Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Richard gyda Paul Tergat a Moses Tanui Helpu Plant Kenya
Hydref 2007
Mae pobl yn gyfarwydd ag Apêl 'Red Shoes' a ddechreuwyd gan Richard Owen, Y Bont-faen (mab Denley a Lon Owen, yn wreiddiol o'r ardal hon), er mwyn casglu adnoddau ymarfer ail-law i athletwyr yn Kenya.

Digwyddodd Richard gwrdd â Moses Karpire yn Kenya a dod ar draws uchelgais cyffredinol rhwng y ddau. Maent yn cyd weithio gan ffurfio cyfeillgarwch, cyfnewid ymweliadau a dysgu am eu gwahanol gefndir, traddodiadau a deallgarwch.

Gobeithiant sefydlu cysylltiadau a ddaw i sylw'r Cynulliad, i ffurfio dolen gyswllt rhwng Cymru ag Affrica er mwyn tynnu sylw at y tlodi, trwy gyfrwng Datblygiad y Mileniwm i gael gwared ar y tlodi yn y wlad honno.

Bu ateb i'r Apêl yn fwy o lawer na disgwyliadau Richard ac mae wedi medru hedfan i Kenya i drosglwyddo 140kg o'r dillad ymarfer a gyfrannwyd gan bobl y fro lle mae'n byw yn Sir Forgannwg.

Dyma grynodeb o'i brofiadau yn Kenya, yng ngwersyll ymarfer Moses.

"Rwy'n paratoi ar gyfer cael ychydig o gwsg (yn fy nillad) yng Ngwesty Shabyville yn nhref Kukura, gogledd-orllewin Kenya. Ddoe, cefais gynnig cwpanaid o laeth gafr! Does dim adnoddau yma - rwy'n ysu am gael 'cawod' a newid fy nillad - dim dŵr, dim drych a dim trydan. Er hyn, rwy'n bwriadu dod nôl i Kenya am ddau reswm. Yn gyntaf i drosglwyddo'r gwisgoedd trac a'r sgidiau i'r athletwyr yn y gwersyll ymarfer, yn Eldoret.

Mae'r athletwyr yn anfon eu diolch a'u gwerthfawrogiad i bawb a wnaeth hyn yn bosib. Gellir dilyn eu datblygiad ar y We (www.redshoesltd.com) Yn ail, roeddwn am drosglwyddo 140kg o'r 'kit' ail law a roddwyd i'r prosiect gan drigolion y Cymoedd. Neithiwr aethom o Nairobi (yn erbyn cynghorion i beidio gyrru yn ystod y nos oherwydd bod brodorion y Mungiki yn beryglus ac yn lladd) cawsom law trwm nes gwneud y trac i Eldoret fel afon!

Beth bynnag daeth toriad gwawr a llu o blant yn gadael eu cartrefi i gerdded y daith hir i'r ysgol. Roedd llawer ohonynt yn droednoeth, felly dyma ni'n agor y bocsus gan gyflwyno tua 100 pâr o esgidiau iddynt ac i'w rhieni troednoeth ar ôl ceisio sychu eu traed mwdlyd.

Gwelsom olygfa debyg am y daith o 200km ond nid oedd gennym ragor i'w gynnig. Diolchwyd inni gan y plant a'r oedolion a dderbyniodd esgidiau, gyda'r geiriau "Diolch i chwi a boed i chwi gael eich bendithio."

Ym mis Awst, byddwn yn dychwelyd i ddechrau prosiect unigryw o adeiladu ysgol gynradd, mewn pentref ar y Masai Mara - lle mae 76 o blant bach yn cael eu dysgu ar hyn o bryd mewn caban cyntefig, sy'n gollwng dŵr yn y gaeaf ac yn grasboeth yn yr haf. Adeiladir yr ysgol gan wirfoddolwyr gyda'r gobaith o ffurfio cysylltiad gyda'r gymuned yn y pentref.

Mae brodorion y MASAI yn enwog am eu balchder yn eu harferion a'u traddodiadau, mewn ffordd, maent yn dal i fod ar wahân i'r byd modern. Dylai'r prosiect fod yn brofiad arbennig!

Mae'r plant (8 - 16 oed) yn cerdded am dros ddwy awr i gyrraedd ysgol erbyn 8 o'r gloch y bore; hefyd cerdded nôl yn y prynhawn hwyr. Yn anochel, mae rhai plant yn methu dilyn yr ysgol yn rheolaidd.

Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Swyddfa "Red Shoes", yn y Bont-faen. Daliwch i gyfrannu dillad ac esgidiau er mwyn i ni fedru eu dosbarthu.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý