Cerddi Chwarter 3
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Beth aeth o’i le?
Tir Iarll (MH)
“Helo, Lord Bew yn HOLAC.” –
“YOU ***!!!.”
“Duw Εµyr
Nadine. Do, bu setbac,
ond Dorries bach sdim drws bac
na signoff gyda Sunak.
Mererid Hopwood 8.5
Y Glêr (HG)
Mae’n rhaid wrth wrthrychol/ adolygiad barnwrol,
a’i bennaeth annibynnol
i boenau y byd.
A thra byddo hwnnw/ ni allaf wneud sylw,
tanseilio yn salw
wnâi hynny dwi’n siΕµr.
Pan ddaw’r adroddiad/ i gyhoeddi’i gyhuddiad,
cawn o sedd ymddiswyddiad,
felly peidiwn â sôn …
Eurig Salisbury yn darllen gwaith Hywel Griffiths 8.5
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘twtsh’
Tir Iarll (AK)
Roedd ei chwtsh dwtsh yn rhy dwym
A’i geirda yn un gordwym.
Aneirin Karadog 8.5
Y Glêr (ORhJ)
Os oes-’na dwtsh o Saesneg
Yn dy Εµyl, dy Εµyl sy’n deg.
Osian Rhys Jones 9
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae’n digwydd rhyw unwaith y flwyddyn’ neu ‘Rhyw unwaith y flwyddyn mae’n digwydd.
Tir Iarll (TDJ)
’Na ryfedd am Ionawr y trydydd,
A hefyd fis Mai y pedwerydd,
Gorffennaf yr wythfed,
A Rhagfyr y pumed...
Rhyw unwaith y flwyddyn mae’n digwydd.
Aneirin Kardaog yn darllen gwaith Tudur Dylan Jones 8.5
Y Glêr (HG)
Awgrymais y gallem, yn sydyn,
Oherwydd na wnaethom ers tipyn.
Dywedodd hi, ‘iawn’ –
Fy ffiol oedd lawn.
Mae’n digwydd rhyw unwaith y flwyddyn.
Eurig Salisbury yn darllen gwaith Hywel Griffiths 8.5
4 Hir-a-thoddaid yn cynnwys ‘Nid af i wadu nad oes dyfodol’
Tir Iarll
Os poeri heddiw wna’r llais puryddol
Ar daith fy heniaith i’r ‘ansafonol’,
Rhaid cadw lle i’r criw direol;
Nid af i wadu nad oes dyfodol
Yn ei reiat amrywiol i sgwrs hon,
A’n hen athrawon yw iaith yr heol.
Emyr Davies 9.5
Y Glêr (HG)
Nid af i wadu nad oes dyfodol
i ddinasoedd o neonau oesol,
na lle i’r têc-awê ym mhen pob heol,
a llain awyren; ond un llun hwyrol
a welaf, sef dail tafol, ffordd ar led,
gwreiddie duned drwy’r ddoe diwydiannol.
Osian Rhys Jones yn darllen gwaith Hywel Griffiths 9.5
5 Pennill mawl neu ddychan (rhwng pedair ac wyth llinell): Heddychwyr
Tir Iarll (TDJ)
Does neb mwy tangnefeddus
Na ni trwy’r wlad i gyd,
Yn gweithio’n daer dros gymod
A fory brau ein byd,
Ond os oes rhai heb fentro
Cytuno efo’n nod,
Fe’u waldiwn hyd at angau
Fel na bai fory’n bod.
Mererid Hopwood yn darllen gwaith Tudur Dylan Jones 8.5
Y Glêr (HG)
Rhad i rai eu hegwyddorion
pan ddaw amser prynu’r galon;
gwyn eu byd er dryted hynny’r
fintai fach na fyn eu gwerthu.
Megan Elenid Lewis yn darllen gwaith Hywel Griffiths 8.5
6 Cân ysgafn: Gêm o Olff
Tir Iarll (ED)
Myfi yw Boris Johnson;
Am êm o olff yr af;
Mae gennyf amser hamdden,
(I bawb, mae hynny’n braf).
Fe gaiff Nadine fy nghadi
Anrhydedd oes ddi-nam
Am Ddilyn fi o gwmpas
A’m cario fesul cam.
Pan fwriaf bêl i’r byncar,
A Guto’n gweiddi ‘Fore!’
Fe honnaf mod i’n ennill…
Does neb yn tsiecio’r sgôr.
Os collaf rownd i Rishi,
Dychwelaf maes o law
I’r clwb llawn hogiau Eton
A’m peli yn fy llaw.
Heb nerth fy nreif goleuwallt
(Beati blondes sunt),
Fe fyddai pob cân talwrn
Yn swnio’n od tu hwnt!
Emyr Davies 9
Y Glêr (ES)
Ni wn am olff fawr mwy na dolffin.
Siarad bocsio, siΕµr, ydi backswing.
Pan hola’r byd beth yw’n ddihidio
Fy handicap, atebaf ‘napio’.
Fe dyngwn i mai dawns yw downswing
A mud-ball-io. Pytio, lagio a doglegging
Sy’n o doji, ac yw sand-wedge-io
Wir yn legal? Double eagle? Amser legio!
Pwy ti’n galw’n club-face? Beth yw ace-io?
Dwed ball-washer – fedra’i mond blyshio.
A follow through? Calliwch rΕµan.
Merch yw caddie, a bogey? Bwgan.
I mi, front nine yw cuddwisg neiniau.
Am wn inne, ffordd yw fairway a ddaw i ffeiriau.
A mulligan? Wel, cawl go gynnes.
Ac am shanciwr, lob neu bytiwr, ha! Lol botes.
Pan ddaw’r last hole, a’m ffrind yn holi,
‘Foursome eto?’ Dim ffiars, matey!
Gwell gen i farddoni’n ddiog
Efo geirie sy fel f’odle’n bur sefydlog!
Eurig Salisbury 8.5
7 Ateb llinell ar y pryd – Bu dau’n taflu dartiau, do
Tir Iarll
Bu dau’n taflu dartiau, do
Clayton yw’r pinacl eto
Gwynfor Dafydd
Y Glêr
Bu dau’n taflu dartiau, do
Dartiau geiriau i guro
Eurig Salisbury 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Smalio
Tir Iarll (GD)
Ein jôc ni oedd hynny:
anghofio fy enw
a gwneud sioe fawr
o chwilio amdano
tu ôl i’r soffa,
dan y bwrdd. Byddai’n
dod â’i ddwylo i’w wyneb
ac yn holi’n wyllt, ble mae e,
ble mae e?
Dwi’n fan hyn, yn hΕ·n,
ac yn teimlo falle fod y jôc
wedi mynd rhy bell.
Ond dyw e’n poeni dim
’mod i’n dal ar fy ngliniau’n chwilio.
Mae ei lygaid fel ceiniogau di-iws
neu allweddi a gollwyd flynyddoedd yn ôl
ac sy’n dal i sgleinio’n fombastaidd o dan y carped
jest tu hwnt i’m gafael.
Gwynfor Dafydd 9.5
Y Glêr (ML)
Rho heibio’r minlliw coch, gariad bach,
a gad i wres yr haul dy liwio
â brychni mân;
does dim angen y glityr chwaith
os ei di i redeg drwy’r caeau
a gadael i ddafnau’r chwys
befrio ar dy aeliau.
Bûm innau yno, cofia,
yn poeni’n ddi-baid
am hyd fy ngwallt, am siâp fy nghorff,
ymhell cyn bod angen,
ymhell cyn bod rhaid.
Felly dere, tynna’r sodlau bygwth baglu,
a gad yr hand-bag Chwarae-Mam,
dere i dwmblo yn y borfa,
dere i guddio yn y rhedyn,
cei gyfle eto i fod yn oedolyn.
Megan Elenid Lewis 9.5
9 Englyn: Cân Werin
Tir Iarll (ED)
Llais cras sy’n addas iddi, nid cordiau
Cywirdeb; mae egni
Tafarn flêr i’w hyder hi
A harddwch heb hyfforddi.
Emyr Davies 10
Y Glêr (HG)
At y rhwd sy’n gwyro’r traw – lein wrth lein,
gall teclynnau difraw
dwylo iau, fel cawod law,
iro olwyn yr alaw.
Osian Rhys Jones yn darllen gwaith Hywel Griffiths 9