Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Parchedig Beti Wyn James Anrhydeddu pobl leol
Medi 2006
Anrhydeddwyd rhai o bobol yr ardal hon yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 2006
Urdd Ofydd er Anrhydedd (Gwisg Werdd)
Parchedig Bed Wyn James, Caerfyrddin
Bu'n weinidog yn y Barri ac yn ddolen bwysig rhwng yr Eglwys Gymraeg a'r Ysgolion Cymraeg. Symudodd i Gaerfyrddin yn 2002 lle mae' n weithgar; un enghraifft o'i llu swyddogaethau yw Cadeirydd Pwyllgor Apêl Caerfyrddin ar gyfer Prifwyl yr Urdd, 2007.

Rhoswen LlewellynUrdd Derwydd er Anrhydedd (Gwisg Wen)
Rhoswen Llewellyn, Cwmfelin Mynach
Cafodd ei chymeradwyo gan lu o' i chyd-ardalwyr am ei gwaith gwirfoddol i fywyd ei bro. Bu'n bennaf gyfrifol am sefydlu Cangen Merched y Wawr, Gronw.

Arloesodd gyda Phapur Bro ei hardal (Y Cardi Bach) gan fod yn Llywydd, Golygydd a Chysodydd am tua chwarter canrif ac mae'n parhau i gyfrannu'n gyson iddo. Eleni, mae'n dathlu hanner can mlynedd fel athrawes Ysgol Sul Ramoth, Cwmfelin Mynach ac mae wedi arwain cenedlaethau o blant a phobl ifanc i arfer eu dawn gyhoeddus mewn pob math o weithgareddau. Mae hefyd yn llenor a bardd ac fe ddaeth i'r brig ar y gystadleuaeth `Portreadau o Dri Chymeriad Lleol' yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi, 2002.

Osi Rhys OsmondUrdd Derwydd er Anrhydedd (Gwisg Wen) Osi Rhys Osmond, Llansteffan.
Brodor o Watville, Gwent. Graddiodd o Goleg Celf Casnewydd a Chaerdydd. Mae'n wlatgarwr brwd a dysgodd Gymraeg yn nodedig o dda. Wedi ymsefydlu yn Llansteffan, y mae'n ennyn parch gan bawb am ei weithgarwch dros ei gymuned leol.

Bu'n gefnogol i orielau ym Mhenfro a Myrddin a rhoes gyngor a chefnogaeth fuddiol iawn i'r Brifwyl mewn cyswllt a Chelfyddyd Gweledol. Yn safon ei waith fel athro a darlithydd, ysbrydolodd genedlaethau o Artistiaid ifanc. Mae'n genhadwr effeithiol dros Gymru a Chymreictod ymhlith y di-Gymraeg ac ar y llwyfan rhyngwladol.

Urdd Cerddor (Gwisg Las)
Meinir Richards Mus.Bac., Y Garth, Llanddarog
Bu'n athrawes gerdd Gyfun Gyfun Gŵyr ac yn awr yn bennaeth adran gerdd Ysgol Bro Myrddin. Mae hefyd yn arweinydd Côr Llanddarog a'r cylch.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý