Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Cymdeithas Capeli Bro Hywel Dda Dathlu'r Deugain
Tachwedd / Rhagfyr 2008
Mae Cymdeithas Capeli Bro Hywel Dda wedi dod ynghyd er mwyn dathlu ei phenblwydd yn ddeugain oed.

Cynhaliwyd Cymanfa Ganu Cymdeithas Capeli Bro Hywel Dda yng nghapel Calfaria, Login ar nos Sul, Tachwedd 23ain.

Llywyddwyd yr oedfa gan y Cadeirydd Eurfyl Lewis, estynodd groeso cynnes i bawb, cyn cyflwyno a throsglwyddo'r awennau i ddwylo diogel a medrus dau arall o blant yr eglwys, sef Euros Rhys Evans yr arweinydd a Ceirios Jenner, y cyfeilydd.

Cadeirydd y noson oedd y Parchedig Aled Gwyn, gan taw yntau a thad Euros (sef y diweddar Barchedig Vincent Evans) fu'n gyfrifol am sefydlu'r Gymdeithas ddeugain mlynedd yn ôl.

Cafwyd araith ysbrydoledig ganddo yn ôl ei arfer, gan ddymuno pob llwyddiant i'r Gymdeithas i'r dyfodol.

Fe'n heriodd hefyd i barhau i gyfrannu tuag at y pethau gorau o fewn ein cymdeithas.

Nododd Eurfyl fod dros 80 o blant, ieuenctid ac oedolion wedi cymryd rhan yn y daith gerdded eleni gan ddechrau a gorffen yng nghapel Nebo, Efailwen.

Cafwyd gwledd ar y diwedd, wedi ei baratoi gan wragedd Nebo a Rhydwilym a diolchodd iddynt am hynny.

O ganlyniad i ymdrech y cerddwyr a'r noddwyr, llwyddwyd i godi'r swm teilwng o £3,750 (y mwayf erioed) i'w gyfrannu'n gyfartal rhwng Meddygfa Taf, Hendy Gwyn, Mencap Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru.

Cyflwynodd Eurfyl siec am £1,250 yr un i Dr Donna Maguire Meddygfa Taf, Rhodri Davies Ambiwlans Awyr Cymru ac i Mencap Cymru.

Bu Banc Barclays yn cefnogi'r daith gerdded dan eu cynllun £ am £ a chyflwynodd Faith Wright ddwy siec am £750 i Mencap Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru - cyfanswm, felly, o £5,250!

Cafwyd tair cân gan Carys, Megan a Nia (i gyfeiliant Ceirios) ac yna bu ieuenctid ac oedolion Calfaria yn ymuno â hwy i ganu "Y Brenin Tlawd".

Bu Corlan yn canu "Brenin y Sêr", "Tangnefeddwyr" a "Gwanwyn ein Gobaith" dan arweiniad Ceirios a chyfeiliant Heather Jenkins.

Cyfansoddwyd yr englyn yma yn arbennig ar gyfer y dathliad gan Wyn Owens o Fynachlog-ddu.

Ymlaen am ddeugain mlynedd - eto fyth,

Twf fo drwy'n gweithgaredd.

Cyd-deithiwn, noddwn mewn hedd.

Y gorau o'n gweithgaredd.

Diolchodd Eurfyl i swyddogion ac aelodau Calfaria am gael cynnal y Gymanfa yno ac i'r gwragedd am baratoi lluniaeth ar y festri, i'r cerddwyr a'r noddwyr, i Faith Wright a Banc Barclays, i Anna Williams am baratoi'r rhaglenni ac i bawb fu'n eu gwerthu, i blant, i ieuenctid ac oedolion Calfaria a Corlan am yr eitemau hyfryd, i Aled Gwyn y Cadeirydd, i Euros am arwain a Ceirios am gyfeilio, i'r gynulleidfa am gefnogi, i Wyn am gyfansoddi'r englyn, i Undeg Lewis y trysorydd am gasglu'r arian a gofalu am y cyfrifon ac i Laurence Bowen am drefnu'r daith gerdded a'r Gymanfa.

Bu Cedric Jones yn recordio'r Gymanfa Ganu ar gyfer Caniadaeth y Cysegr ac edrychwn ymlaen i'w glywed ar Radio Cymru tua diwedd mis Chwefror 2009.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý