Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Nia o San Cler yng nghwmni ei dosbarth yn Ysgol Wamato yn Tanzania Nia yn Tanzania
Chwefror 2008
Ar ôl gorffen cwrs ysgol, 'roedd gan Nia Jones o San Clêr awydd cryf i wneud gwaith gwirfoddol, a phenderfynodd fynd i Affrica.

Ar ddechrau mis Hydref 2007, cychwynnodd o Faes Awyr Heathrow a chyrraedd Dar-el-salam yn ddiogel.

Roedd taith bellach i'w wneud cyn cyrraedd y llety yn Bahari Beach, ond cafodd groeso mawr, a rhyw ddeg yno tua'r un oedran, yn gwneud yr un peth â hithau.

Ei gwaith, yn ddyddiol, oedd mewn ysgol yn Wamato. Roedd wedi cario cymaint ag a fedrai o gopïau, pensiliau, biros, llyfrau pwrpasol ac yn y blaen, i'r ysgol ac roedd pawb mor ddiolchgar a gwerthfawrogol o bopeth.

Roedd yr ysgol bellter o'r llety - gwaith cerdded am rhyw ugain munud, yna cael bws neu feic am tua deugain munud, yna cerdded am hanner awr. Cyrraedd Wamato yn y bore a dysgu Saesneg i blant o ddeuddeg oed hyd bedair ar bymtheg. Plant amddifad a phlant y strydoedd oeddynt bob un, a phawb â chymaint o awydd ac awch am ddysgu. Roedd y cyfan yn ddiddorol iawn - pawb mor groesawgar a charedig o dan amgylchiadau anodd iawn.

Cafodd wahoddiad i'w cartrefi, a byddai yn anghwrtais i wrthod oherwydd roeddent mor barod i rannu yr hyn oedd ganddynt. Gwnaeth gyfeillion a ffrindiau newydd o amryw o wledydd ac maent yn awyddus i gadw mewn cysylltiad yn y blynyddoedd i ddod.

Roedd y penwythnos yn rhydd, felly 'roedd cyfle i' w ffrindiau a hithau gael amser braf i ymlacio, rhan amlaf ar draeth arbennig o brydferth o'r enw Kenduchi. Profiad anhygoel arall oedd un penwythnos ar Safari ym Mharc Cenedlaethol Ruaha. Aeth pedair ohonynt a thywysydd o'r enw Deo, mewn cludiant arbennig, dros dri chant wyth deg o filltiroedd i'w gyrraedd - taith tua naw awr, ond y cyfan yn werth chweil!

Mae ganddi ddegau o luniau diddorol iawn o bob math o anifeiliaid gwyllt, a' u gweld o hyd braich - un eliffant, un tro, yn rhy agos i fod yn gysurus, ond yr oedd yn brofiad nad aiff byth yn angof.

Pan ddaeth yn amser ymadael, nid oedd yn rhwydd. Cafodd barti ffarwel ac mae ganddi luniau ohoni a'r disgyblion yn drist o weld 'Teacharia' yn ymadael. Daeth ei thymor i ben a rhaid oedd troi am adref a chyrraedd erbyn y Nadolig. Roedd y cyfan yn brofiad arbennig iawn, ac mae'n ddiolchgar iawn ei bod wedi cael y cyfle i wneud y gwaith mewn lle mor ddifreintiedig ond gwerthfawrogol iawn.

Erbyn hyn mae Nia allan o Gymru unwaith eto, yn wynebu Awstralia, yna ymlaen i Seland Newydd, yna gweithio'i ffordd nôl i'r Unol Daleithiau, cyn setlo i lawr yng Nghymru, ymhen rhyw chwe mis.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý