Cerddi Rownd 2 2023
1 Trydargerdd: Neges yn esbonio newid i’r amserlen ddarlledu
Dros yr Aber
gan @S4C
Carlo’n cael ei goroni sydd i fod,
o sedd fawr yr Abbey...
Ond hwyl y twmffat Wali,
dyna nawr ddarlledwn ni.
Rhys Iorwerth 8
Bro Alaw
Ar ôl penderfyniad dewr ac arloesol Pwyllgor Rheoli’r Eisteddfod Ryngwladol,
Cafwyd cytundeb i gydymffurfio, ac felly rydym yn ymddiheuro,
Ar ddydd y coroni ni fydd ailddarllediad o raglen glasurol dydd y cadoediad:
Ni oddefir bellach Dame Vera Lynn yn canu am Dover a’r clogwyni *
John Wyn Jones 8.5
2 Cwpled caeth: arwyddair i glwb hwylio
Dros yr Aber
I’r môr, ewch, a chewch o hyd
yn eich hwyliau ddychwelyd.
Rhys Iorwerth 9
Bro Alaw (KO)
Hafan i hen griw annwyl
Ydyw hwn i godi hwyl.
Ken Owen 8.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Fy mhleser yw gyrru fy nhractor’
Dros yr Aber
Fy mhleser yw gyrru fy nhractor
ar draethau rhwng Nefyn a Phorthor.
I'r rhai’n sownd mewn tywod,
cynigiaf o uchod:
“You ought to have holidayed dramor.”
Carwyn Eckley 8.5
Bro Alaw (IR)
‘Fy mhleser yw gyrru fy nhractor’
Mae ‘ngwraig i am i mi weld doctor,
“Os ‘di’r thirty-five X
Yn lot gwell na secs
Dwi’m isio dy nabod di rhagor!”
Ioan Roberts 8.5
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Grym
Dros yr Aber (CE)
Bu farw Mhasa Amini yn 22 oed ar ôl cael ei churo gan heddlu moesoldeb Iran am beidio â chydymffurfio â rheolau hijab y wlad. Mae mwy na 500 o bobl wedi marw mewn protestiadau yn Iran ers hynny, gan gynnwys 40 o blant.
Saif y ddinas â Mhasa’n
ei chywilydd, a’r dydd ar dân.
Â’i rhyfel hi’n gefn i’r floedd,
stΕµr o waed ddaeth i’r strydoedd
a gair Duw yn gyrru dyn
yn ddi-hid i ladd wedyn.
Yn Nhehran y taranu,
â gwawr ddig i’r awyr ddu,
merch â'i chri sy’n profi pris
dyn a Duw yn eu dewis.
Carwyn Eckley 9.5
Bro Alaw (RPJ)
Un glec i’w chlywed yn glir,
Un cryndod dan y crindir,
Yn ysgwyd gwlad doriad dydd
A’i rheibio’n wyllt ddirybudd,
Ei grym yn chwalu’r muriau
Yn eu dydd fu’n rhannu dau
Ddiwylliant; un amrantiad
Yno’n glo ar hiliaeth gwlad,
A dynion mwy’n cyd-dynnu
Gyda’u tasg ail-godi tΕ·;
Cânt o raid, drwy’r llaid a llwch,
Eu gyrru ‘ngrym brawdgarwch.
Richard Parry Jones 9
5 Triban neu bennill telyn yn seiliedig ar unrhyw ddihareb
Dros yr Aber
Tonc, tonc, tonc yw sΕµn y morthwyl.
Tonc, tonc, tonc. Wel iesgob annwyl!
Tonc, tonc, tonc. Rwy'n hwffian-pwffian
ond mae’r garreg ’dal yn gyfan!
Iwan Rhys 9
Bro Alaw
Llais telyn a ddychryn ddiawl
Tro nesa’ don nhw yma
I’n hysgwyd efo’u Haka,
Rhown Gôr Cerdd Dant i’w hateb hwy –
A’u dychryn drwy eu tina’.
John Wyn Jones 9
6 Cân ysgafn: Y Vox Pop
Dros yr Aber (IRh)
Angor: Fe ddaeth y newydd heddiw am yr Armagedon mawr.
Dinistriwyd holl ddinasoedd byd mewn cwta hanner awr.
Ein gohebydd, Beni Waered, ar fore Dydd y Farn,
aeth i gwrdd â phobl Bethel i ofyn am eu barn.
Beni: A’r byd yn darfod heddiw, beth wnewch chi, syr, o’r newydd?
Llais 1: Mi fyse’n well ’sa nhw ’di rhoi rhyw wythnos fach o rybudd.
Beni: Mae’r Armagedon yma. Am hynny, beth ddwedwch chi
â phawb mewn gwae a gwewyr, byth bythoedd?
Llais 2: Motsh gin i.
Dwn i’m be di'r ffα»³s i gyd – y sgrechian mawr a'r wylo.
Mond gwisgo masg sydd angen, a chanu wrth olchi dwylo.
Beni: Sut ydych chi yn teimlo, syr?
Llais 3: Wir yr, dwi'n hollol gutted.
Be ’na i efo ’nhocyn gêm Lerpwl Man United?
Beni: Be wnewch chi o’r Armagedon?
Llais 4: Mi wnes fwynhau’r un gynta.
Ond sut ma’ cael Bruce Willis yn ôl yn fyw tro yma?
Beni: Beth ddwedwch chithau, madam?
Llais 5: O! Dwn i’m be i ddeud.
Oes gen i amser, dudwch, i gael ’y ngwallt di ’neud?
Beni: Esgusodwch fi, ga i ofyn, beth fydd eich swper ola?
Llais 6: Mae’n well ’mi fwyta’r samon sy’n ’ffrij, neu fydd ’ma ogla.
Angor: Mae’n ddrwg gen i darfu ar Beni, ond mae sôn bod Dydd y Farn,
yn ôl ein ffynonellau, newydd gyrraedd Talysarn.
Iwan Rhys 9.5
Bro Alaw (KO)
Côt ledar, mwfflar ffansi, o dan ymbarél mawr gwych,
A phâr o fwtshias lledar sydd yn cadw’i draed yn sych -
Does neb peryglach ‘nôl y sôn na dyn y BîB a’i feicroffôn.
Mae’n nelu’n syth fel hebog at y dridws yn y parc
Sy’n sbydu i bob cyfeiriad ond am un dyn bach di-sbarc;
Gafaelodd yn ei fraich yn dynn, gan feddwl: “Dyma’r POP fan hyn”.
Ac arthio “Be di’ch barn chi am y carthion o bob man
Sy’n cael eu gwagio yn y môr a’u golchi nôl i’r lan?”
“Wel dwn i ddim a deud y gwir, gwell yn y môr nag ar y tir.”
“Ond gyfaill beth am fusutôrs yn nofio yn y cach
Siawns na ‘da chi yn teimlo’n flin, ’di hyn erioed yn iach?”
“Wel ella, erbyn i chi sôn, ’dio ddim yn iawn – ddim yn Sir Fôn.”
“Di pobol y ffordd yma’n teimlo’n lloerig bost am hyn?”
“Wel, ia, mi ‘dwi’n meddwl, ella, bod o gwmpas gryn
Deimlada’ am y baw’n y dΕµr, ma’ hyn yn ddealladwy, siΕµr.”
“A dyna chi wrandawyr, lloerig leisiau yn gytûn,
Yn dweud eu dweud nad yn y môr mae’r lle i garthion dyn.
Mae pawb a gafodd ei gyfweld yn gwneud datganiad clir
Fod rhaid i’r awdurdodau ddiogelu traethau’r Sir!
Y farn UNfrydol heddiw’r pnawn yw nad yw peth fel hyn yn iawn!”
Ken Owen 9
7 Ateb llinell ar y pryd – ‘Ar y doc yn hwyr y dydd’
Dros yr Aber –
Ar y doc yn hwyr y dydd
Myn duw mae yna dywydd
Rhys Iorwerth 0.5
Bro Alaw
Ar y doc yn hwyr y dydd
Eleni daw’r miliwnydd
Richard Parry Jones 0.5
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Dod i Arfer
Dros yr Aber (MT)
I Dr Andy Gash, Radiolegydd Ymgynghorol Ysbyty Gwynedd sy’n ymddeol ar ôl 28 mlynedd
Mae’n agor ffeil,
yn plygu’n nes,
yn craffu.
 phelydrau’r sgrin yn chwilio’r tywyllwch,
mae’n clywed sΕµn traed,
meddyliau’n ymwroli, oedi a chnoc,
ac yn ateb ‘Dewch i mewn’.
Mae’n deall mesuriadau’r seibiadau,
yn gweld drwy niwl mewn llygaid,
yn adnabod pob plethiad gwefus
a chroen wedi’i grafu i’r byw ar gornel gewin.
Cerddodd y blynyddoedd drwy’r clinig
a hithau heddiw
sy’n gadael drwy’r drysau troi
yn fwy nag enw ar famogram.
Marged Tudur 9.5
Bro Alaw (IR)
Dod i arfer â bod ei hunan,
Y dryswch dyddiol o fodoli,
Dod i arfer gyda’r niwl.
Cofio.
Cofio, weithiau.
Cofio g’leuo cannwyll ar storom eira,
Ei gosod yn ofalus yn y ffenest,
Un fflam yn y t’wyllwch i arwain ei gΕµr at seintwar ei gartre’.
Cofio’r gollyngdod wrth glywed sΕµn y glicied.
Ond bellach rhaid dod i arfer,
Er y disgwyl,
Nad yw’n dod.
Weithiau mae’r fflam yn cynnau
A gwên ’y bachgen bach’ fel llafn o heulwen
A chopa’r Gyrn yn glir,
Cyn daw’r niwl yn ôl i’w diffodd.
Er chwilio, chwilio am ei channwyll
Dim ond nos sydd o’i chwmpas.
——
Ond ’does dim dod i arfer
A gweld un fu mor gryf, ar goll,
Wrth syllu o’r tu allan
Ar y storm tu mewn i’r tΕ·.
Ioan Roberts 9
9 Englyn: Arwydd
Dros yr Aber (RhI)
TΕ· ar werth... Ond fel bob tro, rhai o ffwrdd
ddaw â’r ffi’n ddidaro,
ac â swmp eu gasympio,
prynu tΕ· ddaw’n brynu bro.
Rhys Iorwerth 10
Bro Alaw (RPJ)
Eisteddfod Llangollen
Ni ddichon i Εµyl heddychiaeth – warchod,
Na pharchu’n treftadaeth,
Pan yw’r call yn gibddall gaeth
Yn rhwyd eu ffug ddelfrydiaeth.
Richard Parry Jones 9
Hwyrach na wnaiff o yrru rhybuddion,
er y bydd o’n tyfu.
Aros am well amseru,
am awr waeth, mae’r tiwmor hy.