyn eu gwahaniad.
Angharad Puw Davies 9.5
Crannog
In remembrance’ of Frances,
the partner of dear Des,
Ma’ i Gail a hen fam-gu
i Gareth, Fflur ac Eiry.
A mynna’r cerfiad arian
‘Heddwch i’w llwch’ yn y llan.
Ac ‘Er cof’ mae’r garreg hon
am Eira, gwraig i Meirion,
mam i Susan, a Granny
i Blanche ac Annabelle Lee.
A dau air, sef, ‘Blessed are…
ydyw gwaelod y galar.
Idris Reynolds 10
5 Pennill ymson ffotograffydd
Gwenoliaid (HC)
Clic clic
Waw Dic
Clic clic
Da Dic
Clic
Hei Dic wnaiff rhain arian
Dic rwyt ti ar dân
Clic
O damo
Dic
ma’r cap dal mla’n.
Huw Chiswell 8.5
Crannog
Ffotograffydd rhyfel
Rwy’n nhir neb diawlineb dyn a gen-i
mae gwn i ddal darlun;
lle syrth magnel y gelyn
fi yw’r llais i feirw’r llun.
Philippa Gibson 9.5
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod dros funud a hanner o berfformiad) : Llythyr Dewi Sant at Sant Padrig neu Llythyr Sant Padrig at Dewi Sant.
Gwenoliaid (HC)
Mi fytes i lond bola cyn mynd ar Fferis wîl
ac erbyn cyrradd dou o’r gloch mi deimles ddigon chwil;
wrth esgyn unwaith eto ar gylch yr olwyn fawr
mi fwres lef o rybudd croch i’r dyrfa ar y llawr.
Pryd ar glud! Pryd ar glud! Yn gawod dros y dorf i gyd i’r gwynt y pryd ar glud.
Mi es ar griws da’r teulu dros fôr y Caribi,
ciniawa gyda’r capten ar donnau glas y lli;
wrth lowcio’r pastai pysgod mi fwrodd storm i’r cwch
ac erbyn i mi gliro mhlat mi oedd hi’n gaca hwch.
Pryd ar glud! Pryd ar glud! Dros lifrai’r capten ar ei hyd mi aeth y pryd ar glud.
Mi yfes fymryn gormod mewn parti swanc rhyw dro,
a gwraig ffroenuchel maer y dre yn dechre mynd o’i cho’;
a thra bod e’n areithio ma’r bwffe ‘nghorddi i
a’r unig ffordd ynghanol torf oedd mewn i’w handbag hi.
Pryd ar glud! Pryd ar glud! I Lwi Fiton digon drud yr aeth y pryd ar glud.
Pan es i DΕ·’r Cyffredin ac eistedd uwch y gaff
a chlywed Kier Starmer, doedd hynny’n fawr o laff;
ond cododd Boris Johnson mor hy’ tan gydyn aur,
mi gododd hefyd gino’r pn’awn cyn iddo yngan gair.
Pryd ar glud! Pryd ar glud! Wel weithie does dim byd ‘ny byd all atal pryd ar glud.
Huw Chiswell 9
Crannog
Rwy’n cofio y tro cyntaf i mi fynd ar y rownd,
ar Pryd ar Glud pa ryfedd i minnau fynd yn sownd,
ond beth oedd waeth na hynny, pan es i gefn y truck
er mwyn dosbarthu’r prydau roedd popeth yno’n stuck.
Yr oedd y rolly-polly a’r boil oedd yn y bag
wedi cydio yn ei gilydd, a hynny’n hôl bitag.
Yr oedd hi’n ddydd cawl twymo a’r stecen aeth yn stecs
a’r pwdin fel y grefi ‘run lliw a’r Copydex.
Er lapio’r holl ddanteithion, y cyri poeth a’r crepes,
y cellophanes arferol oedd fwy fel sellotapes.
Fel yn yr hen amseroedd aeth popeth mewn i’r stiw,
All bran a’r bara croyw, caws glas a’r super glue.
Ond os bydd caws yn llwydo a’r bara yn troi’n las
bydd sticky-toffee pudding yn gwella yn ei flas.
Ac yno ar fy nheithiau fe ddysgais lawer tric
wrth rannu y cynhwysion o’r sosban fawr non-stick.
Awr gyfyng yw awr ginio, rhwng un-ar-ddeg a dou,
‘does fawr o le i chwarae, rhaid symud yn go gloy,
ac er i mi fod wrthi yn awr ers amser maith,
ar ôl y profiad cyntaf, rwy’n glynu at y gwaith.
Gilliam Jones 8.5
7 Ateb llinell ar y pryd – Rhywfodd mae’n anodd glanhau
Gwenoliaid
Rhywfodd mae’n anodd glanhau
Gwewyr er gwneud ein gorau
Huw Roberts
Crannog
Rhywfodd mae’n anodd glanhau
Yn llwyr gân Chis o’r lloriau
Idris Reynolds 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Blino
Gwenoliaid (HR)
Camu trwy’r cyntedd.
Daw pry copyn mas o’i wΘ‡ i bipo.
Lleithder, fel clogyn dros ysgwyddai’r lle,
a’r waliau wedi plishgo
gan ewinedd amser.
Unwaith,
clywodd glincian arian gleishon y blwch casglu
yn ei glustiu llwyd,
cyn ei osod yn barchus yn y sȇt fawr,
llwch tawel sy’n ei lanw erbyn hyn.
Mae’r organ yn fud.
Parabl dolennu’r seddau
wrth dderbyn ymbarel
wedi pallu,
nid oes fox-fur na mint imperials mwy.
Mae Caersalem,
fel un o flychau sgwar ein hamser,
wedi hen flino.
Hannah Roberts 9
Crannog
Mae’r bore’n bell, a’m cof yn pallu’i ddal,
ond rhaid bod haul o rywle’n dod â’r wawr
i mewn i’r ardd, gan bipo dros y wal
a llathru’r coed, er nad yw yno nawr.
Fe fflachiai’r dydd rhwng adeg gΕµyl a gwaith,
rhwng caru’n wyllt, cael ffrae, a’r ddau ymhleth,
rhwng sgwrs dros de ac ymgyrch cadw’r iaith,
rhwng plant a gardd a llenwi ffurflen dreth.
Newyddion nos sy’n dod i’m tΕ· â’u tân
a rhuad pobol bell yn galw o hyd.
Mae’u clwyfau hwy a’m hanhwylderau mân
yn corddi o fewn muriau brau fy myd.
O weld y dydd yn mynd, anogaf ‘Cer!’;
mae’n hen bryd diffodd fflam fy nghannwyll fer.
Philippa Gibson 9.5
9 Englyn: Arwyddair
Gwenoliaid (HuwR)
Mae’n cymell hefo’i gellwair, a’i osgo
mor ysgafn â’i gywair;
dweud rhwydd yw dweud arwyddair,
nid dweud yw cadw dy air.
Huw Roberts 9.5
Crannog
‘Gair Duw, gorau dysg’ sef arwyddair Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan
pan y’i sefydlwyd yn 1822 i baratoi Cymry ifanc ar gyfer cymryd urddau eglwysig.
Heddiw mae’r cyrsiau hyddysg yn wyddor
o grefyddau cymysg;
fesul gradd mynodd addysg
nad gair Duw yw gorau dysg.
Idris Reynolds 9.5