Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Mae dwy o ysgolion bro'r Cardi Bach wedi eu cau yr haf hwn Rhwygo calon y gymuned
30 Medi 2002
Tristwch mawr yw gweld dwy ysgol wledig wedi cau ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd. Bydd pentrefwyr Llangynin a Chwmbach yn ymwybodol o'r tawelwch anarferol heb swn chwerthin na gweiddi plant yn atsain yn y gwynt.
Hwyrach bod rhesymau digon dilys am gau'r ysgolion, ond mae'r golled i'r ardal wledig hon yn aruthrol. Heb ysgol nid oes calon yn y gymuned.

Yn y lle cyntaf, ysgolion Categori A oedd y rhai hyn - ysgolion Cymraeg eu hiaith a'u ethos. Dysgodd mewnfudwyr yr iaith, ac roedd eu rhieni'n falch o'u camp. Cafodd plant bach y cyfle i gael eu haddysg yn eu cynefin heb orfod teithio milltiroedd i gyrraedd yr ysgol.

Dechreuodd y dirywiad yng nghyfnod Maggie Thatcher pan gafodd rhieni'r hawl i ddewis unrhyw ysgol, beth bynnag fo'i bellter, yn lle mynychu'r ysgol yn eu talgylch.

Cred rhai nad oedd ysgolion bach y wlad yn medru cyflawni gofynion y Cwricwlwm. Eto, pan oedd yr ysgolion bach yn cael arolwg, roedden nhw'n derbyn canmoliaeth uchel iawn.

Plant o ysgolion bach oedd Prif fechgyn a Phrif ferched yr Ysgolion Uwchradd yn aml iawn - plant â stamp eu milltir sgwâr arnyn nhw, a chynnyrch rhyw ysgol fach ddiarffordd yw'r rhan fwyaf o'n beirdd a'n llenorion cyfoes.

Beth ddaw o'r adeiladau hardd yma yng nghanol ein pentrefi? Pan gafodd Ysgol Ffynnonwen ei chau yn y 1970au prynwyd yr adeilad gan y gymuned leol, a thrwy ymdrech aruthrol y trigolion, mae'r lle yn Ganolfan i'r ardal ac yn dal i ffynnu.

Mae un ysgol yn y fro yn dal i ymladd am ei heinioes sef Ysgol Henllan Amgoed. Pob dymuniad da iddyn nhw yn eu hymdrech, os mai dyna yw dymuniad y gymuned.





0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý