Cerddi Rownd 1 2003
1 Trydargerdd: pennill yn esbonio enw unrhyw le yn Ewrop
Llanrug (JR)
Hwn yw y lle, ond ni wn i pam,
Y diflannodd fy Hamster. Dam!
John Roberts 8
Arglwydd de Grey
“Wnei-di wneud y full Monty, Carlo?”
Oedd cais Prinses Grace wrth ei weld-o,
Roedd Diana yn flin
Pan ddangosodd ei dîn,
Ond enwyd y lle ar ei ôl-o!
Steffan Tudor 8.5
Yma unwaith nid oedd ond tyddyn
A phorfa grintach Dic Cae RhedynRJR
Ymchwiliais yn ddyfal i hanes ein hardal
Gan geisio, fel amryw chwilotwr o’m blaen,
Olrhain enwau pob cae a phob tyddyn,
Pob pentre, pob afon, pob cors a phob gwaun.
Er gwaethaf f’ymdrechion, fe erys dirgelwch,
Be goblyn di tarddiad Penis ar Waun? IR
2 Cwpled Caeth yn cynnwys enw unrhyw fath neu wneuthuriad o esgid
Llanrug (DWT)
 Gwyn gyda’i swnllyd gi
I siop hapus. HUSH puppy!
Iwan Roberts 8
Arglwydd de Grey
Mwya' pla yw Trump i'w wlad
A didast ydyw wastad.
Arwel Emlyn 8
I Jôs Maths, chwip oedd slipar,
er y gown, nid athro gwâr. RLlJ
Y brawd na chafodd iawn bris
A wylodd mewn i'w “wellies”.
Gwych oedd dal lladron caled,
di-sΕµn yn eu 'sgidia “suede”.
Hen ffΕµl rhag y dreth yn ffoi,
cybydd mewn 'sgidia cowboi.
Hen ffΕµl yn mwynhau y ffars
Yn hapus yn ei slipars.
Gwasgu wna'r carpiog esgid
Ond Rishi drig mewn sleidar drud.
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Un bore wrth godi o’r gwely’
Llanrug (DWT)
Un bore wrth godi o’r gwely
Gwraig drws nesa’n yr ardd oedd yn canu
Yn noethlymun lyfli
Mewn gwlith yn ymolchi:
Mi godaf yn gynt bore fory.
Dafydd Whiteside Thomas 8.5
Arglwydd de Grey
Un bore wrth godi o’r gwely,
daeth synau go od draw o’r beudy.
Nid brefu na rhochian,
ond caru a thuchan,
5 seren yw safon ein llety.
Dyfan Phillips 8
Un bore wrth godi o’r gwely,
‘Rôl sesiwn go wyllt yn yr Hendy,
Nid y musus oedd hi
Dan y dwfe ‘da fi,
Ac ro’n ni’n Premier Inn Tonypandy.
. ‘Un bore wrth godi o’r gwely,
daeth galwad gan adran o’r ‘sbyty.
ond yr oedd drysfa,
drwy’r post ges viagra,
‘Stiff neck’ gefais wedi ei lyncu.
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn cynnwy y llinell ‘Trwy’r rhew rhaid ei mentro hi’
Llanrug (RLlJ)
Un ‘stafell ei thΕ· bellach,
erw’i byd yw’r parlwr bach;
tân un ring, ei chotiau’n rhes
i gynnal swatio’n gynnes.
Un golau plwg, gwely plyg,
bob awr daw cwmwl barrug.
I’r dre’ â’r ferch bnawn Mercher,
A mynd â’r oerni’n ei mêr
Nid i’r banc, ond i’r banc bwyd
a’r rhoddion mor hael roddwyd,
tuniau cawl, torth I’w phorthi
trwy’r rhew rhaid ei mentro hi.
Richard Llwyd Jones 9
Arglwydd de Grey
Eira
Trwy'r rhew rhaid ei mentro hi
Dros dir di-eiriau'r stori,
eira mawr yw'r oriau mud,
Dro sur ar draws y weryd,
Mae i'r oerfel dawelwch
Sy'n drwm, drwm a'r eira'n drwch,
Ceir lluwch i'r wal a dal dig
Nerth dweud yn wrthodedig,
Ffrae undydd mewn dyffryndir...
A dweud "sori’n" toddi'r tir,
Gwelais wên ei heulwen hi,
Mae'r aelwyd yn meirioli.
Arwel Emlyn 9.5
5 Pennill ymson mewn siop fferyllydd
Llanrug (DWT)
Llond silffoedd o focsus, pacedi, poteli,
A rhywun draw fan’cw yn prynu tabledi;
Siop fferyllydd ‘di hon – ac mae’n amherthnasol;
Drws nesa dwi’i fod yn profi am sbectol.
Iwan Roberts 8
Arglwydd de Grey
Pan oeddwn yn ifanc a nwydus/ A merched yn llenwi fy myd,
I siop y fferyllydd lleol/ Yr awn o hyd ac o hyd.
Down o’no a phaced o ‘aspirin’/ A jariau o ‘Vic’ lond y lle,
Ffisig dolur gwddw ac anwyd,/ Eli at bob dim dan y ne.
Fe brynais sawl bandej a phlastar/ Heb ddefnydd I’r geriach I gyd,
Y drwg oedd mai gwraig gw’nidog Bethel/ Oedd tu ol I’r cowntar o hyd.
Huw Dylan 8.5
“Oes gynno chi rwbath at rigian?”
Meddwn wrth y fferyllydd rhyw bnawn,
Fe neidiodd yn sydyn dros cowntar
Ac fe’m peltiodd yn galed iawn,iawn.
“Be ddiawl wyt ti’n neud?” medda finna,
“Wel yli ti’n ddi-rigian dy fyd.”
“Ydw ond nid dyna di hanes
Y wraig sy’n y car ar y stryd.
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Arbedion
Llanrug (DWT)
Deg eiliad yn llai na dau funud sydd gen i
A dim ond ugain llinell a gaf i i’w llenwi.
Amodau gan Meuryn ar be gaf ei wneud
Ac mae rheol, dwi’n siΕµr, ar be gaf i ddweud.
Mae gwaharddiad ar soned! Soned i’ch swyno
(Ble fyddai Shakespeare a’i sonedau serch o?)
Meddyliwch, mewn difrif am y ffasiwn reol:
Fyddai T. H. Parry-Williams ddim ‘di sgwennu ‘TΕ·’r Ysgol’.
‘Heb fod’ sydd yn amod deirgwaith mewn tasg
A chaf refru gan hwn o rΕµan tan Pasg,
Ond chi, gynulleidfa ddeallus, ddiwylliedig
Roith glust a chefnogaeth i fardd rhwystredig.
Arbedion, Arbedion, a mwy o arbedion;
Ar - be - dio’n feddwl mae beirdd yn byw
Os na chawn nhw sgwennu fel y mynnon, wir Dduw!
Dafydd Whiteside Thomas 9.5
Arglwydd de Grey
Does dim byd arall yn y newyddion leni
Ma angen arbedion gan fod prisiau’n codi.
Pob dim dan haul a hynny’n cynnwys eich claddu
Ond sut ma costau byw ydi’r rheswm am hynny.
Ma rhai mysg y crach yn cael gwared o’r ‘nani’
A dysgu enwau’I plant yn lle ei chyflogi.
Wel dwi am gael gwared o fy ffon symudol
A holl geriach y cyfryngau anghymdeithasol
Ma prisia yr ‘i-ffon’ di codi’n aruthrol
Ond ma cael ffon yn eich ty yn fwy na digonol
Ac os ydych yn syrthio fydd dim angen gweddi
Mai asgwrn nid yr i-ffon sydd wedi torri.
Dwi am roi’r gorau I Netflix sydd bellach mor ddrud
A gwylio ‘repeats’ ar S4C o hyd ac o hyd
Ac er bod y teulu’n gwrthwynebu yn groch
Fe arbedai ddigon I brynu ty’n Abersoch.
Ond er bod costau byw’n dal I godi a chodi
Mae’n dal I fod yn boblogaidd iawn yn tydi?
Huw Dylan 9
7 Ateb llinell ar y pryd – Rwy’n un o’r rheiny a wêl
Llanrug
Rwy’n un o’r rheiny a wêl
Y fferu ymhob ffarwel
Dafydd Whiteside Thomas 0.5
Yr Arglwydd de Grey
Rwy’n un o’r rheiny a wêl
Y gorau tua’r gorwel
Arwel Emlyn 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Ffordd Osgoi
Llanrug (DWT)
Cadair gyfforddus o flaen y drws ffrynt
A hen ambarel i warchod rhag yr haul.
Eisteddai’r henwr yn gwylio’r rhesi traffig
Yn malwennu eu ffordd heibio’r tΕ·.
Ambell un yn canu corn
Ac yntau’n codi’i law a’u cyfarch
Fel pe bai wedi eu nabod ‘rioed.
Cadair wag a hen ambarel –
A’r falwoden swnllyd yn gwibio
Ar lwybr arall.
Dafydd Whiteside Thomas 9
Arglwydd de Grey
Roedd teithiau car plentyndod yn addysg,
Yn hir, ond difyr
Â’r gyrrwr yn gyfarwydd.
“Llywelyn Fawr ydy hwnna,
A’i drem yn herio waliau’r castell draw . . .
Fanna roedd gweithdy Daniel
Lle brodiodd yn gywrain ar liain ein llên . . .
Dacw’r gofeb i Robert Owen,
A’i osgo’n cysgodi plentyn bach . . .
Rhwng muriau’r capel hwn gwnaed cam
Gwrthod ordeinio Emrys ap . . .”
A chan fendithio’r golau coch,
“Dyna’r tΕ· lle ganed Gwenallt”.
Heddiw, a bywyd yn ras,
dwi’n gwasgu’r sbardun.
Y ffordd yn glir o’m blaen
A’r ddau ar eu ffonau yn y cefn
yn dlotach.
Dyfan Phillips yn darllen gwaith Eleri Jones
9 Englyn: Mrs Jones Llanrug
Llanrug (JR)
Un fwyn, ond tafod finiog; - swyna bawb
 ‘sywnbéits’ go bigog;
Un ffraeth, ond teigar mewn ffrog;
Ni’n hunain yw’r nain enwog!
John Roberts 9
Arglwydd de Grey
I ni werin, dihareb, a hynod
ei henw di-wyneb,
eto i lu'n cyfateb,
ond i ni nid yw yn neb.
John Owen 9