Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Clwb Henoed Llandysilio Clwb Henoed Llandysilio
Mehefin 2009
Mae Clwb Henoed Llandysilio wedi mwynhau diwrnod o deithio yn y De Orllewin.

Mae pethe nôl i'r arfer - y cinio misol a'r teithiau trampan wedi dechrau.

Mynd i Aberhonddu oedd y daith gyntaf eleni - Michael o gwmni Jones Login wrth y llyw ar fore braidd yn gawedog a rhyw 45 o aelodau'n clebran yn ddi-ben-draw, yn naturiol, ac un neu ddau o wynebau newydd yn ein plith - croeso iddynt.

Galw yn Llanymddyfri ar y ffordd am goffi a chyrraedd Aberhonddu tua hanner dydd.

Cafwyd cipolwg ar y dref cyn anelu am yr harbwr a mynd mewn i'r cwch hir, pwrpasol.

Cafwyd taith hir o ryw ddwy awr a chwarter ar y gamlas gan ddisgyn a chodi trwy un lloc.

Os am awr neu ddwy o ymlacio, dyma'r ffordd o wneud hynny! Y gwanwyn yn ei anterth a lliwiau'r blodau yn arbennig. Ar un adeg, cyn dyfod yr hewlydd tar, roedd yna brysurdeb eithriadol ar y camlesi ond hamddena yw eu pwrpas erbyn heddiw, a diolch am hynny, neu fe fyddent wedi cau.

Diweddwyd y diwrnod drwy gael swper yn yr 'Hydd Gwyn' yn Llandeilo - dechrau hwylus iawn i'r tymor; ni fyddai'n bosibl heb y trefnwyr, Gordon ac Eira; hefyd Michael a gymerodd le Adrian, y gyrrwr, am y tro. Diolch yn fawr i bawb!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý