Main content

Cerddi Rownd 1 2023

1 Trydargerdd: pennill yn esbonio enw lle yn yr Alban

Caerelli (DO)

“A gweled, uwch Caeredin,
sedd Arthur, sedd wyrthiol Y Dewin.
Maes gwthwm ymysg eithin,
Acer daer a Caer Ei Din”.

Dilwyn Owen 8

Tir Iarll (TDJ)

Sgwrs rhwng dau wrth feddwl am farc i'w roi ar wefan Tripadvisor

“Sawl marc a rof i’r lle bach hwn
a gyrhaeddom ar ein taith?”
“Rho fwy na chwech a llai nag wyth,
a deud y gwir, rho saith.”

Tudur Dylan Jones 8

Cyn i rêf y canrifoedd
greu difrod ger y dyfroedd
ac aredig coedwigoedd,
fe welwyd rhwng dy foelydd
y rhostir a’r fforestydd
lle bu’r haf a llwybrau’r hydd.

Enw roed ar y frodir,
ac un dafolai’r gweundir.
Cwm glas sy’n addas yn wir


2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw dafarn

Caerelli (ED)

Ai mêl ein mawl yn y man,
neu’n cwyn a glyw’r Bryncynan?

Eirian Dafydd 8.5

Tir Iarll (ED)

Lle daw iawn oedd y Llew Du
I wario grant yfory.

Emyr Davies 9

Hen le da yw’r Hen Lew Du,
i leygwr adolygu.DO

Awydd swig? TΕ· Newydd, Sarn.
Cyntefig? Gwerth can tafarn! EW

Yn Y Madryn bu’n mwydro
am y maeth sydd mewn llaeth llo. EW

Yfaist Tu Hwnt i’r Afon
yn o sych, yn ôl y sôn.

Rwy'n y ne'n y dafarn hon
tra yfwyf Twnti'r Afon. MH

Am eu trafferth, mae traffic
Fy iaith yn clirio’n y Fic. AK

Globe, Mount, Yr Afr neu’r Fountain,
Y Sun, Cross ... neu Carew Inn. TDJ

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Rhaid disgwyl yn hir am apwyntiad’

Caerelli (ED)
Rhaid disgwyl yn hir am apwyntiad
i’r meddyg gael dweud y bydd galwad
i’r ’sbyty un diwrnod,
’mhen blwyddyn i ganfod
oes gobaith i fod am adferiad.

Eirian Dafydd 8

Tir Iarll (TDJ)
Rhaid disgwyl yn hir am apwyntiad,
Ond nid gyda meddyg y llygad,
Mae hwn ers cyn co
Yn brydlon bob tro
A chewch ei weld o ar amrantiad.

Tudur Dylan Jones 8.5


100 not out?
Rhaid disgwyl yn hir am apwyntiad,
I orwedd o flaen yr offeiriad.
Dwi’n gant namyn mis,
dwed beth yw dy bris,
oes gobaith cael bach o estyniad?
.
Rhaid aros yn hir am apwyntiad
I weld Tudur Dylan am eiliad;
Gall wella pob englyn
I blesio y meuryn;
Os na, wel mi gewch chi ad-daliad.

 4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Dathliad

Caerelli (DO)
Ariannin 1978 – Dathlu?

Er Coupe du Monde llond y lle,
Yr hela sydd yn rhywle!
Y milwyr sydd di mela,
Yn y tir mae Coup d’etat.

Ar y cae, mae brodyr cu,
Ariannin heb ei rhannu.
Glas a gwyn yn glos a gwâr,
Dathlu gôl. Dathlu galar?

Yma, mae mam yn amau.
Wylo’n hir, heb lawenhau,
am un, nid yw’n ei mynwes.
Yn yr hwyr mae’n un mewn rhes.

Dilwyn Owen 9.5

Tir Iarll (MH)

(Hen Galan)

Ma' cwm gwâr lle sdim taraf
ar y cloc, lle cei, Εµr claf,
ddwâd o'r byd am funud fach
i brofi'r byw arafach;
o droi o'r gwylltu a'i dreth,
wn i lai na chei lΕµeth
yn eiddo'i neb - dydd na nos -
yr awr sy'n wawr o aros,
awr sy'n hongian 'i hanal
ar hen hoel cyn siario'n hâl
galennig ei goleuni,
a gweud: 'cymer d'amser di'.

Mererid Hopwood 10

5 Pennill ymson mewn derbynfa

Caerelli (JM)
Derbynfa’r Nef

So’r cymylau ma’n rhy foethus
A phaent y gatiau angen twtsh.
Nid fel hyn oedd hi’n y brochure, na...
Ac ma’r gerddoriaeth yma’n rwtsh.

Dilwyn Owen yn darllen gwaith John Manuel 8.5

Tir Iarll (ED)

Rwyf yma wrth borth uffern yn awr ers amser maith,

Yn helpu’r pechaduriaid ar hyd eu holaf daith;
Dewch, dewch, Dorïaid annwyl, mae croeso mawr i chi!
Fe gewch chi bob blaenoriaeth ar lôn y VIP!

Emyr Davies 9

Cerdyn post o Landudno
Yma o hyd ’n Llandudno, yn aros
i’r oriau fynd heibio.
Mae SAGA wedi’m sigo.
Yn y Grand, cyn mynd i’r gro.DO

Dwi’n chwilio am job derbynyddas
A chan mod i’n jadan anghynnas
heb ‘Sut ‘da chi heddiw?’,
dim ond ‘Be ‘di’ch enw?’,
dwi’n meddwl ma’ fi ydi’r ddynas. EW

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Parc Busnes

Caerelli (EW)

Mae stiwdants archaeoleg wrth eu boddau’n Parc Bryn Cegin,
yn cloddio’r ddaear dan eu traed am greiriau prin a llychwin.
O Oes y Megalithig hyd at gyfnod y Rhufeiniaid,
ar gof a chadw ma’ nhw i gyd tan ofal cofiaduriaid.

Ond petaech awydd tyllu am rhyw hanas mwy diweddar
yr unig beth a gaech chi fyddai ail, a chlust go fyddar.
Os holwch bobol Bangor, aye, mae’n debyg cewch chi’r hanas
am barc na welodd fusnas ’rioed oherwydd misdimanas.

Sawl miliwn aeth i greu’r fath beth? Wel un ar ddeg, hyd yma,
gan gynnwys tri o Ewrop bell. Mae hyn heb air o glwydda’!
Miliynau a fuddsoddwyd, do, er mwyn cael denu busnas
a fyddai wedyn, yn ei dro, er budd a lles cymdeithas.

 phobol ar eu cythlwng draw yn ardal Llandegái,
mae’r sgandal wedi cyrraedd tudalennau’r ‘Bangor Aye’.
“Ein harian ni drethdalwyr a fuddsoddwyd ym Mryn Cegin.
Wel hitiwch befo’ch bilionêrs! Beth am y dyn cyffredin?”

Ar ôl cael digon ar y glaw, gadawodd y Rhufeinwyr,
a chlirio’i fyny ar eu hôl, er nid yn ddigon trylwyr,
ac wedi Macsen hel ei draed gadawyd ambell darian,
a’r unig beth sydd nawr ar ôl yw twll sy’n llyncu arian.
Eirian Dafydd yn darllen gwaith Emlyn Williams 8.5

Tir Iarll (AK)

Cyhoeddodd Myrddin o’r Orsedd
Â’i ben busnes uwch ei glog,
Fod angen dechrau gwneud elw
A gwneud cash-cow o’r maen llog.

A dyna greu’r, brifwyl honno,
Barc busnes o fewn y cylch,
A rhannwyd cobanau newydd
‘Di noddi gan Liebfraumilch.

Heidiodd beirdd i mewn i’r fenter,
money makers mawr eu coel,
Daeth Idris a Tudur Dylan
I werthu eu cerddi moel.

Fe bwrcasodd Cefin organ
Gan gynnig ffifti cwid y go
I bobol alw draw am dincl
Ac thinclodd sawl un yn eu tro.

Ond gwnaed yr elw mwyaf,
A hwnnw’n elw drastig
Gan yr Archdderwydd ei hun
Pan ddyfeisiodd feini plastig.

Aneirin Karadog 9

7 Ateb llinell ar y pryd – Ar y cae mor fyw yw’r co

Caerelli

Oes mae hwyl yn y smalio
Ar y cae mor fyw yw’r co

Dilwyn Owen

Tir Iarll

Os yw Gareth yn sgorio
Ar y cae mor fyw yw’r co

Aneirin Karadog 0.5

 8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Therapi

Caerelli (DO)

SΕµn canu yr adar
a’r gwynt yn y coed.
A gwlith mis Mehefin
Yn wlyb dan fy nhroed.

Cael casglu tomatos
A godais o had,
A chwynnu o’i cwmpas
‘Da triwal fy nhad.
Cyfarfod cyfeillion
Na welais ers tro.
A thrafod hen ddyddiau
O ddyfnder y co’.

SΕµn glaw ar y ffenest
A chlician y tân,
ac arogl lafant
mewn gwely gwyn glân.

Dy fys ar fy ngwefus,
Dy law yn fy llaw.
Rwy’n gwybod bryd hynny,
Fy ngofid ni ddaw.

Dilwyn Owen 9.5

Tir Iarll (GD).

Y gwallt oedd y peth cyntaf i fynd (neu dyna
dwi’n ei gofio), yna’r lliw o’th groen
a’r annibyniaeth o’th gorff. Y cleisiau mân

ar hyd dy wythiennau’n cadw cownt
o’r tripiau i Felindre: y drip a oedd yn gwella
a gwanhau. Welaist ti mo lan llofft

ar ôl y trydydd tro. Roedd ’na ddyddiau
pan oedd agor drws y bàc mor syml
â phlannu blodyn ym mhridd yr ardd,

dringo’r grisiau, brechdan jam. Nawr,
mae comôd ger drws y lolfa,
gwely lle buodd soffa. Er i’r gwallt

dyfu’n ôl yn llawn ac yn llwyd
dan olau Ebrill, mewn pryd
i’r teulu i gyd

dy blannu.

Gwynfor Dafydd 10

9 Englyn: Ambiwlans

Caerelli (ED)

I’r byw ar oror bywyd, ei wely
dry’n elor ei adfyd,
berw’i hers yw’n braw o hyd
a’i gnul yw gwae anwylyd.

Eirian Dafydd 9.5

Tir Iarll (ED)

Mor unig yw Mair heno, yn aros
Oriau, gan obeithio
Y daw rhyw help yn ei dro -
Un seiren i’w chysuro.

Emyr Davies 9.5