Cerddi Rownd 1 2023
1 Trydargerdd: Y Frechdan Berffaith
Manion o’r Mynydd
Yn gyntaf oll mi baratoaf
Dafellau’n drwch o’r beirdd amlycaf,
Ac yna’n gig i lenwi’r frechdan
Y Meuryn blasus, Tudur Dylan. Alwyn Evans 8
Tir Mawr
Nid bara surdoes ag eog drud
Na chaws gafr organig a’r trimings i gyd
Ond tafell denau wyneb torth ar ei hyd
Wedi’i phlygu’n ei hanner i aros pryd. Carys Parry 8
2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw liw
Manion o’r Mynydd
Ni ddaw aur yr hirddydd haf
Heb arian y dydd byrraf. Alwyn Evans 8.5
Tir Mawr
Er y Wisg Wen, mae risg gudd:
Pasio dΕµr mewn pais derwydd. Myrddin ap Dafydd 9
3. Limrig yn cynnwys y llinell ‘‘Mae cwyno yn ardal Trawsfynydd’
Manion o’r Mynydd
Mae cwyno yn ardal Trawsfynydd
Am ganiad boreol y pibydd,
Rhaid torri ei grib
Trwy sdwffio ar wib
Ei gotbib i le dioleuddydd. Alwyn Evans 8.5
Tir Mawr
Mae cwyno yn ardal Trawsfynydd
Fod nifer y defaid ar gynnydd,
Y mae na un wlannog
Sy’n brefu’n ardderchog
Ar gyngor y plwy’ yn Gadeirydd. Carys Parry 8.5
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Aduniad
Manion o’r Mynydd
Un bore bach yn Ionawr yr oedd yr haul a’r lleuad gyda’i gilydd am gyfnod byr yn yr un awyr.
Un eiliad oedd, un eiliad wen,
Un eiliad geni heulwen,
Lleuad, yn eiliad olaf
Ei wawl oer, yn llithro’n glaf
I gyrion eitha’r gorwel,
 rhyw ias yn ei ffarwél’
A’r haul yn esgyn ar ras
Y diwrnod, am ei deyrnas
Un eiliad gyda’i gilydd
A’r nos ddu yn dathlu’r dydd.
Yn nwrn pob dydd mae hirnos,
A dydd newydd ym mhob nos. Nia Powell 9.5
Tir Mawr
Daw awyren o’r dwyrain
a daw’r ferch drwy ffenestr fain
yr oedi rhwng ffrwydriadau,
cyn i’r llwch gwyn eto gau.
Yn y llwch, lle mae’i naill law,
mae dwyster bomiau distaw
ei henaid. Llaw wahanol
aeth i’w nos a’i thynnu’n ôl.
Cael a chael, cwyd ei chalon
drwy bob brath, drwy wydr ei bron,
i gael dod â’i golau dydd
a’i galar at ei gilydd. Myrddin ap Dafydd 9.5
5 Pennill ymson wrth fenthyg arian
Manion o’r Mynydd
Mewn chwyddiant, benthyg biliwn,
Ond nid yw hynny’n ffôl,
Mi fydd yn werth cryn dipyn llai
Pan dalaf i o’n ôl. Nia Powell 9
Tir Mawr
Os wnai ddarbwyllo’r creadur hwn
Caf fenthyg punt neu ddwy
A dof yn ôl, r’ôl prynu gwn
I Fenthyg dipyn mwy Huw Erith 9
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod dros funud a hanner o berfformiad) : Chwarae Gartre neu Chwarae i Ffwrdd
Manion o’r Mynydd
Mae dynes til y ‘Fasged Fach’ fel awel selog, glên,
A beunydd, pan af ati, daw’r croeso’n wawr o wên.
Un bora, tros fy masged o wrap a chreision pinc,
Mi wenodd a sibrydodd, ‘Ti’m ffansi mynd am ddrinc?’
Am chwinciad gwelais fachlud a’n dau, i sΕµn y lli,
Yn sipian ein Mohitos ar draeth y Caribî!
O’m hôl ’roedd ciw anferthol, pob un â basged lawn,
Yn dal eu gwynt yn eiddgar i weld pa beth a wnawn.
’Dwi’n saff i bob ciw arall, pob til a chart trwy’r siop,
A phob un car trwy’r car-parc, am ennyd, ddod i stop.
Mi deimlais wrid yn codi ar ras o fodia’ ’nhraed,
A thestosterone oes a fu yn baglu trwy fy ngwaed.
Mi fwydrais ’mod i’n briod, un ci a dau o blant,
Y ferch yn black-belt judo a’r mab yn gîc cerdd dant,
Y wraig a minnau’n selog ers ysgol fach ein cwrdd,
’Dwi ond yn chwara’ adra’, a ’rioed ’di chwara’ ffwrdd,
Mi wenodd arna’ i’n annwyl, ac yna’n ara’ deg
Gwnaeth ystum i mi dewi wrth ddwyn ei bys i’w cheg,
Tra’n siglo’i phen mewn piti, dywedodd gyda winc
‘Mae pob ‘Meal Deal’ ti’n brynu yn dwad efo ‘Drink’’
Tudur Puw 9
Tir Mawr
Bu ‘rioed y fath wirioni, roedd cyffro drwy y lle
Roedd Llan yn chwara’ Chelsea yng nghwpan yr Eff E
Roedd pobl Llan yn ofni y bydda nhw’n cael stîd
T’oedd trwyn gôlgeidwad Chelsea werth mwy na’r pentra i gyd ?
Cychwynodd Chelsea’n nerfus gan chwarae mewn i’r gwynt
Ar gae lle tyfai barlus ond gwta fis ynghynt
Fe gododd bloedd anferthol. Fe’i clywid hi yn Sbaen
Dan Dean â gôl ryfeddol a Llan aeth ar y blaen
Ar gychwyn yr ail hanner fe ddaeth newyddion gwael
Roedd Dan ‘di dal distempar a d’oedd o ddim ar gael
I foi oedd bron a marw eiliadau prin ynghynt
Fe wellodd Dan yn arw a rhedodd fel y gwynt
Mewn amser byr ofnadwy cyrhaeddodd yn y man
At stad o dai fforddadwy ar ochr ycha Llan
Wrth dynnu’i grys a’i sgidia aeth mewn drwy ddrws rhif tri
Cyn sboncio i fyny’r grisia at wraig y reffari
Bu gôl y Llan dan warcha’ heb seren fawr y plwy
A cholli wnaeth yr hogia o ddeunaw gôl i ddwy
A William fe ddaeth ynta’n chwaraewr cynta’r byd
I lwyddo’i chwara gartra’ a’i ffwrdd yr un un pryd
Darllenwyd gan Huw Erith gwaith Gareth Jones 9
7. Ateb llinnell ar y pryd: Na, Dewi Sant, paid â sôn
Manion
Gwin yfaf nid dwr afon
Na, Dewi Sant, paid â sôn
Tir Mawr
Na, Dewi Sant, paid â sôn
Un gai ram driphlyg goron
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cyfrinach
Manion o’r Mynydd
Côr yn trydar yn eu cwm cudd
Gan brysur rannu cyfarchion oesol.
Rhywle, rhwng plygiadau cymylau’r we
Criw yn hela dilynwyr,
Chwilio a chrefu am ‘fix’ o ‘likes’,
Eu cyffro yn un eisteddfod
Wrth lenwi llygaid Instagram
 pherffeithrwydd,
Chwant am y cwm tecaf
Fel yr afon yn pefrio drwy eu ffiltars
A’u celwyddau crin yn stelcian rhwng y dail digidol.
Cyrraedd, ticio a licio cyn agor drws y car,
Yna chwydu’n swnllyd hyd y ddol
A’r pacedi prawn cocktail yn prancio
Rhwng rhesi boliog o duniau cwrw‘n torheulo
O amgylch gweddillion barbeciw rhad.
Yr adar bach yn gwyro’u pen
Heb nodyn yn eu pig. Gwilym Jones 9.5
Tir Mawr
Does ’run jwg o fewn fy nghyrraedd:
Mae’r silff yn wag fan hyn;
Dim gwddw llyfn i roi fy llaw
I ymbalfalu’n syn.
Sut mae dal rhyfeddod dirgel
Heb gael jwg ar silffoedd isel?
Mae rhywun wedi cloi’r cypyrddau.
Er tynnu’r dwrn yn flin
’Chlywa’i ddim y miwsig ddaw
O glinc y gwydrau gwin.
Sut mae codi i diroedd uchel
Heb gael agor cwpwrdd dresel?
Mae clicied drws y parlwr gorau
Yn gadarn yn ei lle
A dyna sdop at geisio dysg
A chanfod be ’di be.
Sut all deng mis oed droi’n angel
Heb chwalu pethau’r cwpwrdd cornel? Myrddin ap Dafydd 9.5
9 Englyn: Undeb
Manion o’r Mynydd
Ei gywion duon fu’n dawel – erioed
I’w grawc, heb wrthryfel,
Uwch bedd taid, yr haid sy’n hel
A ffrae sy’n fferru’r awel. Tudur Puw 9.5
Tir Mawr
‘Y Nefoedd! Streic a chleifion - yn marw!’
medd môr o newyddion;
‘Na, cawn,’ medd nyrs, ‘y streic hon
oherwydd bod ’na feirwon.’ Carys Parry 9.5