Cerddi Rowndiau Gynderfynol 2023
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Sut i ennill yn y Sioe Frenhinol
Dros yr Aber
Ma’ angen cefen cadarn, /y frest yn pwyso mla’n,
y ffroene lan yn uchel,/ a brwsh drwy’r blewiach mân;
cyhyre'r coese’n dangos,/ a da rhoi ambell winc,
ond cofia’n fwy na phopeth/ fod y pwrs ’di sgrwbo’n binc.
Iwan Rhys 8.5
Tir Mawr
Drwy wisgo, mewn gwres, dei a choler
A bowio i’r beirniad mewn bowler,
Rhoi salìwt yn y ring
I filwyr y king,
Bydd gen ti well cyfle o lawer.
Huw Erith 8.5
2 Cwpled caeth ar yr odl ‘ant’
Dros yr Aber
Mae iaith ar ddibyn methiant
os pyla hi o sgwrs plant.
Carwyn Eckley 8.5
Tir Mawr
Yn y cefn, wyth deg y cant,
Eu heniaith ni feddianant.
Carys Parry 8.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Wrth bacio fy siwtces eleni'
Dros yr Aber
Wrth bacio fy siwtces eleni
i mewn aeth llyfr Carys, "My Poetry",
"Giât Goch: Greatets Hits",
"Huw Erith: Best Bits",
a'r thriler, "An Archdruid's Story".
Rhys Iorwerth 8.5
Tir Mawr
Wrth bacio fy siwtces eleni,
Ystyriwch fod gennyf, o ddifri,
Ddwy bullet proof vest
I fynd i’r Sdedd-fest -
Mi wn fod na rai am fy ngwaed i.
Myrddin ap Dafydd 8.5
4 Cywydd (rhwng 12 ac 18 llinell): Perfformiad
Dros yr Aber
Â’r tai gweigion yn cronni
trwy’r haf yn fy ’mhentre’ i,
dan do aelwyd, dwi’n diawlio
mor rhwydd y gwerthwyd fy mro.
Dwi’n rhegi’r ‘pethau diarth’,
a rhwng bob gair, mae’r gair ‘gwarth’.
Yn oer wrth gael fy nharo
â’r arwydd ‘Sold’, cwrddais o’n
neidio o’i waith i ’ngwlad i,
o’i siwt i’w dop Man City.
Wedi’r llith o felltithio,
ces, yn bwdwr, sgwrs ag o.
Nid o’wn mor frwnt, hwnt i’r tΕ· –
yn Εµr ewn wedi rhynnu’n
dweud dim am gymuned aeth,
hewl wrth hewl, i’w marwolaeth.
Herio’r drefn dwi’n ei gefn-o.
Dwi’n neb yn ei wyneb o.
Carwyn Eckley 10
Tir Mawr
I Gôr Meibion Carnguwch, Llithfaen, yn paratoi at y Genedlaethol ym Moduan
Tir yr Eifl dan gwmwl trwm
a’r Fic sy’n hawlio’r faciwm –
nos Fercher ’marfer, ac mae
i gôr ei firi geiriau.
Clochdar drwy’r bar mae berw’r
meibion ar eu noson nhw –
sioe o herian cyn canu,
crawc a gwrid, a’r cràc yn gry.
Yna daw’r ust yn ei dro –
côr clên y caru clownio
yn ddwylein ac yn ddeulais
yn clirio’r llwnc, oelio’r llais.
Sythu. Gwynt. A saeth y gwaith
yn drywaniad ar unwaith:
anelu am Foduan.
Troi’r angerdd yn gerdd, yn gân,
i hawlio’r llwyfan annwyl:
hawlio i’r Eifl olau’r Εµyl.
Myrddin ap Dafydd 10
5 Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Mi ddymunais fil o weithiau’
Dros yr Aber
Mi ddymunais fil o weithiau
ddod o hyd i'r union eiriau.
Wedi'u cael, dymunaf filgwaith
ddod o hyd i'r amser perffaith.
Marged Tudur 9
Tir Mawr
Mi ddymunais fil o weithiau
Am rhyw ffordd i guddio nghreithiau,
Gwn yn awr mai trwy eu cuddio
Y gadewais iddo mrifio.
Carys Parry 8.5
6 Cân ysgafn: Diwygio
Dros yr Aber
Hybarch etholedig Gadeirydd Cyngor Plwy
Llan-gyntun-llwyn-banana-pwrs-y-bugail-tost-ar-wy.
Fe ddaeth i’m sylw heddiw bod y bin ar dop Lôn Grap
ryw bedair modfedd allan o’r hyn sydd ar y map.
Cynlluniwyd, do, a drafftiwyd, gan ddilyn deddfau’r wlad;
trafodwyd, ymgynghorwyd, a chafwyd caniatâd.
A’r bin sy’n un godidog, yn wir mae’n destun clod,
ond y bin sydd wedi’i osod lle nad yw’r bin i fod.
Mae gennych ddyletswyddau i bawb sy’n byw’n y plwy
a’r bin, yn ei leoliad, sy’n groes i’w hawliau hwy.
Am fod y drefn gynllunio yn llawn rheolau tynn
rhy gymhleth ydyw bellach i symud safle’r bin.
I sicrhau cywirdeb yr hyn sydd ar y map
yr unig ddewis amlwg yw symud tai Lôn Grap.
Mae’n siΕµr y bydd trigolion yn cwyno am y strach
o symud pob un tΕ·’n y rhes dim ond lled bricsen fach
ond o’u symud bedair modfedd yn union draw i’r dde
fe fydd y bin, yn ôl y map, yn gywir yn ei le.
Os hoffech gael dyfynbris, rhowch alwad chwap i mi,
perchennog Cwmni Bildars Llawn Llathen PLC.
Iwan Rhys 10
Tir Mawr
D’wn i ddim os ‘da chi’n cofio ond fe gefais fy nghondemnio
Ro’n i’n fanno’n dechrae swingio’n ffordd at Dduw
Dyna’r raff yn rhwygo’n ddarna’ Crachod Lludw wedi’w bwyta
Clod i’r Arglwydd !, Haleliwia ! Ro’n i’n fyw !
Dyna wedyn benderfynnu ar bob dydd ddilynodd hyny
Na wnawn lyfu, cnoi na llyncu’r Crachod mwyn
Ond yn hytrach canolbwyntio ar eu gwarchod nhw a’u bridio
Nes bod degau lawr bob twll a fyny’n nhrwyn
Wel yr ora’ un oedd Lydia. Roedd hi’n fwy na dim ond ffrindia
Yn fy swyno o ben bora tan yr hwyr
Gyda’i dawn wrth ddawnsio’r Salsa efo’i thair ar ddeg o goesa’
( Roedd ‘di colli un yn rwla…Duw a Εµyr )
Ond fe hoffwn ychwanegu doedd ‘na’m secs na giamocs felly
Gan ein bod rhy hen i hyny erbyn hyn
Fe ddirywiodd petha’ wedyn, Dalwyd Lydia gan bry copyn *
Ac fe’i llusgodd nôl i’w ffau tu ôl i’r bin
Gyda hyny, ar amrantiad, wrth ei weld o’n cymryd cegiad,
Fe ddaeth diwedd ar ddiwygiad Gareth Jôs
Roedd fy methiant yn anorfod ond Hwre ! Mae bwyd yn barod !
Crachod Lludw , Grefi Nionod , Tshili Sôs
( * Enw’r llofrudd ydoedd Raymond, un yn wreiddiol o Loch Lomond
A ddaeth draw yn sgil dyn glô o’r enw Hans
O dan echel ei Ferlingo, stori arall ydi honno
Fe’i adroddaf rhywbryd eto os gai jians )
Gareth Jones Giatgoch 9.5
7 Ateb llinell ar y pryd – Awn ar streic i rwystro hyn
Dros yr Aber
Ebe’r grachen o’r menyn
Awn ar streic i rwystro hyn
Carwyn Eckley
Tir Mawr
Murdoch a’i bapur mochyn
Awn ar streic i rwystro hyn
Huw Erith 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Caniatâd
Dros yr Aber
Llithraist ohona i’n hanner griddfan,
cyn lapio carthen yn dwt amdanat,
troi dy gefn a gadael dy oglau
yn hofran yn y gwely rhyngom ni.
Cyn hyn wyddwn i ddim bod plaster y to’n sigo,
bod diferyn o baent wedi syrthio o’r wal ar y sgyrting,
bod bleinds drws nesaf yn mynnu clepian,
a dy fod di ddim yn deall ystyr ‘na’.
Dwi’n chwilio am f’anadl.
Yn ara bach, dwi’n cyffwrdd fy nghorff
er mwyn gwneud yn siΕµr ’mod i’n dal yno.
Dwi mor fach â bocs matshys.
Ti’n dechrau chwyrnu.
Marged Tudur 10
Tir Mawr
Mi fu terfysg yn Llithfaen yn 1812 pan gafodd y tir comin ei ddwyn oddi ar deuluoedd y tai unnos ac mi heliwyd yr arweinydd i Awstralia.
Hedydd rhydd y mynydd
Yn dringo ar ei gerdd
Wrth fynnu nyth i’w gywion
Ar y ddaear werdd:
Hon yw ’nghân ar Fôr y De
Yn sΕµn cadwynau Botany Bay.
Arogl gwlith y mwsog
Wrth blethu crib to cawn
A’r wawr yn cael ei hawlio
Gan gwmwl mwg tân mawn
Glywaf eto yn fy ffroen
Wrth i’r chwip aredig croen.
Saith mlynedd o lafur caled
Ac yna’r papur gwyn
Sy’n trosglwyddo imi
Blot ar y tiroedd hyn
Fu’n gomin tylwyth arall sydd
Tu draw i’r ffens rownd pobl rydd.
Myrddin ap Dafydd 9.5
9 Englyn: Eicon
Dros yr Aber
Os agoraf y sgwaryn, sweip wrth sweip,
af yn sownd am dipyn.
Yna sadiaf yn sydyn
a’i gau wnaf, awr wag yn hΕ·n.
Rhys Iorwerth 9.5
Tir Mawr
Y Gelli Gandryll… tref lyfrau gynta’r byd
Blas ei darllen lond fy mhen-i; – bodio’r
lleufer byd sydd ynddi
o gell i gell; ymgolli’n
yr haul rhwng ei chloriau hi.
Carys Parry 9.5