Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Parchedig Ddoctor Felix Aubel Cyrddau sefydlu yn Nhrelech
Mai 2006
Mawrth 25, 2006 - diwrnod i'w gofio wrth sefydlu'r Parchedig Ddoctor Felix Aubel i'r capel
Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i'r Parchedig Ddoctor Felix Aubel

Cefndir: Os ydych yn aelod mewn capel, rydych yn gwybod mor fflat mae hi'n gallu bod os nad oes gweinidog ganddoch; neu yn waeth na fflat. Os ydych yn swyddog mewn capel heb weinidog, mae'r gofid yn fwy, ac mae dipyn o'ch amser yn mynd yn pendroni dros y trefniadau y gellir eu gwneud i geisio parhad i waith yr Eglwys.

Tua pedair blynedd yn ôl bu farw James Henry Jones gweinidog Capel y Graig, Penybont a Ffynnonbedr, ac wedi'r flwyddyn gyntaf, dechreuodd yr hunan-holi ynglŷn â'r ffordd ymlaen. Parhaodd y gobaith y byddem eto yn cael bugail, a chadwodd yr eglwysi yn weithgar iawn, ond heb ddod yn agosach at alw gweinidog.

Daeth Ionawr 2005 heb unrhyw arwydd bod pethau yn mynd i newid, ond daeth tro ar fyd gyda ymweliad y Parchg Ddr Felix Elfed Aubel â'r cylch, ym mis Chwefror ac wedyn ym mis Gorffennaf. Derbyniodd Dr Aubel alwad unfrydol yr ofalaeth ym mis Hydref a dechreuodd weinidogaethu yma ar Sul cyntaf o Fawrth.

Y Sefydlu: Daeth tyrfa ynghyd ar gyfer y cwrdd sefydlu yn y prynhawn, llawer ohonynt o Geredigion yn cynrychioli cyn-eglwysi'r gweinidog sef Neuadd-lwyd, Peniel Aberaeron, Llwyncelyn, Mydroilyn a Seilo Llan-non. Daeth eraill o ardal Y Cardi Bach a Clebran heblaw am aelodau'r dair Eglwys. Roedd nifer o weinidogion yn bresennol yn cynnwys y Parchg Robin Samuel (gofal am y sefydlu), y Parchg T Howell Mudd (offrymodd weddi'r urddo), y Parchg T J Irfon Evans (a bregethodd), a'r Parchgn Beti Wyn James, Jill Hailey Harries, Wynford Thomas, Guto Prys ap Gwynfor, Peter Thomas, Emyr Lyn Evans, Tom Defis, Kevin Davies, Irfon C Roberts, Gwyn Ieuan Morgan ac E Denzil James. Cynrychiolwyd cyn-ofalaeth Dr Aubel gan Mr Elfed Howells a Chyfundeb Aberteifi gan Mrs H Gwendoline Evans.

Mrs Alice Evans a gyflwynodd croeso Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin; siaradwyd dros yr ofalaeth gan Miss Mary Bowen (Capel y Graig), Mr Thomas John Griffiths (Penybont) a Mr Tomos Howells (Ffynnonbedr).

Mae'r croeso a geir wrth y byrddau yn rhan o ddigwyddiadau bywyd gwledig ac yr oedd digon o fwyd dros ben ar ô te i gynnig swper hefyd i gynulleidfa'r nos. Y gweinidog oedd llywydd y cwrdd hwyrol, pryd y pregethwyd gan y Parchedig D Andrew Lenny BA, Baker Street, Aberystwyth. Cymerwyd y rhannau arweiniol a cyhoeddwyd yr emynau gan Mrs Jean James-Lewis, Mrs Caroline Harries, Y Parch Dorian Samson, Mr Hugh Davies, Y Parchg Llinos Edwards a Mr Aeron Jones.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý