Main content

Cerddi Rownd 2 2023

1 Trydargerdd: Fformiwla

Arglwydd de Grey
E=mc sgwȃr
Mae cyflymder golau wedi ei sgwario
Yn golygu fod mas bychan yn cario
Ynni mawr, mawr,
Hyd y ddaear lawr.
Sy’n swnio’n dda…
Hiroshima.

Arwel Emlyn Jones 8.5

Tir Mawr

Y mae y cof yn pallu,
Henaint ddaeth yn ei le,
Fe brynais bowdwr gwyrthiol
A welais ar y wê

Fe hoga yr ymenydd,
Elixir yw go iawn,
Dwi’n siwr y gweithia’n berffaith
Os cofio’i gymryd wnawn.

Huw Erith 8.5

I feirdd, yn fyr, dyma fo – un odl
Tri deg nodyn cryno.
Cei lusg( ond nid yn y clo)
Hei presto! Diawl, mae’n proestio!

Y mae y cof yn pallu,
Henaint ddaeth yn ei le,
Fe brynais bowdwr gwyrthiol
A welais ar y wê

(Fformiwla Barnett)
O Lundain mae’r Trysorlys
Yn rhoi i ni’n ddarbodus
Fel byddwn, Gymry, am bob punt,
Fyth iddynt yn ddyledus.
Mae Llundain yn cyhoeddi
Fod arian i ni leni
Os down â chap mewn llaw i’w gael
A dweud mor hael yw Rishi.

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘caets’

Arglwydd de Grey

O’r caets, nid yw ceinder cΘƒn
Yn allwedd i ddod allan

Tomos Gwyn 8.5

Tir Mawr

Yn ei gaets aderyn gân,
O’i adfyd, am gael hedfan.

Carys Parry 8.5

Gwlad flin a ffin ei phenyd
A wna gaetsh o’r byd i gyd.

Mewn caets neu ar rwymyn, ci
Defaid, nid ydyw’n dofi.

Y caets sy nghilfachau’r co’
Anodd dianc ohono

Yno 'roedd anti Annie

Yn y caets yn mwytho ci.

Yn y caets roedd mwnci call
Yn caru mwnci arall.

Dau barrot wedi'r potio
Yn eu caets yn mynd o'u co'

Tynnu gwisg, yfed wisgi;
yna cwsg, yn caets y ci!!

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mewn sesiwn pilates un noson’

Arglwydd de Grey
Bu gormod yn llacio perfeddion
Mewn sesiwn pilates un noson;
Y statig o'r neilon
Gyfunodd â'r nwyon-
A ffrwydrodd y neuadd chwaraeon.

Steffan Tudor 8.5

Tir Mawr

Ar blygiad go od, roedd Jôs Plismon
Mewn sesiwn pilates un noson
Efo’i afl wrth ei drwyn,
Gofynnodd yn fwyn:
“Di hyn yn beth hollol gyfreithlon?”

Carys Parry 8.5


Mewn sesiwn pilates un noson
Yn gwisgo siorts lycra o safon
Mi welais mewn drych
Rhyfeddod o rych
Wel diawl, base Ych yn dra bodlon!

Mewn sesiwn Pilates un noson
Estynais fy nghoes i’r entrychion
Disgynodd i ffwrdd
A rhowlio dan ‘bwrdd
Ond llwyddais i’w sdicio hi nôlon

Drwy symud eu bochau yn gyson,
Mi ganodd y côr hen alawon
Am wynt Porthdinllaen
A’r Sirocco yn Sbaen
Mewn sesiwn pilates un noson.

Cyfarfu dau dîm yr ymryson
Mewn sesiwn pilates un noson;
Roedd rhai’n gyrch a chwta,
Rhai’n benfyr a chrwca:
Doedd neb yno’n unodl union.

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gohirio

Arglwydd de Grey
*Dros Dro oedd enw cartref fy rhieni.

Gyda’r hwyrnos yn Dros Dro*
Galaraf, rwy’n ddi-glirio;
Taflu crib, papur dibwys
A thaflu dim byd o bwys,
Ceisio sortio’r bocsys sydd
Yn llawn lluniau llawenydd.

O’r cwpwrdd, torri cwpan,
Heulwen fu yn chwalu’n fΘƒn.
“Dam it all!” dyma yw tΕ·
Yn wag, ond heb ei wagu;
Sychu pyllau’r dagrau, do.
Gwae a hiraeth… Gohirio.

Arwel Emlyn Jones 10

Tir Mawr

Mae’n beryg fod y rhiniog faint o fwlio sy’n dderbyniol
yn y gwasanaeth sifil yn rhy isel…’
– Dominic Raab

‘Nefolion! Y fi’n fwli!?
Pa rai sy’n pupuro’r si?
Mond gweision disafonau,
tlawd eu heinioes, does dim dau.
Ni fues rydd fy sarhad
na haearnaidd fel beirniad.
A blygaf? Na wnaf, yn wir:
gweithiaf hyd nes y’m gwthir.’

Yna amser a wiberodd
ei dric; ei wenwyn a drodd
yn sylwedd ei ddiwedd o.
Tynnwyd y mat o’tano.

Myrddin ap Dafydd 9.5

5 Triban neu bennill telyn yn seiliedig ar unrhyw ddihareb

Arglwydd de Grey
Gweu golau'r haul yn gadwyn
Creu modrwy cain o fenyn;
Er ymdrech lew mi fyddi'n feth-
Nid aur pob peth sy'n felyn.

Steffan Tudor 8

Tir Mawr

Mae hefyd gaws neu gwstad,
‘di dod o dun neu bacad
A’r Dant y Llew sydd hyd bob man
A marsipan. A mwstad

Gareth Jôs

O’r nefoedd mae’sio mynnadd.

Dwi wrthi ers dwy flynnadd
Yn dilyn iar rhwng pedair wal
Dwi’n siwr o’i dal hi’n diwadd

Protestio mae y nico,
Ond does na neb yn gwrando;
Gwell ganddo yn y llwyn fan draw
Na marw’n llaw ryw psycho.

‘Rhaid castell mawr i rwysg mawr’
Yn y deyrnas sydd ohoni
Pa ganfyddiad ond coroni
Wnaiff y tro i ladd amheuaeth
Nad oes mawredd mewn brenhiniaeth?

“Cerrig man yw craig y mur”
Nid grym y cadfridogion
Sy’n dychryn y gelynion.
Lle dengys byddin ei gwir werth
Yw’’r nerth sydd yn ei dynion.

6 Cân ysgafn: Y Rhagbrawf

Arglwydd de Grey

Rhagbrawf yw bywyd I un o ddau le
Nid dau bafiliwn ond uffern a ne’

Rhaid siarad Cymraeg I gael mynd fyny grisia,
Rhyw fratiaith cyfryngol wnaiff tro’n y lle isa.

Yno mae llu’n defnyddio Gwgl TranslΘ‡t
A haid sydd yn credu bod Prydain yn grȇt.

Yn Nhalwrn y nefoedd dim ond beirdd sydd I’w cael
Yn rhoi marciau I’w gilydd yn hynod o hael

Does yno ru’n meuryn yn rhoi wyth ac yn flin
Ma nhw’I gyd yn Uffern yn cael eu camdrin.

Yn steddfod y nefoedd mae corau di-ri
Yn uffern mae rhagbrawf a lle mond I dri

Does yna ddim Senedd I’w gael yn y ne
Wel does na ddim gwleidydd yn agos I’r lle

Na’r un arweinydd nad yw’n ddoeth yn ddi-ffael
Yn uffern does dim synnwyr cyffredin I’w gael

Mae’r diafol mewn penbleth beth I’w wneuthur yn wir
A holl arweinwyr y GIG a’r cynghorau Sir.

Ac os mai cael cam fydd yr Arglwydd de Grey
Fe gaiff pawb eu haeddiant yn uffern neu’r ne’.

Huw Dylan 9.5

Tir Mawr

Wrth fartshio’i gefn y llwyfan yn clebar fatha brain
Fei stopwyd yn eu hunfan gan Εµr bach eiddil main
“Nyni yw Côr y Crachod yn dod i hawlio’n lle
Ar lwyfan mawr y ‘Steddfod ! Symudwch ddyn ! Gwnewch le !”
“Os ewch i lawr i’r pentra i’r Constitiwsion Hôl
Ble mae’r rhagbrofion, gynta, cewch ella ddod yn ôl “
“ Da ni’m di dod i fa’ma i bonshian mewn pri-lym
Mewn neuadd dwy a dima. Symudwch ! Rwan hyn !”
Fe roddwyd swadan iddo. Disgynodd ar y mat.
Yr un fu weithiau’n sharpio oedd n’awr yn hollol fflat.
“I’r Gâd !” medd Now’r unawdydd gan ymfflamychu’r Crach
A ruthrodd efo’i gilydd am Dai y Stiward bach
D’oedd dim ond un Dai Cwando, pum deg ohonyn nhw
Roedd Dai’n Flac Belt mewn jiwdo , jiwjitsw a chyng ffw
Ac yno’m Mrhifwyl Gwalia fe gafwyd gwledd di fai
Dai Cwando’n mynd i hwylia a’r côr yn mynd yn llai
Daeth Myrddin efo’i orsadd. Cadoediad ! Diolch i Dduw
A draw a nhw i‘r neuadd ( y rhai oedd dal yn fyw ).
I’r briw fe dolltwyd halan, r’ôl colli’n ddi ymwâd
Fe fetho’ nhw gael llwyfan fel deuawd canu gwlad

Gareth Jôs 8.5

7 Ateb llinell ar y pryd – S’dim hawl protestio am hyn

Arglwydd de Grey

William, tywysog, gelyn
S’dim hawl protestio am hyn

Arwel Emlyn Jones 0.5

Tir Mawr

Yn dlawd gan edliw wedyn
S’dim hawl protestio am hyn

Huw Erith

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cartref Newydd

Arglwydd de Grey

Tynnu’r drws o’m hôl
A’i gau’n glep ar atgofion.
Ei thywys at y car
Ar gyfer y daith fer, hir
I’w chartref newydd.

Cyrraedd ei stafell.
Ei llygaid gwag yn crwydro’r stafell foel.
A’i hwyneb yn gwestiwn.

Dadbacio.
Rhoi ar y bwrdd bach yr albwm
Lle cofnodais iddi gyfoeth ei hanes.

Yna, gorfod troi a’i gadael
Yn y cartref newydd,
Lle na all greu atgofion.

Eleri Jones 9

Tir Mawr

Y gaeaf diwethaf, dychwelwyd chwe thrysor o ddinas Benin yn Nigeria a ladratawyd gan fyddin Ymerodraeth Prydain yn Oes Fictoria

Ar ôl teithio bellter
o stordy i gerbyd,
i grombil awyren,
cefn lorri hefyd,

Heb sôn am lwybrau
y llythyrau cerydd,
dadl mewn senedd
a chodi cywilydd,

Dyma ni’n cyrraedd.
Ac mae’r bobl yn galw
i ddathlu na lwyddodd
crafanc ein cadw.

Wrth i’r plant roi cân
ar y carped croeso,
mae’r drws sy’n agor
yn gyfarwydd eto.

Myrddin ap Dafydd 9.5

9 Englyn: Maneg neu Menyg

Arglwydd de Grey

Nid gwead sy’n rhΘƒd yw’r rhain – yn elwa
Ar draul dwylo’r dwyrain,
Ond gwead cariad cywrain
Wedi eu gwneud Θƒ gwên nain.

Arwel Emlyn Jones 9

Tir Mawr

Er bod sbel ers y ffarwelio a swyn
Nos hwyr gafael dwylo,
Yn selog, wrth noswylio,
Yn ôl af at ei law o.

Carys Parry 9.5