Cerddi Rownd 1 2023
1 Trydargerdd: pennill yn holi cymwynas
Glannau Teifi
I staff yr ambiwlansys,Gofalwyr oll a’r nyrsys
Plîs, Rishi, wnei di roi yn hael,
Heb ffael, gyflogau dilys?
Geraint Volk 8
Y Gler (ORhJ)
Bûm fwy na thrigain mlynedd
Yn trigo’n Eglwyswrw.
A wnewch chi stopio gwthio’r
Gymraeg i lawr fy ngwddw?
Osian Rhys Jones 8
Ddoi di gyda fi i’r Swisdir?
‘Sdim raid ‘ti ddod, dim ond holi
'Rwyf am dy gwmni heb gybôl.
Cei di wrth gwrs ddΕµad yn ôl!
Gofyn i’r meuryn yw mwriad
O’i ddawn, a gawn ganddo ganiad?
Cân mewn cynghanedd
Hael hyd orfoledd,
Ym mawredd Samariad.
2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw derm yn ymwneud â beicio
Glannau Teifi
Ar feic, rhydd dyn mewn leicra,
Gyda’i din, un targed da.
Geraint Volk 8.5
Y Gler (ES)
Am high noon pan oeddwn iau,
Pedolwn y pedalau.
Eurig Salisbury 8.5
I un trwm, yn wyth deg tri,
Heb hwyl yw camp y ‘wheelie’.
Yn y gadwyn fe gydiodd
ei droed, a’r holl feic a drodd.
Fe glywaf gloch yn ochain
O dan donne ‘Cantre’* cain.
'Roedd rhwng y gloch a'i fochau*
Ei ddΕµr neu olwyn, neu’r ddau!
* nid gruddiau mo rhai'n.....
Fertigol i unigolion
Yw plateau pob peloton.ORHJ
Heno mewn lycra anhardd,
dwi ar ras … yn sied yr ardd.HG
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Y gamp, medden nhw, yw addasu’
Glannau Teifi
Un llyfryn bach coch oedd bryd hynny,
Cyn troi i gyfeiriad Plaid Cymru,
Ond wrth fyned yn hen
Des yn Dori bach clên.
Y Gamp medden nhw yw addasu
Terwyn Tomos 8
Y Gler (HG)
‘Y gamp,’ medden nhw, ‘yw addasu,
Sy’n hawdd, pan fo’r esgid yn gwasgu.
Gall un latte’n llai
Wresogi eich tai,’
Medd rhai â dwy Rayburn i’w crasu.
Hywel Griffiths 8.5
Os wyt yn deisyfu teyrnasu,
Y gamp medden nhw yw addasu.
Dauwynebog a brwnt,
Diegwyddor tu hwnt
Yw’r sgiliau sydd raid eu cwmpasu.
Y gamp, medden nhw, yw addasu
I atal y blaned rhag crasu,
Drwy droi yn llysieuwyr.
Ok, mae’n gwneud synnwyr,
Fi moyn gwneud be alla’i ond, Iaaasu …
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cau Drysau
Glannau Teifi
(Yn seiliedig ar gasgliad o storiau gan fen’wod o Afghanistan: My Pen is the Wing of a Bird)
Heb ysgol i roi golau,
yn y cwt mae’r drws ‘di cau.
Eiddo dyn yw’r dyddiau da
a wyrcws, trais a Burka
yn orchudd, yw byd merched
dan chwipiau llym grym y gred.
Ond yn lew, rhai dan y lach
a rannant un gyfrinach;
yn fen'wod, drwy sgrifennu,
er y gwaith, daw taith o’r tΕ·
â’r pen yn rhoi adenydd
a’r hawl i freuddwydio’n rhydd.
Nia Llewelyn 9.5
Y Gler (HG)
Ar ôl marwolaeth Tyre Nichols, Memphis, Tennessee
Mae clatsh yn sΕµn y pum clo,
traw y metel trwm eto;
pum clo fel sΕµn cwrso o’r car,
sgidie du’n ysgwyd daear
â’u hergydion. Rheg ydyw,
a bollt sy’n treiddio i’r byw.
Yn y troi mae llais Tyre,
ei waedd yn yr allweddi,
a sΕµn cyffion trymion trais
yn ei waedlif yn adlais
drwy’r drysau tawel, celyd,
am ei fam yn galw’n fud.
Hywel Griffiths 10
5 Pennill ymson mewn ystafell newid
Glannau Teifi
Nid fel hyn ddylai fod wrth fynd i’r pwll nofio,
Rhyw weiddi a checran, a neb yn becso;
Mae mwd ar y llawr, tywelion ym mhobman,
Wna i’m sôn am doiledau – mae’r rheiny’n aflan!
Sdim pwynt mynd i gwyno, ni fydd ateb graslon –
Mae fel bod nôl yn Steddfod Tregaron.
Terwyn Tomos 8
Y Gler (HG)
Drwy dawch y cawodydd trofannol,
mae disgrifio’r olygfa’n reit heriol;
ond credwch fi, mi gewch chi’r gist
os gwelsoch Gorillas in the Mist.
Hywel Griffiths 8
Yn Ystafell Newid Tîm Rygbi Menywod Cymru
Er imi sgorio llawer cais
A diodde' llawer cwt a chlais,
Ac i bob sesiwn bûm yn driw -
Un eilradd wyf i’r WRU.
O Rio i Ddihewyd,
O Rhyl i Wlad yr Iâ,
Pam fod pob un stafell newid
Yn drewi o Lynx Africa?
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Glanhau’r Sied
Glannau Teifi
Hei ho! Fe ffindes allwedd i glo clap sied y Glêr,
Lle maen nhw’n uwchfarddoni a syllu ar y sêr;
Wel, mewn â fi â’m dwster, a’m brwsh-a’m-pan ar ffrwst,
Sdim lle i we pry cop ‘ma, sdim lle yn wir i ddwst.
Ar ddesg go fawr fe ddwstes ‘Odliadur’ mwya’r byd
A thanio’r aur-liniadur i syllu ar yr hud;
Y stôr o gynganeddion, cywyddau hyd fy nhin,
Rhupuntau a chlogyrnachs sy’ yno’n gloywi’r sgrin.
Er mwyn glanhau rhyw dipyn, fe’u safies ar ‘go bach’ (*co bach = USB)
A’i stwffio yn fy mhoced; peth bach sy’n llai o strach.
Fe droies at y silffoedd ac yno’n dwt mewn bocs
Roedd llyfr siec yn hanner gwag a bocsed llawn o ‘chocs’;
Pob bonyn wedi’i lenwi mewn sgrifen bracse brain
‘I Ceri Wyn’, ein meuryn, am symiau mawr yw’r rhain!
Hei ho! Fe wyntaf ddrewdod. Mae’n dwyll – sdim sens yn hyn –
Mae’r sied ‘ma yn llygredig, a chwydaf yn y bin.
Ac yno’n slei mae dolis o feirdd ein tîm bach ni
 phiniau fΕµdΕµ mawr yn sglein drwy’r llecyn tywyll, du.
O na! Rhaid stwffio’r dwsto a dianc mas ar ras
I ‘weud wrth ‘Glannau Teifi’: “Rhaid inni dynnu mas!”
Nerys Llewelyn 9
Y Gler (ORhJ)
Aeth misoedd meithion heibio ers mentro i ben yr ardd
Lle mae fy Mecca innau’n pydru’n araf a hardd.
A phan ddaw’r gwanwyn eto, byddaf yno yn ddi-ffael,
Cans acw mae fy llannerch, fy mhatsh o Waun Cas-mael.
Rhaid clirio’r holl gorneli o lwch a gwe pry cop,
Gan ddechrau dwstio’r gwaelod, drwy’r canol, draw i’r top.
Mae angen cordio’r strimar, ac iro crib y gwrych,
Ac mae colynnau’r drws ei hun yn edrych braidd yn sych.
Bydd angen brwshio’r llawr, a’i frwshio’n siΕµr drachefn,
Fe frwshia’ i’r ffrynt yn gynta, ac yna brwshio’r cefn.
Fy mwriad yw crefftio mainc o gedrwydden gain Siapan.
Dyw’r tΕµls ddim gen i eto, ond fe ddaw hi yn y man.
A na, ni chaiff y plant na’r gath na chwaith y wifi
Ymwlwybro i ben yr ardd, cans wrth fy ngwaith y bydda’i.
Ond natur sied yw dryllio, fel dryllia stori’r dyn
Wnaiff rywbeth yn ei allu i gael awr yn ei gwmni’i hun.
Osian Rhys Jones 8.5
7 Ateb llinell ar y pryd – Nid yw Delilah’ng Nghaerdydd
Glannau Teifi
Bydded i ni Ganiedydd
Nid yw Delilah’ng Nghaerdydd
Terwyn Tomos
Y Gler
Nid yw Delilah’ng Nghaerdydd
Wn i ‘why’, mae’n oes newydd
Eurig Salisbury 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Mân Siarad
Glannau Teifi
Heddiw, â Gwyn ap Nudd yn dawnsio ar las y dydd,
cododd ton o leisiau’r gwanwyn
i siffrwd drwy’r llwyni mân:
“Dau dderyn bach ar ben y to,
Dyma Jim a dyma Jo ...”
a’r ditectif teirblwydd oed yng nghefn y car
yn syllu’n ymchwilgar drwy hen bâr o feinociwlars.
“Beth yw hwn, myngu?”
“Wel, peiriant hud sy’n gweld y pell yn agos,
ac yn dangos holl adar y byd, sdim ots pa mor bitw y’n nhw.”
Hithau wedyn yn byseddu’r llyfr ‘Pa Aderyn?’ mewn rhyfeddod.
“Yn hwn’na, cei di enw pob aderyn bach,
wyt ti’n ‘nabod rhai?”
Ac yna, tarddodd ffynnon o berlau’n drochion drwy’r beinociwlars;
“Ma’ lot o Jims ‘ma, myngu,
ond sai’n gweld dim un Jo.”
Ac mewn un anadliad, yn yr un ennyd brin honno,
dyma’r geiriau yn euro cwmwl pob yfory.
Nerys Llewelyn 8.5
Y Gler (MD)
Maen nhw’n dweud bydd y nos yn para’n hwy,
bydd darn o aur yn rhatach na nwy
ac na chawn fàth twym eto, fyth mwy,
ond mân siarad yw hynny.
Maen nhw’n sôn am droi pob golau bant,
tynnu batris o dedis y plant
a’n hel i olchi yn oerni’r nant,
ond mân siarad yw hynny.
Maen nhw’n dweud bydd rhaid godro eto â llaw,
codi cynhaeaf â bwced a rhaw
a byw ar ddim ond diferion dΕµr glaw,
ond mân siarad yw hynny.
Maen nhw’n sôn am lenwi pob soced trwy’r tΕ·,
diffodd y gwres fel yn yr oes a fu
a dim i’n cynnal ond cynffon y ci.
Maen nhw’n sôn o hyd am ryw ddyddiau du,
ond mân siarad yw hynny, meddech chi.
Megan Lewis 9
9 Englyn: Amgueddfa
Glannau Teifi
Yr Amgueddfa Wlân
Yng nghlebran yr hen beiriannau- heddiw
ail-nyddir storïau;
yn ôl daw’r wennol i wau
hanes, a’i stofi’n haenau.
Nia Llewelyn 9.5
Y Gler (ES)
Y creirie crand? Nawr, gwranda, yn y seff
Maen nhw’n saffach yma
Na ffor’ ’co yn Affrica.
A ta be, nid ti bia.
Eurig Salisbury 9.5
Geiriau mud a geir yma mwy – lluniau
sy’n llonydd gofiadwy,
atgofion fel pibonwy;
oriau ddoe a’u rhewodd hwy.