Cerddi Semi 2 2023
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Enwebu neu Enwebiad
Tir Iarll
Rwy’n hoffi rhoi cartref i nodau lu
Boed finim neu grotchet neu gwafer,
Rwy’n eu gwarchod hwy mewn llinellau syth
Bob nodyn yn dynn ac yn dyner.
Fy rhes o linellau yw’r gorau sy
I ddal yr holl hyn gyda’i gilydd,
A dyna dwi’n meddwl di’r rheswm paham
Imi gael fy enwebu’n Arch-erwydd.
Tudur Dylan Jones 8
Ffoaduriaid (GO)
Mae democratiaeth wedi malu,
mae na rwbath mawr o’i le,
mae’n Archdderwydd ni yn fengach
nag arlywydd yr USA.
Gwennan Evans 8.5
2 Cwpled caeth ar yr odl ‘ach’
Tir Iarll
Mae hi’n hysbys, Boris bach,
I bawb nad wyt ond bwbach.
Aneirin Karadog 8.5
Ffoaduriaid (LlGL)
Rhechu a wna pob crachach
yr un fath â’r werin fach.
Llio Maddocks 8.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae rhai yn fwy lwcus na’i gilydd’
Tir Iarll
Mae rhai yn fwy lwcus na’i gilydd
Sy’n gweld Ceri Wyn bob yn eilddydd;
Mae rhai, gallwn dystio,
Sy’n fwy lwcus eto
Na welant mohono dragywydd.
Emyr Davies 8.5
Ffoaduriaid (GWD)
Mae rhai yn fwy lwcus na'i gilydd
yn cael mynd ar drips ysgol i lefydd
egsotig fel Prâg,
Madrid neu Yr Hâg;
Ar fws yr es i i Drawsfynydd.
Gethin Wynn Davies 8.5
4 Cywydd (rhwng 12 ac 18 llinell): Eiddo
Tir Iarll
(sgwrs rhwng mab y sgweiar a mab y gwas)
*’eiddo anghyffro' = 'real estate'
Dau fab, dwy fynwent, dau fedd,
dwy ewyllys, dwy allwedd;
mae un yn datgloi maenor,
un, hen dΕ· heb fur na dôr
na meini ond cymwynas
haul y wawr a’r awyr las,
talcen o’r pren sy’n parhau,
to o’r sêr a’u trysorau.
‘Beth yw ei werth?’
Mae’n chwerthin:
‘Dewis dy bris, bydd rhy brin:
anghyffro dy eiddo di -
ces di aur, ces i stori.’
‘Dyna’i gyd?’
‘Ie’r dwyn i gof
bob dydd a fydd fy eiddof -
y cof yw llog pob cyfoeth,’
meddai plentyn y dyn doeth,
‘ei ddim, ei holl ddiamau
roes i mi, ac aros mae.’
Mererid Hopwood 10
Ffoaduriaid (LlGL)
Meini Elgin
Nid dwyn, ond cofnod hanes;
dod â’r hen wyrth adre’n nes.
Rheibiwyd craig i arbed crud
ddoeau’r gwaraidd rhag gweryd.
Un diwylliant deallus
gadwai’r llall; ailgodi’r llys,
dyna yw hawl dynion hy:
hudo i gôl, diogelu…
Rhegwn, ond gwyddai’r Groegiaid:
’run lliw pob teyrn yn y llaid.
Ym mêr oer y marmor hwn
a’i rigolau, argoelwn
ryw yfory yn fuan
y gwΕ·r mawr yn greiau mân,
heb rym, dim ond cerrig brau
yn yfflon lond eu hafflau.
Gethin Wynn Davies yn darllen gwaith LlΕ·r Gwyn Lewis 9.5
5 Pennill telyn yn cynwys y llienll ‘Mynd i’r ardd i dorri pwysi’
Tir Iarll
Mynd i’r ardd i dorri pwysi
Uwch y bedd lle claddwyd pwsi;
Dyma’r man yr hoffai’i ddyfrio -
Nid o’i gwirfodd aeth odano.
Emyr Davies 8.5
Ffoaduriaid (LlGL)
Mynd i’r ardd i dorri pwysi,
Canfod Beti Bwt yn golchi.
Dillad, sebon, dΕµr ymhobman –
Ti’n y pennill rong y gloman!
Llio Maddocks yn darllen gwaith LlΕ·r Gwyn Lewis 9
6 Cân ysgafn: ‘On’d oedden nhw’n ddyddiau da...’
Tir Iarll (Rhaglen Tudur Owen)
Mae Tudur a Dylan a Manon yn arwyr ar y radio,
Yn defnyddio’r iaith yn fedrus o ‘wannwl’ i ‘hynnabedio’.
Bu’r triawd am flynyddoedd, boed aea neu foed ha’
Yn diddanu eu cyd Gymry, on’d doedden nhw’n ddyddiau da.
O drafod magu milgwn i gynaeafu cocos,
Pwy’n well na Tudur a Dylan, a Rogers Hyphen Tomos.
Ond mae tri’n cyflwyno rhaglen yn gostus fel dwn im be,
Mi fasa dau yn rhatach, heb son am fwy o le.
Mi sgwennais lythyr parchus ‘F’anwylaf Elan Closs,
Y mae Rhuanedd Richards yn deud mai chi di’r bos,
‘Fel Cadeirydd y Gorfforaeth dwi’n siwr yr ewch chi’n bell
Os newidiwch y dyddiau da i gael bod yn ddyddiau gwell.
‘Dwi wedi ffindio cyfle i chi safio ar y slei,
Sef terfynu eich cytundeb efo Tudur a Dyl Mei.
‘Mae hi’n berffaith iawn i Manon gael ei chadw ar y gweill,
Ond mi dwi yn fwy na pharod i gymryd lle y lleill.
‘Er cystal darlledwyr ydynt, mae’r tolling of the bells
Yn deud bod eu cyfnod drosodd, felly be amdani… Els?
Ac enw’r rhaglen newydd, mae hynny’n eithaf plaen:
Tudur Dylan a Manon a fydd hi o hyn mlaen.
Tudur Dylan Jones 9
Ffoaduriaid (GO)
Da chi’n cofio’r hen bafiliwn yr un pren urddasol mawr,
a’r cystadlaethau corawl yn para deuddeg awr?
Da chi’n cofio beirdd y Babell Lên pan oedd rheiny’n feirdd go iawn?
Yn englyna’n gain am dranc yr iaith drwy’r bore a’r prynhawn.
Da chi’n cofio pan oedd awdlau yn awdlau efo graen?
Pob un ru’n fath yn union â’r awdlau ddaeth o’i blaen.
Da chi’n cofio’r hen ffyddloniaid bob un yn gwisgo siwt?
Da chi’n cofio Tudur Dylan, pan oedd hwnnw dal yn ciwt?
Da chi’n cofio pan oedd tocyn i’r Maes yn lot llai drud?
Da chi’n cofio pan oedd pryddestau yn odli ar eu hyd?
Da chi’n cofio pawb yn hapus a neb yn codi ffys
a’r unig Foses oedd in charge oedd awdur Exodus?
Da chi’n cofio pan oedd steddfod yn steddfod ac nid gΕµyl
a’r pwyslais fel y dylai fod ar y steddfod…nid cael hwyl!?!
Da chi’n cofio’r ban ar gwrw a phob steddfod yn un sych
A phawb di ramio i’r ddwy dafarn yn y pentre…toedd hi’n wych…?
Da chi’n cofio beirdd fel Cynan, a’u lleisiau’n llenwi’r lle
a’r merched yn eu helfen yn y cefnau yn gneud te?
Nid af i’r steddfod ‘leni – a dwi am awgrymu’n glên
y dylai’r eisteddfodwyr ifanc ddechrau gwrando ar yr hen.
Llio Maddocks yn darllen gwaith Gruffudd Owen 9.5
7 Ateb llinell ar y pryd – Ofni rwyf y daw fy nhro
Tir Iarll
Caniwt fu’n gocyn hitio
Ofni rwyf y daw fy nhro
Emyr Davies 0.5
Y Ffoaduriaid
Ofni rwyf y daw fy nhro
A heb ‘run ateb eto
Gethin Wynn Davies
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Llygaid
Tir Iarll (GD)
Mae dwylo’n bethau brwnt o glyfar:
dileu tecst, coluro cleisiau, dodi mint
i doddi ar dafod. Golchi ydy rhesymeg
dwylo. Hwyr. Eto heno. Cyfarfod. Dy wefusau’n
gwau celwyddau. Yn pwytho gorchmynion
wedyn wrth i’th liniau gusanu llawr
gwesty arall. Yr un amser wythnos nesaf? Ffenestri’r
car wedi’u hagor ar y draffordd ’nôl adref i deimlo’r nos
yn smyglo’r coch oddi ar dy fochau (rwyt ti
wedi gwneud y daith hon o’r blaen), teiars yn gwichian
eu cyfrinachau dros y dreif tra bod
dy stumog yn troi rownd a rownd fel dillad
mewn peiriant golchi. Ac mae hi yno’n dy ddisgwyl
wrth fwrdd y gegin, gyda deigryn yn llithro fel
modrwy lawr ei grudd. A phan ddaw’r cwestiwn
anochel, does dim ymochel rhag y gwir, am fod llygaid
yn bethau lletchwith a phur
anghreadigol.
Aneirin Karadog yn darllen gwaith Gwynfor Dafydd 10
Ffoaduriaid (LlGL)
i’r Diflanedigion, bum mlynedd ar hugain ar ôl Cytundeb Gwener y Groglith
Credu yw gweld. Fe wyddai Tomos hynny
gan fynnu gweld yr hoel lle bu yr hoelion.
Ac felly ninnau, wedi’n hewyllysio’n
hunain i’ch gweld chi ddegau o weithiau’n y dorf,
wedi’ch datgladdu chi i fywyd eto, gan chwilio
wynebau, dwylo dieithriaid yn daer â’n llygaid am dwll.
Ac ydi, mae cred yn fyw nes gwelwn eich cyrff.
Hen gred mewn gwyrthiau a gras, neu gred yng ngrym
cadwraeth oer y fawnog. Gweld digon i gredu
bod hanes yn hen hanes, wedi’r cyfan.
A chred, os dowch chi fyth yn ôl ar ffurf
y Garddwr, neu fel Lasarus i’n plith
y cawn ni’ch arwain chithau, hefo gwlith
y bore, i gael gweld â’ch llygaid crin
eich hun lygedyn gwan o heddwch pΕµl
yn dawnsio’n fregus betrus efo’r nos.
A chredu, er yr archoll, y gallai fyw.
Gwennan Evans yn darllen gwaith LlΕ·r Gwyn Lewis 9.5
9 Englyn: Rhestr
Tir Iarll
Bucket list
Byw’n llawn, yn llawn o gynlluniau oedd ei
addewid; ond taclau
a geidw ’u gair gyda gwae
yn rêl haid yw’r eiliadau
Aneirin Karadog 9
Ffoaduriaid (LlGL)
Y fath hwyl ni chofith o: y parêd
papur wal. Eith rhifo
criw’r llofft, y mwnci a’r llo,
o’i afael. Ond dwi’n cofio.
Gwennan Evans yn darllen gwaith LlΕ·r Gwyn Lewis 9.5