Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Artistiaid y noson: Tecwyn Ifan, live Edwards, Beti a Siân Noson Fawr Y Cardi Bach
Chwefror 2005
Ar nos Wener Ionawr 21, cynhaliwyd Noson Raffl Fawr Clwb 200 y Cardi Bach yn Neuadd yr Hufenfa yn Hendygwyn.

'Roedd rhai o swyddogion y papur bro wedi gwneud ymdrech i sicrhau cyngerdd ynghyd â thynnu'r Raffl er mwyn ceisio denu mwy o bobl i ddod i'r noson. Siomedig iawn oedd y nifer a ddaeth ac y mae'n debyg na chynhelir cyngerdd eto a bydd yn rhaid cael rhyw ffordd arall i ddenu cynulleidfa.

Yn bersonol 'roeddwn yn teimlo'n flin iawn dros yr artistiaid lleol a oedd wedi dod yn rhad ac wedi rhoi o'u hamser i ddod i gefnogi y Cardi Bach. 'Rwy'n cydnabod bod llawer iawn ohonoch yn ein cefnogi trwy ymuno â Chlwb 200 ac yr ydym yn gwerthfawrogi hyn yn fawr, ond dylem i gyd geisio gadael ein cartrefi clyd a'r hen focs yna er mwyn cael gweld a chlywed adloniant llawer gwell, a hynny yn fyw.

Mae'n ofid arnaf ddweud hyn, ond os na wnawn ddechrau cefnogi gweithgareddau Cymraeg yn ein hardaloedd yn fuan, yna mewn ychydig flynyddoedd ni fydd dim ar gael, a ni fydd yn cwyno fwyaf wedyn fod y sefyllfa mor wael.

I ddychwelyd at y noson, cafwyd eitemau ardderchog gan grŵp newydd o ardal y Preseli sef Garej Dolwen. Gyda llaw byddant yn cymeryd rhan gyda chân a ysgrifennwyd ganddynt i gystadleuaeth Cân i Gymru ar Ddydd Gŵyl Dewi. Llongyfarchiadau mawr a dymuniadau da iddynt a chofiwch fotio drostynt. (Nodyn golygyddol - Cân y grŵp hwn oedd yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Cân i Gymru eleni.)

Cafwyd eitemau hefyd yn y cyngerdd gan Clive Edwards, Beti a Siân, a Tecwyn Ifan , ac yn ôl eu harfer 'roeddynt i gyd ar eu gorau, gyda Roy Llewellyn yn cadw'r noson yn ddifyr gyda'i storïau amrywiol. O ia - rhaid peidio anghofio yr eitem arbennig pan ddaeth Huw ymlaen i helpu Beti a Sian fel cefndir i Clive. Diolch yn fawr i bob un o'r artistiaid am eu gwasanaeth. Gallaf eich sicrhau fy mod yn bersonol wedi mwynhau pob eiliad o'r cyngerdd.

Hoffwn ddiolch i Ray ugh am y gwaith aruthrol y mae wedi ei gyflawni yn ei blwyddyn gyntaf fel trefnydd y Clwb 200. Cafodd dros 900 o aelodau ac mae hynny yn dipyn o gamp. Llongyfarchiadau i bawb a enillodd wobr yn y Raffl Fawr ac 'rwy'n hyderu y bydd pawb yn ymuno yn fuan eto er mwyn ceisio ennill y flwyddyn hon. Mae thestr o'r enillwyr i'w gweld yn rhifyn Chwefror 2005 o'r Cardi Bach.

Gair gan y Golygydd: John Arfon Jones.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý